Eitem Rhaglen

Monitro’r Gyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, yn seiliedig ar wybodaeth hyd yma, fod y sefyllfa ariannol a ragwelir yn gyffredinol ar gyfer 2020/21, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa'r Dreth Gyngor, yn danwariant o £1.156m sef 0.81% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2020/21. Er iddo groesawu'r perfformiad y mae'r prognosis wedi'i seilio arno, rhybuddiodd yr Aelod Portffolio y gall y sefyllfa newid yn sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn, yn enwedig o gofio effeithiau parhaus y pandemig Coronafeirws, ac yn enwedig yr ansicrwydd ynghylch pa bryd y bydd gwasanaethau'r Cyngor yn dychwelyd i'r drefn arferol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £232m hyd yma i gynghorau yng Nghymru gwrdd â chostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â delio â'r pandemig a'r incwm a gollwyd yn sgil cau gwasanaethau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, fod y Panel, wrth ystyried yr adroddiad, yn teimlo ei fod yn darparu datganiad clir a hunanesboniadol o’r sefyllfa yn Chwarter 2 a nododd a chroesawodd y Panel y perfformiad cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd y Panel yn pryderu am yr ansicrwydd i'r dyfodol gan gynnwys y diffyg eglurder ynghylch cyllid y flwyddyn nesaf a’r blynyddoedd i ddod.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 â'r Pwyllgor Gwaith trwy'r amrywiadau gwasanaeth sylweddol yn Chwarter 2, gan nodi bod disgwyl tanwariant o £1,595k yn y cyllidebau gwasanaeth oherwydd llai o alw am Wasanaethau Plant ac effaith cau ysgolion yn ystod y cyfnod Ebrill i Orffennaf, 2020 ar gyllidebau addysg ganolog. Mae cyllid grant gan Lywodraeth Cymru I ddigolledu am   incwm a gollwyd wedi'i gynnwys yng nghyfrifiadau Chwarter 2 ac mae hyn wedi cyfrannu at y sefyllfa well, yn enwedig o ran y Gwasanaeth Hamdden. Roedd disgwyl i nifer yr hawliadau am gymorth dan y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor godi'n sylweddol o ganlyniad i'r dirywiad economaidd yn sgil Covid - 19 ac er i'r haf weld cynnydd yn nifer yr hawlwyr mae'r sefyllfa wedi sefydlogi ers hynny ac mae nifer yr hawliadau wedi gostwng. Er y credir bod estyn y Cynllun Ffyrlo wedi helpu i leddfu'r pwysau mwyaf ar y cynllun, mae nifer yr hawliadau 2.7% yn uwch nag ar ddiwedd mis Mawrth, 2020 a bydd cost cwrdd â'r cynnydd yn nifer yr hawliadau  yn disgyn ar y Cyngor. Mae incwm o'r Dreth Gyngor i lawr oddeutu 2% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd; mae'r broses orfodaeth wedi ailddechrau ers hynny ond ni fydd effaith lawn peidio â thalu i'w gweld nes bod y broses casglu dyledion wedi'i chwblhau a hyd nes y bydd asesiad o ddyledion drwg wedi ei wneud. 

 

O ran gwariant sy'n gysylltiedig â Covid-19 rhwng Ebrill a Medi, 2020 a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor hyd yma wedi hawlio £3.28m am gostau ychwanegol sy'n codi o'r pandemig, ac mae  Llywodraeth Cymru wedi talu £3.228m ohono. Mae'r balans sy’n weddill o £52k a ddangosir yn Nhabl 2 yr adroddiad bellach wedi'i dalu hefyd. Mae cais arall am 273k wedi’i gyflwyno ar gyfer mis Hydref, 2020. Mewn perthynas â chyllid grant gan Lywodraeth Cymru i ddigolledu am golli incwm o wasanaethau yn ystod y pandemig, mae balans o £591k ar ôl fel y gwelir yn nhabl 3 yr adroddiad. Fodd bynnag, dim ond ar adeg drafftio’r adroddiad y gwnaed yr hawliad ac fel arfer mae peth oedi rhwng cyflwyno cais a derbyn taliad. Gorffennodd y Swyddog trwy ddweud, er bod y sefyllfa ariannol yn galonogol ar gyfer y tymor byr iawn, fod y Cyngor yn awr yn mynd i chwarter heriol y gaeaf pan all, a phan fydd pwysau ar wasanaethau'n cynyddu  - yn enwedig Gwasanaethau Priffyrdd ac Oedolion.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi'r sefyllfa a ddisgrifir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro  a ddisgwylir ar gyfer 2020/21.

           Nodi'r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2020/21 y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

           Nodi sefyllfa'r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.

           Nodi'r sefyllfa mewn perthynas â'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2020/21 yn Atodiad D yr adroddiad.

           Nodi monitro costau asiantaeth ac ymgynghoriaeth ar gyfer 2020/21 yn Atodiadau DD, E ac F yr adroddiad.

Dogfennau ategol: