Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

 7.1 – FPL/2019/217 – Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000JsykpUAB/fpl2019217?language=cy

 

7.2 – 19C1231 - Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzFxcEAF/19c1231?language=cy

 

7.3 – FPL/2020/92 – 3 Bronallt, Ffordd Cambria, Porthaethwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgBp6UAF/fpl202092?language=cy

 

 

 

 

 

Cofnodion:

7.1  FPL/2019/217 -Cais llawn i godi 17 annedd fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd i gerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir ger Stad  Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl i ddau o'r Aelodau Lleol ei alw i mewn i'w benderfynu gan y Pwyllgor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i ohirio yng nghyfarfodydd y Pwyllgor ar 7 Hydref, 2020 a 4 Tachwedd, 2020 ar ôl derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn gwahardd y Pwyllgor rhag cymeradwyo'r cais hyd nes y byddai'r Gweinidog wedi penderfynu a oedd am ei alw i mewn ai peidio gan fod cais wedi'i gyflwyno i'r perwyl hwnnw. Cadarnhaodd y Swyddog mai dyna'r sefyllfa o hyd a bod yr argymhelliad felly'n parhau i fod yn un o ohirio.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

7.2 19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn mynediad a chynllun ar dir ger stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch Caergybi

 

Roedd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE wedi gwneud datganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â'r cais, ond cymerodd ran yn y drafodaeth fel aelod lleol, ond ni phleidleisiodd.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl i Aelodau Lleol ei alw i mewn.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 2 Medi, 2020 yn dilyn cadarnhad gan yr Awdurdod Priffyrdd ei fod wedi tynnu ei wrthwynebiadau i'r cais yn ôl yn amodol ar gael Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT) ar gyfer  system unffordd. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2020 gwrthododd y Pwyllgor y cais, a hynny'n groes i argymhelliad y Swyddog, oherwydd pryderon ynghylch effaith y cynnig ar draffig ac am na fyddai'r GRhT ar gyfer system unffordd yn ddigonol i fynd i'r afael â'r problemau traffig yn yr ardal.  Dywedodd y byddai angen proses ymgynghori ar gyfer y GRhT mewn perthynas â'r system unffordd arfaethedig ac os oedd y canlyniad yn erbyn gwneud y GRhT yna ni allai'r datblygiad fynd yn ei flaen. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach fod canllawiau cynllunio yn glir na ddylai Awdurdodau Cynllunio oedi datblygiad sy'n dderbyniol gan fod y tir wedi'i ddynodi ar gyfer datblygu tai o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac y gallai amodau cynllunio a osodir ganiatáu i'r datblygiad gael ei gymeradwyo.  

 

      Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE, er nad oedd ganddo unrhyw bryderon ynghylch y datblygiad ar y safle, y byddai'r system unffordd trwy Stryd Arthur  yn achosi problemau aruthrol pe bai cerbydau mawr angen mynediad.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith ei fod yn cytuno â sylwadau’r aelod lleol ac na fyddai system unffordd yn yr ardal yn datrys materion traffig. Dywedodd fod cerbydau ar hyn o bryd yn parcio o flaen eu preswylfeydd ac na fyddai ganddyn nhw gyfleuster arall i barcio eu ceir. Cynigiodd y Cynghorydd Griffith y dylid cadarnhau'r  penderfyniad blaenorol i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig i wrthod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid cymeradwyo'r cais ac eiliodd y Cynghorydd Eric W Jones y cynnig hwnnw.

 

Yn y bleidlais ddilynol, gwrthodwyd y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

      PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

7.3 FPL/2020/92 – Cais llawn i greu 2 le parcio yn 3 Bronallt, Ffordd Cambria  Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2020 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd yr ymweliad rhithwir â'r safle ar 21 Hydref, 2020.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y Pwyllgor, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2020, wedi penderfynu gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd bod y cynnig yn groes i bolisi PS20.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, wrth siarad fel Aelod Lleol, fod y Pwyllgor wedi gwrthod y cais yn unfrydol yn y cyfarfod diwethaf a nododd fod parcio yn broblem yn yr ardal hon. Cais yw hwn i gael gwared ar ran o'r droedffordd i greu lleoedd parcio ar gyfer 2 uned wyliau sy'n cael eu gosod ac roedd o'r farn y byddai cymeradwyo cais o'r fath yn creu cynsail ar gyfer ceisiadau tebyg y tu allan i anheddau nad oes ganddynt gyfleusterau parcio. Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais gan yr ystyrir ei fod yn groes i bolisi PS20. Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig i wrthod.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd R Meirion Jones, Aelod Lleol, sylwadau'r Cynghorydd Robin Williams a gofynnodd i'r Pwyllgor wrthod y cais. 

 

      PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

 

Dogfennau ategol: