Eitem Rhaglen

Cynllun Twf Terfynol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Prif Weithredwr yn ymgorffori'r dogfennau allweddol sydd raid wrthynt i ddod i Gytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a dywedodd fod y cam hwn yn y Cynnig Bargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru yn benllanw proses hir y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi chwarae rhan lawn ynddi. 

 

Cytunodd y Prif Weithredwr fod hon yn garreg filltir arwyddocaol yn y broses Bargen Twf sy'n ffrwyth llawer iawn o waith dros gyfnod hir ac sydd hefyd yn dangos gwerth partneriaeth gref yn seiliedig ar gydweithrediad parod a dealltwriaeth rhwng partneriaid ar draws sectorau. Dywedodd fod diolchiadau'n ddyledus i Swyddogion sydd wedi gwasanaethu ar yr ystod o fyrddau a oedd yn datblygu'r Cynnig Twf sydd wedi arwain at yr achlysur hanesyddol hwn; y gobaith yw y bydd y rhaglen hon o fuddsoddiad economaidd mawr y mae gwir angen amdano yn rhanbarth Gogledd Cymru yn cynhyrchu canlyniadau yn gyflym ar adeg pan fo pandemig Covid-19 wedi cael effaith ddifrifol ar yr economi.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr, wrth gydnabod nad yw cyflogaeth a’r economi wedi’u cyfyngu i ardaloedd awdurdodau lleol a bod pobl a busnesau yn symud ar draws ffiniau, fod cynlluniau  datblygu economaidd Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni fwyfwy trwy strwythurau rhanbarthol. Mae cydweithio fel rhanbarth yn hwyluso denu cyllid ychwanegol ar lefel na fyddai'n bosib i'r chwe awdurdod lleol pe byddent yn gweithredu ar wahân ac ar eu pennau eu hunain. Cyfeiriodd y Dirprwy Brif Weithredwr at y buddion a'r buddsoddiadau economaidd a ddisgwylir  i'r Ynys a'r tir mawr yn sgil y Fargen Twf, sef y rhaglen datblygu economaidd fwyaf a mwyaf arwyddocaol y mae'r rhanbarth wedi'i gweld ers dechrau'r cyfnod o lymder. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi twf mewn sectorau gwerth uchel o ran cyflogaeth a'r farchnad lafur. Rhagwelir creu rhwng 3,000 a 4,000 o swyddi ychwanegol gan gynhyrchu dros £2b o Werth Ychwanegol  Gros ychwanegol y disgwylir iddo, yn ei dro, ddenu buddsoddiad o'r sector preifat gwerth £1b. Er bod nifer o brosiectau gweladwy iawn ar yr Ynys ar hyn o bryd ar ffurf Morlais, Porthladd Caergybi a Pharc Gwyddoniaeth Menai, mae yna ystod o brosiectau eraill yn y meysydd tai ac eiddo, TGCh, cludiant cynaliadwy ac ynni gwyrdd y gall yr ynys fanteisio arnynt i ddenu cyllid  ychwanegol. Mae'n bwysig bod yr Awdurdod yn parhau i fod yn llais cryf, cynhyrchiol a dylanwadol o fewn y model gweithio rhanbarthol hwn a'r gobaith yw y bydd y Flwyddyn Newydd yn gweld newid o'r cyfnod cynllunio a pharatoi i gyfnod lle bydd yr arian yn dechrau cael ei wireddu a'i wario.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 oblygiadau ariannol y Fargen Twf y mae dwy elfen iddi, sef costau refeniw rhedeg y rhaglen y cytunwyd y byddant yn cael eu rhannu rhwng y chwe awdurdod lleol a'r colegau, gyda Chyngor Ynys Môn yn cyfrannu £90k ynghyd â chynnydd blynyddol ar gyfer chwyddiant. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi llwyddo i sicrhau cyllid Ewropeaidd sydd wedi helpu i gadw costau i lawr. Mae'r ail elfen yn cynnwys ariannu'r gwariant cyfalaf ar y prosiectau yn y rhaglen - mae bwlch cyllido dros dro tymor canol rhwng proffil gwariant disgwyliedig y Fargen Twf a phroffil disgwyliedig cyllid a dderbynnir gan y llywodraeth dros 15 mlynedd a fydd yn cael ei reoli trwy fenthyca, h.y, bydd cyllid grant y Llywodraeth yn cael ei rannu  dros 15 mlynedd tra bod gwariant ar y prosiectau yn debygol o ddigwydd o fewn y 6 blynedd cyntaf, gan adael bwlch cyllido a fydd yn cael ei bontio trwy fenthyca. Wrth i'r cyllid ddod i mewn bydd y benthyca'n lleihau bob blwyddyn. Mae paragraff 2.5 yr adroddiad yn dangos cyfanswm cyfraniadau'r partneriaid (dros 15 mlynedd) i gwrdd â chost y benthyca gofynnol ar gyfer hwyluso'r llif arian negyddol tra bod paragraff 2.6 yn dangos cyfraniadau blynyddol y partneriaid i gwrdd â chost benthyca gofynnol ar gyfer hwyluso'r llif arian negyddol . Mae'r cyfraniadau hyn yn ychwanegol at y cyfraniadau blynyddol craidd ac atodol a ddangosir ym Mharagraff 2.7 o'r adroddiad (ymhelaethir ar y ffigyrau yn y Cynllun Busnes a atodwyd). Mae amseru yn ffactor o ran benthyca, ynghyd â chyfraddau llog, sy'n golygu y gall y ffigyrau newid; er enghraifft pe bai'r Llywodraeth yn rhyddhau cyllid grant cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon neu'n gynnar yn y flwyddyn nesaf, byddai swm cyfalaf ar gael ar y cychwyn a fyddai felly'n lleihau'r gofyniad benthyca.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro y goblygiadau cyfreithiol a'r trefniadau llywodraethu. Dywedodd pan fydd y Fargen Twf Derfynol yn cael ei chytuno a'i llofnodi gyda'r ddwy Lywodraeth y bydd Cytundeb Llywodraethu 2 newydd (CLl2 - a ddarparwyd yn llawn o dan Atodiad 4 gyda chrynodeb o dan Atodiad 3) yn disodli'r CLl1 cyfredol ac yn rheoleiddio'r bartneriaeth rhwng y 6 Chyngor Lleol yng Ngogledd Cymru a'r 4 Coleg trwy gydol cyfnod y Fargen Twf. Bydd y model gwleidyddol yn aros yr un fath ag ar gyfer CLl1, sef Bwrdd Uchelgais Economaidd (BUE) sy'n cynnwys Arweinyddion y 6 Chyngor yng Ngogledd Cymru ac y mae gan bob un ohonynt bleidlais. Bydd y 4 Coleg hefyd yn aelodau o'r BUE ond ni fydd ganddynt bleidlais gan fod y BUE yn gyd-bwyllgor statudol.  Bydd Arweinydd o bob un o'r 6 Chyngor yn cael eu penodi 'n Gadeirydd bob blwyddyn ond ni fydd ganddynt bleidlais fwrw. Os bydd anghytundeb ynghylch unrhyw eitem ar raglen y BUE bydd cyfnod cnoi cil a bydd yr eitem yn dychwelyd wedyn i'r BUE  i'w hystyried ymhellach. Os na all y BUE ddod i gytundeb wedyn bydd y cynnig yn disgyn. Oherwydd y model cyd-bwyllgor statudol y cytunwyd arno gan y partïon, bydd y rhaglenni,  yr adroddiadau a'r cofnodion yn cael eu cyhoeddi ac ar gael ar wefan y Cyngor.

 

O ran gweithredu, bydd y model Awdurdod Cynnal mewn grym fel y cytunwyd gan y partneriaid; Penodwyd Cyngor Gwynedd fel yr awdurdod cynnal a bydd yn cyflawni swyddogaethau Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro yn ogystal â gwasanaethau AD, Archwilio a TGCh. Bydd y BUE yn gweithredu o dan Reolau Sefydlog a Rheolau Caffael Cyngor Gwynedd. Mae unrhyw newidiadau sylweddol i'r Cynllun Busnes Cyffredinol, ynghyd ag unrhyw newidiadau sylweddol i'r CLl2, materion cyllidebol ac unrhyw bartneriaid sy'n ceisio gadael y BUE oll yn faterion a gedwir yn ôl a bydd angen i'r Cyngor llawn eu hystyried a'u cymeradwyo. Bydd yr aelodau etholedig ar y BUE yn dilyn eu Côd Ymddygiad Aelodau yn yr un modd ag y bydd  Swyddogion a fydd yn gweithio i’r BUE yn dilyn eu côd hwythau. Bydd Polisi Gwrthdaro mewn grym ar gyfer cynrychiolwyr y Colegau gan nad oes ganddyn nhw Gôd Ymddygiad penodol. Bydd cofnodion penderfyniadau'n cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi a chyflwynir adroddiad chwarterol i bob partner a fydd yn adrodd ar gynnydd prosiectau unigol gan gynnwys eu perfformiad ariannol. Mae amodau'r Fargen Twf hefyd yn golygu bod rhaid cyflwyno adroddiad i Lywodraethau Cymru a San Steffan a bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Archwilio Cyngor Gwynedd. Nodir y trefniadau craffu yn Atodlen 3 CLl2 a bydd gweithdrefn galw i mewn ar waith sy'n debyg i'r un a weithredir yn y Cyngor.

 

Adroddodd y Cynghorydd G.O. Jones o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini  Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd ac a ystyriodd y Cynnig Bargen Twf Terfynol a lle cafwyd cyngor gan ddau gynrychiolydd o'r BUE. Trafodwyd y trefniadau ariannol, cyfreithiol a llywodraethu ac amlinellwyd y buddion a'r cyfleoedd economaidd sy'n debygol o ddeillio i Ynys Môn o'r Fargen Twf. Wrth ystyried y mater, roedd y Pwyllgor wedi codi goblygiadau Brexit a Covid 19 o ran addasiadau y gallai fod angen i'r BUE eu gwneud a cheisiodd  eglurhad o ran aelodaeth y BUE ac, yn benodol, absenoldeb cynrychiolaeth o'r Undebau Llafur. Gofynnodd y Pwyllgor am  eglurder hefyd ar y camau i'w cymryd pe bai gorwariant ar brosiect. Ar ôl derbyn sicrwydd ar y materion hyn, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi'r Cytundeb Cynnig Bargen Twf Terfynol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Carwyn Jones ei bersbectif fel Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd a chroesawodd y cydweithrediad rhanbarthol a oedd yn sail i'r Cynnig  Bargen Twf ac a oedd wedi'i wneud yn bosib, a chydnabu hefyd waith Swyddogion yn symud y Fargen ymlaen trwy wahanol gamau. Mae'r Cytundeb yn cynnig cyfleoedd ar raddfa na fyddai ar gael i'r awdurdodau pe baent yn gweithio ar eu pennau eu hunain ac yn cynnig y gobaith o adfywiad economaidd ar gyfer Ynys Môn yn ogystal â'r rhanbarth ar adeg dyngedfennol.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Gwaith 

 

           Yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac yn argymell bod y Cyngor Llawn yn ei gymeradwyo.

           Yn cymeradwyo’r darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 mewn perthynas â’r swyddogaethau gweithredol, ac yn argymell bod y Cyngor Llawn yn cymeradwyo’r darpariaethau mewn perthynas â swyddogaethau anweithredol, a’i fod yn benodol yn mabwysiadu’r dirprwyaethau a’r Cylch Gorchwyl yng “Nghytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1” ohono fel sail ar gyfer cwblhau’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraeth Cymru.

           Yn cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell i’r Cyngor Llawn awdurdodi’r corff atebol, Cyngor Gwynedd, i arwyddo’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid.

           Yn cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r dull a ddefnyddir i gyfrifo’r gost benthyca sydd ei angen er mwyn hwyluso’r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf ac i gynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a’r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u nodi yng Nghytundeb Llywodraethu 2 (GA2) (ac ym mharagraffau 2.5 - 2.7 yr adroddiad).

           Bod y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau’r cytundeb.

Dogfennau ategol: