Eitem Rhaglen

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 2, 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2020/21.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor a rhoddodd drosolwg o berfformiad yn ystod y chwarter. Er gwaethaf yr amgylchiadau heriol a grëwyd gan y pandemig Coronafeirws a welodd y Cyngor yn addasu'r ffordd y mae'n gweithio i ymateb i'r argyfwng, gan gynnwys darparu gwasanaethau newydd tra hefyd yn cynnal gwasanaethau rheng flaen allweddol, cynnal busnes fel arfer lle bo modd, a sicrhau iechyd a diogelwch, roedd mwyafrif (88%) y  dangosyddion perfformiad sy'n cael eu monitro yn parhau i berfformio'n dda yn erbyn targedau (Gwyrdd neu Felyn dan y Cynllun CAG). Mae hwn yn ganlyniad calonogol yng nghyd-destun blwyddyn sydd wedi bod ymhell o fod yn un normal.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, atborth o drafodaethau'r Pwyllgor ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 yn ei gyfarfod ar 17 Tachwedd, 2020. Ar ôl cydnabod a mynegi gwerthfawrogiad o ymdrechion ac ymrwymiad gweithlu'r Cyngor yn ystod y cyfnod, roedd y Pwyllgor wedi canolbwyntio ar bocedi o danberfformiad yn y Gwasanaethau Tai, Cynllunio a Phlant a Theuluoedd a cheisiodd  sicrwydd bod y materion penodol a godwyd yn cael sylw. Roedd y Pwyllgor yn fodlon â'r camau  lliniaru a gyflwynwyd ac fel yr eglurwyd hwy gan yr aelodau Portffolio a Swyddogion yn y cyfarfod ac roedd yn hapus felly i argymell adroddiad Cerdyn Sgorio Chwarter 2 i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yr agweddau cadarnhaol niferus yr oedd y Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 2 yn eu hadlewyrchu ac amlygodd strategaeth ddigidol y Cyngor fel maes sydd wedi bod yn hollbwysig yn ystod y pandemig oherwydd cau swyddfeydd y Cyngor ac ailagor agor rhai gwasanaethau'n ofalus ar ôl y cyfnod clo. Mae'r holl ddangosyddion o dan yr is-bennawdnewid i wasanaeth digidolyn dangos perfformiad gwell nag yn y blynyddoedd blaenorol. At hynny, ni fu unrhyw gwynion corfforaethol mewn perthynas â materion gwasanaethau cwsmer ac roedd nifer y cwynion ar ddiwedd Chwarter 2 (17) yn hanner yr hyn a gofnodwyd ar gyfer yr un cyfnod yn 2019/20 (35). Mae hyn yn arbennig o gadarnhaol ar adeg pan ddarparwyd llawer o wasanaethau i drigolion Ynys Môn mewn ffordd wahanol i'r arfer ac mae'n dangos hefyd bod darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

 

Gan gytuno bod yr adroddiad yn galonogol o ystyried y cyd-destun, ychwanegodd y Pwyllgor Gwaith ei ddiolchiadau i holl staff y Cyngor am eu gwaith caled yn cynnal lefelau perfformiad yn gyffredinol. Gan gyfeirio at Ddangosydd 35 (nifer y dyddiau calendr a gymerwyd ar gyfartaledd i osod unedau llety yr oedd modd eu gosod (ac eithrio rhai anodd eu gosod) a Dangosydd cysylltiedig 36 (Gwasanaethau Landlord: canran y rhent a gollwyd oherwydd bod eiddo'n wag), dywedodd yr Is-Gadeirydd, er ei fod yn cydnabod bod amgylchiadau eithriadol a allai egluro'r perfformiad islaw'r targed yn y meysydd hyn oherwydd bod staff y Gwasanaeth Tai wedi bod yn rhan o'r ymateb i'r argyfwng, yr hoffai weld gwelliant yn y dangosyddion hyn yn y flwyddyn newydd ac y byddai'n croesawu cael dadansoddiad manylach o sut y gellid cyflymu'r broses gosod tai, a hynny o gofio’r  angen lleol am dai.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Alun Mummery, yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau, fod y drafodaeth hon eisoes yn digwydd yn y Gwasanaeth Tai a bod dadansoddiad manylach ar y gweill. Yn y cyfamser mae unedau tai yn parhau i gael eu gosod. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad y byddai mwy o wybodaeth ar gael yn Chwarter 3 a bod Archwilio Mewnol hefyd yn cynnal archwiliad o'r broses gosod tai.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Richard Dew, yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, esboniad am y tanberfformiad o ran rhai agweddau ar y Gwasanaethau Cynllunio, gan nodi bod cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â Covid-19 wedi cyfrannu at fethu targedau ar gyfer  penderfynu ceisiadau cynllunio ac ymchwilio i achosion gorfodaeth yn amserol, ond bod cynnydd yn cael ei wneud nawr. Yn achos apeliadau cynllunio a wrthodwyd, mae'r niferoedd y mae'r dangosydd yn berthnasol iddynt yn fach a'r rheswm am y tanberfformio yw oherwydd bod tair allan o chwe apêl wedi eu cadarnhau. Bwriedir cael trafodaeth gyda’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i sicrhau cysondeb o ran penderfyniadau / dehongliad swyddogion o geisiadau er mwyn gostwng nifer yr  apeliadau cynllunio llwyddiannus.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad monitro'r Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch2 2020/21, nodi'r meysydd y mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: