Eitem Rhaglen

Crynodeb o Weithgareddau

Yr Ymgynghorydd AG i’r CYSAG i adrodd ar weithgareddau diweddar.

 

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ar y canlynol:-

 

  Cynhaliodd y Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG ei gyfarfod ffurfiol cyntaf ar 11 Mawrth 2020 a chraffwyd ar adroddiadau hunan arfarnu a gyflwynwyd gan Ysgol Goronwy Owen, Ysgol Gymuned y Fali, Ysgol Rhoscolyn, Ysgol y Tywyn ac Ysgol Llanfawr. Canolbwyntiodd y drafodaeth hefyd ar yr enw newydd arfaethedig ar gyfer Addysg Grefyddol, er mwyn derbyn barn athrawon ac ysgolion ar y mater. Nodwyd na chynhaliwyd yr un cyfarfod pellach hyd yma, ond y gobaith yw y bydd modd i’r Panel Gweithredol ailgychwyn y broses yn fuan.

  Nodwyd fod yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r aelod cyfetholedig wedi mynychu cyfarfod NAPfRE. Gofynnwyd am farn y rhai oedd yn bresennol ar yr enw newydd ar gyfer Addysg Grefyddol, sef Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Rhannwyd adnoddau ar gyfer athrawon yn y cyfarfod, ac maent wedi cael eu rhannu ag ysgolion ar Ynys Môn.

  Ymatebodd y CYSAG i’r Ymgynghoriad ar y cwricwlwm drwy ysgrifennu llythyr yn mynegi anfodlonrwydd y CYSAG fod y cwestiynau’n anodd eu deall ac yn amherthnasol.

  Mae Mr Owain Davies, Swyddog Addysg, wedi ymuno â’r Panel Gweithredol i oruchwylio gwaith y Panel.

  Gwahoddir Mrs Helen Robets o Brifysgol Bangor, sydd hefyd yn aelod o’r Panel Gweithredol, i gyfarfod nesaf y CYSAG ym mis Chwefror i gyflwyno trosolwg o waith y Panel yn yr ysgolion.

  Darparwyd cyllid i ryddhau aelodau’r Panel Gweithredol o’u dyletswyddau er mwyn mynychu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi.

  Mewn perthynas â Chynllun Gweithredu’r CYSAG ar gyfer 2020-22, cadarnhawyd fod llwyfan electronig wedi cael ei greu er mwyn i ysgolion rannu adnoddau ac arfer dda mewn Addysg Grefyddol, ynghyd â gwaith y CYSAG a’r Panel Gweithredol mewn ysgolion. Cytunodd y CYSAG fod y llwyfan yn syniad ardderchog ac y byddai’n codi proffil y CYSAG a’r Panel Gweithredol yn yr ysgolion ac yn rhoi cyfle i ysgolion ddatblygu eu gwaith a rhannu eu syniadau.

  Mae Esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru a GwE wedi bod yn cydweithio i rannu adnoddau gydag ysgolion. Roedd yr Eglwys yn teimlo fod plant angen cymorth gydag Addoli ar y Cyd, gan nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn gwasanaethau dyddiol mewn ysgolion. Bu’r Eglwys yn recordio sesiynau Addoli ar y Cyd cyfrwng Cymraeg ac mae GwE wedi eu rhannu ag ysgolion. Cytunodd Mrs Anest Frazer i anfon yr adnoddau uchod at Owain Davies ar gyfer y Panel Gweithredol.

 

Codwyd pryderon nad yw athrawon yn cael cyfle bellach i fynychu cyrsiau a drefnir gan CBAC oherwydd y pandemig. Yn hytrach, maent yn cael gwahoddiad i fynychu sesiynau gweminar dwy awr o hyd ar gyfer TGAU a Lefel A, sy’n cael eu cynnal ar wahanol ddiwrnodau. Nodwyd fod pob sesiwn gweminar yn costio £100, sy’n dod i gyfanswm o £300 ar gyfer pob pwnc. Nid yw pob ysgol yn gallu fforddio’r gost gan olygu fod rhai athrawon yn cael eu hamddifadu.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod CBAC yn cael ei redeg fel busnes yn hytrach na gwasanaeth ar ôl iddo gael ei breifateiddio, sy’n golygu o bosib nad yw mor effeithiol ar gyfer ysgolion. Nodwyd fod CBAC wedi llwytho adnoddau dysgu ar gyfer pob pwnc ar eu gwefan. Mae’r adnoddau TGAU yn dda, ac maent yn parhau i gael eu datblygu a gall disgyblion gael mynediad atynt wrth weithio gartref.

 

Gofynnodd aelod a ddylai CYSAG gael ei gyllideb ei hun er mwyn helpu i ariannu gweminarau? Cytunwyd i ddisgwyl am adborth pellach gan athrawon sydd wedi mynychu sesiynau gweminar cyn holi am gyllid.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

  Gwahodd Mrs Helen Roberts o Banel Gweithredol Ysgolion CYSAG i gyfarfod nesaf y CYSAG.

  Mrs Mefys Jones-Edwards i roi diweddariad ar y sesiynau gweminar yng nghyfarfod nesaf y CYSAG. 

Dogfennau ategol: