Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa ganol blwyddyn mewn perthynas â Rheoli Trysorlys 2020/21.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 grynodeb o’r prif bwyntiau mewn perthynas â gweithgareddau benthyca a buddsoddi ar ganol blwyddyn gan gyfeirio’n benodol at effaith Covid-19 a chadarnhaodd y cydymffurfiwyd â’r dangosyddion trysorlys a darbodus a nodir yn Natganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor 2020/21.
Roedd y pwyntiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol –
• Bod y Cyngor yn parhau i roi blaenoriaeth i sicrhau diogelwch cyfalaf a hylifedd ac i dderbyn lefel briodol o enillion sy’n gyson ag archwaeth risg y Cyngor. Lle bo’n bosib, mae’r Cyngor yn defnyddio ei gronfeydd arian ei hun i ariannu gwariant cyfalaf ac nid yw’n benthyca mwy nag sydd ei angen nac yn benthyca cyn i’r angen godi. Fodd bynnag, mae’r gallu i fenthyca’n allanol i ad-dalu’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau os oes angen yn bwysig.
• Roedd gan y Cyngor £42.244m o fuddsoddiadau ar 30 Medi 2020 (£20.208m ar 31 Mawrth 2020). Oherwydd y grantiau mawr a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddelio ag argyfwng Covid a’r ffaith bod cyfrifon galw ar gael i’r Cyngor, mae hyn wedi golygu bod y balansau yn y cyfrifon galw yn uwch na’r terfynau a gymeradwywyd yn y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol sydd wedi ei chynnwys yn y DSRhT am 2020/21. Er nad oedd modd rhagweld hyn, bydd terfynau gwrth bartïon yn cael eu hasesu a’u hadolygu wrth gynhyrchu’r DSRhT ar gyfer 2021/22.
• Oherwydd mai diogelwch yr arian yw dangosydd allweddol y Cyngor, ystyrir mai buddsoddiadau gydag awdurdodau lleol eraill yw’r ffordd fwyaf diogel o fuddsoddi arian ac mae hyn yn rhoi enillion uwch na’r mwyafrif o gyfrifon galw gyda banciau. Mae’r tabl ym mharagraff 5.9 yr adroddiad yn dangos rhestr o fuddsoddiadau gydag awdurdodau eraill yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol.
• Er na fenthycwyd arian yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon, rhagwelir y bydd angen benthyca yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol. Bydd angen benthyca i gyllido rhan o raglen cyfalaf 2020/21 a gwneir hynny trwy fenthyca mewnol a benthyca allanol. Mae’r benthyca allanol mewn perthynas â chyllido cost cyfalaf o £4.449m ar gyfer cerbydau newydd yn unol ag amodau’r contract gwastraff a ddyfarnwyd i Biffa. Mae’r Cyngor wedi rhagweld y bydd wedi cael benthyg £128.9m ar ddiwedd y flwyddyn a bydd wedi defnyddio £11.7m o gronfeydd llif arian yn lle benthyca.
• Nid oes unrhyw ddyledion wedi cael eu haildrefnu yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol hyd yma.
• Mae rhai newidiadau i sut y cyllidir y rhaglen gyfalaf oherwydd y disgwylir tanwariant sylweddol yn 2020/21 mewn cynlluniau cyfalaf, yn bennaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Cyfrif Refeniw Tai. Fel ar 30 Medi 2020, cafwyd gwariant cyfalaf o £11.471m yn erbyn cyllideb wreiddiol o £49.466m a rhagwelir gwariant o £33.755m ar y gyllideb gyfalaf erbyn diwedd y flwyddyn. Gwelir manylion o sut mae’r tanwariant a ragwelir yn effeithio ar y trefniadau ariannu cyfalaf yn y tabl yn 3.3.2 sy’n arwain at y rhagolwg Gofyniad Cyllido Cyfalaf a welir ym mharagraff 7.4.3.1 yr adroddiad.
Wrth ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn –
• A yw’r gwariant o £33?755m a ragwelir ar y gyllideb gyfalaf ar ddiwedd y flwyddyn yn realistig o ystyried mai dim ond £11.471m o wariant a gafwyd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ac o ystyried hefyd fod gan yr Awdurdod hanes o danwario ar ei raglen gyfalaf bob blwyddyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog 151 fod y pandemig Covid-19 a chyfyngiadau cysylltiedig wedi cael effaith sylweddol ar gynnydd cynlluniau cyfalaf ac o’r herwydd ar wariant cyfalaf yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol a bod y gwariant cyfalaf gwirioneddol o £11m ar ganol y flwyddyn yn anarferol o isel. Felly, bydd elfen o ddal i fyny yn ystod ail hanner y flwyddyn; yn ogystal mae gwariant ar nifer o gynlluniau cyfalaf yr Awdurdod wedi’i gynllunio ar gyfer ail hanner y flwyddyn ariannol. Tra bod yr Awdurdod yn tueddu i fod yn or-optomistaidd wrth ragamcanu gwariant cyfalaf, mae gweithgareddau ar gynlluniau yn tueddu i gynyddu tuag at ddiwedd y flwyddyn. Mae’r tywydd yn ffactor ychwanegol sy’n gallu llesteirio cynnydd ar gynlluniau. Mae’r Cyfrif Refeniw Tai, sy’n cynrychioli swm sylweddol o wariant, yn gyllideb y gellir ei chario drosodd i’r flwyddyn nesaf. Mae’r rhaglen gyfalaf yn cael ei monitro’n rheolaidd a bydd yn cael ei hadolygu nesaf ar ddiwedd Chwarter 3. Mae’r Awdurdod yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw arian yn cael ei golli oherwydd oedi ar brosiectau cyfalaf.
• Mae gwahaniaeth sylweddol rhwng y llog y mae’r Awdurdod yn ei dalu ar ei fenthyciadau, gan gyfeirio’n benodol at gyfraddau’r Bwrdd Benthyca Gwaith Cyhoeddus (BBGC), a’r llog y mae’n ei dderbyn ar fuddsoddiadau ac o’r herwydd, a ddylid ystyried adolygu a lleihau benthyciadau allanol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod nifer o fenthyciadau’r Awdurdod yn fenthyciadau hirdymor a’u bod yn cael eu hadolygu’n gyson. Er bod cyfradd y BBGC wedi gostwng, ystyrir na fyddai ad-dalu’r benthyciad yn gynnar yn gost effeithiol gan fod dirwyon llym ynghlwm â gwneud hynny. Yn ogystal, strategaeth yr Awdurdod ers nifer o flynyddoedd yw defnyddio’r arian parod sydd ganddo ar gyfer gwariant cyfalaf a thrwy hynny osgoi taliadau llog.
• Oherwydd bod balansau arian parod yr Awdurdod mor uchel, a fyddai’n bosib darparu cymorth i sectorau busnes/cyflogaeth yr Ynys. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad yw’r arian sydd gan yr Awdurdod ar gael i’w wario o reidrwydd a bod llawer o’r arian wedi’i glustnodi ar gyfer dibenion penodol, gan gynnwys cwrdd â chostau refeniw'r rhaglen gyfalaf. Yn ogystal, mae’r Awdurdod yn gallu cadw cronfeydd wrth gefn i ddarparu rhwyd diogelwch ar gyfer argyfwng annisgwyl, megis y pandemig presennol. Er bod yr economi yn un o blith ystod o ddyletswyddau statudol yr awdurdod lleol, swyddogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yw hyrwyddo’r economi. Mater i’r Cyngor llawn yw penderfynu wrth osod ei gyllideb flynyddol a yw’n dymuno cynyddu’r gyllideb refeniw i helpu i gwrdd ag anghenion yr economi leol ar hyn o bryd. Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn gosod terfynau ynghylch yr hyn yr awdurdodir swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith ei wneud o ran ymrwymo gwariant refeniw.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad adolygiad canol blwyddyn ar Reoli Trysorlys ar gyfer 2020/21 heb unrhyw sylw pellach.
NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL.
Dogfennau ategol: