Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Ysgol Talwrn a Ysgol y Graig)

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r rhaglen moderneiddio ysgolion ar gyfer ardal Llangefni i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ym mis Chwefror / mis Mawrth 2020 ar Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig ac yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo'r opsiwn a ffefrir sef cynyddu capasiti  Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Phobl Ifanc a dywedodd fod yr adroddiad yn delio â'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion fel y mae hi'n berthnasol i Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig a'i fod yn pwyso a mesur dyfodol y ddwy ysgol a'r effaith ar yr holl randdeiliaid o ganlyniad, ac yn arbennig ar y plant yn y ddwy ysgol. Pwysleisiodd mai buddiannau'r plant ddylai fod y brif ystyriaeth yn y mater hwn. Wrth gydnabod y gall moderneiddio ysgolion fod yn fater dadleuol a’i fod ymhlith agweddau mwyaf heriol gwaith y Cyngor, dywedodd ei fod yn deall ac yn sylweddoli pryderon rhieni ac eraill mewn perthynas â'r mater hwn. Mae'r rhaglen moderneiddio ysgolion yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol ysgolion dros yr 50 mlynedd nesaf ar adeg pan maent dan bwysau oherwydd toriadau cyllidebol, costau cynnal a chadw beichus, cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Newydd a sawl ffactor arall yn ogystal ag effaith Covid. Rhaid i'r Cyngor ystyried o ddifrif sut y gellir gwneud y system ysgolion yn fwy effeithiol yn yr ystyr o greu'r amodau lle gall athrawon a disgyblion ffynnu  a hefyd sut y gellir ei gwneud yn fwy effeithlon o ran gwneud y defnydd gorau o adnoddau a sicrhau bod pob ysgol yn derbyn ei chyfran deg o'r gyllideb. Mae strategaethau eraill yr Awdurdod y mae’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn gysylltiedig â hwy yn cynnwys Dogfen Gyflawni 2019/20, y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion fel y’i diwygiwyd a’i cymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith yn 2018 (gyda’r cynnig cyfredol yn ffurfio rhan o Fand B y Strategaeth); Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2015-20; y Strategaeth Ynni; y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd; y Strategaeth Iaith Gymraeg a'r Cynllun Ariannol Tymor Canol.

 

Rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 cynhaliodd swyddogion y Cyngor ymgynghoriad statudol ar ddyfodol y ddwy ysgol dan sylw. Awdurdodwyd swyddogion i gynnal yr ymgynghoriad ar ôl i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr, 2020. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar y diwrnod ysgol olaf cyn y cyfnod clo cyntaf o ganlyniad i'r pandemig byd-eang a drawsnewidiodd y ddarpariaeth addysg am gyfnod. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn bwysig nodi bod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Gangen Trefniadaeth Ysgolion a Derbyniadau Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi estyniad i'r Cyngor tan fis Mawrth, 2021 i gyhoeddi unrhyw gynnig. Mae'r Cyngor wedi gweithredu yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 trwy gydol cyfnod y pandemig.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y gyrwyr allweddol ar gyfer newid sydd wedi’u cynnwys yn Strategaeth Moderneiddio Ysgolion 2018 sy’n cynnwys gwella safonau addysgol; gwella arweinyddiaeth a rheolaeth; sicrhau bod adeiladau ysgol yn addas at y diben; lleihau nifer y lleoedd gweigion; lleihau cost gyffredinol addysg a'r amrywiad mewn cost fesul disgybl; cynnal a gwella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a chynyddu'r defnydd cymunedol o adeiladau ysgol.

 

Wrth gloi ei gyflwyniad i'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Portffolio dros Addysg ei fod yn dymuno achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y broses ymgynghori.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc sylw at brif bwyntiau'r adroddiad a dywedodd fod proses ymgynghori statudol wedi'i chynnal rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig (sef y cynnig gwreiddiol). Cadarnhaodd, yng ngoleuni'r holl ymatebion ymgynghori a'r asesiadau effaith mewn perthynas â’r cynnig, yr ystyrir mai'r cynnig hwn yw'r ffordd fwyaf priodol ymlaen a'r opsiwn sy'n cael ei argymell i'r Pwyllgor Gwaith. Esboniodd fod nifer o opsiynau amgen wedi eu hystyried fel rhan o'r broses ymgynghori ac roedd  dadansoddiad ohonynt yn adran 6 yr adroddiad. Derbyniodd y Cyngor 57 o ymatebion ar-lein a 10 ymateb ar ffurf llythyrau ac e-byst gydag unigolion a sefydliadau cymunedol yn ymateb i'r ymgynghoriad (crynodeb yn adran 5 yr adroddiad ysgrifenedig). Fel rhan o’r broses derbyniwyd modelau addysgol eraill (mae adran 6.4 yr adroddiad yn cyfeirio at y rheini) ac fe’u haseswyd gan swyddogion yn erbyn meini prawf a gyrwyr y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion gyfredol. Ar ôl ystyried yr holl ddewisiadau amgen ac yn dilyn dadansoddiad cynhwysfawr o'u cryfderau a'u gwendidau yn erbyn gyrwyr y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion, ystyrir mai'r cynnig gwreiddiol yw'r ffordd fwyaf priodol ymlaen oherwydd ei fod yn cwrdd â'r heriau allweddol sy'n wynebu Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig a hefyd yn bodloni'r gyrwyr allweddol dros newid a nodir yn y Strategaeth fel a ganlyn –

 

           Rhaid i safonau ym mhob ysgol fod yn dda neu'n ardderchog o leiaf a byddai disgwyl iddynt fod yn y categori gwyrdd sydd angen y lefel isaf o gefnogaeth. Byddai'r ysgol estynedig newydd mewn sefyllfa i gynnal y radd a ddyfarnwyd gan Estyn a chadw'r categoreiddiad  gwyrdd yn y tymor canol i'r tymor hir.

           Rhaid i arweinyddiaeth a rheolaeth fod yn dda neu'n well ym mhob ysgol. Mae angen digon o amser digyswllt ar benaethiaid i gydbwyso heriau arweinyddiaeth a rheolaeth gydag ymrwymiadau addysgu. Rhagwelir na fyddai gan y Pennaeth unrhyw ymrwymiad addysgu yn yr Ysgol Y Graig estynedig newydd. Byddai modd adeiladu a datblygu uwch dîm rheoli ymhellach, a allai wella arweinyddiaeth a rheolaeth.

           Mae angen i adeilad yr ysgol ddarparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a fydd yn annog yr holl ddisgyblion i gyrraedd eu potensial ar draws pob maes dysgu a rhaid iddo gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 o ran hygyrchedd. Dylunnir adeilad newydd yr unfed ganrif ar hugain a chanddo gostau cynnal a chadw isel ac a fydd yn cwrdd â manylebau BREEM ac yn cydymffurfio'n llawn â Deddf Cydraddoldeb, 2010. Byddai costau cynnal a chadw cyfredol a rhagamcanol y ddwy ysgol, sef £408,500, yn cael eu dileu.

           Mae angen i ddigon o leoedd ysgol fod ar gael yn yr ardal i gwrdd â'r galw cyfredol, y niferoedd o ddisgyblion a ragwelir i'r dyfodol ac i leihau nifer y lleoedd gweigion. Mae angen lleihau symudiad disgyblion o'r tu mewn a'r tu allan i'r dalgylch. Mae'r cynnig yn mynd i'r afael â'r angen i ddarparu digon o leoedd yn Ysgol y Graig yn ogystal â galluogi disgyblion o Ysgol Talwrn i gael eu haddysgu mewn dosbarthiadau lle mae'r ystod oedran yn llai. Bydd llai o ddisgyblion yn symud rhwng dalgylchoedd.

           Mae angen i unrhyw ddarpariaeth ysgol ddiwygiedig yn yr ardal fod yn gost-effeithlon ac mae angen iddi hefyd leihau'r amrywiad mewn cost fesul disgybl ar draws ysgolion unigol. Byddai'r gost amcanol fesul disgybl yn yr ysgol estynedig newydd o £3,436 (yn seiliedig ar gyllideb 2019/20) yn dileu'r amrywiad mewn cost fesul disgybl rhwng Ysgol Talwrn (£4,553) ac Ysgol Y Graig (£3,429) ac yn is na'r cyfartaledd ar gyfer ysgolion cynradd Ynys Môn (£3,988). Mae'r cynnig yn golygu cost refeniw ychwanegol o oddeutu £33k y flwyddyn, (darperir manylion yn adran 7) ond mae'n dileu costau cynnal a chadw cyfredol a rhagamcanol o £408,500 y byddai'n costio £32,000 y flwyddyn i'r Cyngor eu hariannu trwy fenthyciad digymorth  dros gyfnod o 20 mlynedd. Felly gellir dod i'r casgliad bod y cynnig yn agos at fod yn gost niwtral.

           Ar y lleiaf, byddai'r ddarpariaeth gyfrwng Gymraeg dda bresennol yn cael ei chynnal.

           Byddai'r gymuned ehangach yn parhau i elwa o'r defnydd o'r adeilad ysgol estynedig newydd.

 

Adroddodd y Swyddog ymhellach fod asesiadau effaith mewn perthynas â'r Ddeddf Cydraddoldeb, Iaith, y Gymuned a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi'u cynnal a'u bod ynghlwm wrth yr adroddiad ymgynghori. Mae nifer yr ymatebion i'r cwestiwn asesiad effaith yn rhoi sicrwydd o 95% bod yr ymateb yn gywir ac yn cyd-fynd â theimladau gweddill yr ymatebwyr yr ymgynghoriad. Mae lefel hyder o 95% yn golygu pe bai'r arolwg yn cael ei gynnal 100 gwaith, byddai'r un canlyniadau'n cael eu darparu 95% o'r amser. Mae'r Asesiad Effaith yn parhau i fod yn ddogfen fyw ac fe'i diweddarwyd i gynnwys sylwadau rhanddeiliaid a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol; bydd yn parhau i gael ei ddiweddaru'n rheolaidd trwy gydol y cyfnod datblygu, ac felly pe bai risg / mater arall yn codi, gall y Cyngor, mewn partneriaeth â'r gymuned leol, roi mesurau lliniaru ar waith i oresgyn y risg neu'r mater sy'n codi. Bydd y trefniant hwn mewn grym trwy gydol y cyfnod datblygu a bydd yn atebol i'r Bwrdd Rhaglen Corfforaethol ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau.

 

Amcangyfrifir bod cost adeiladu'r ddarpariaeth newydd arfaethedig oddeutu £6m. Os cymeradwyir y cynnig, bydd yn cael ei ariannu gan gyfraniad o 65% gan Lywodraeth Cymru trwy Raglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif a chyfraniad o 35% gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc , felly, wrth gloi, yr argymhellir cynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd  disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig.

Ar wahoddiad y Cadeirydd, adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, o gyfarfod y Pwyllgor ar 10 Rhagfyr, 2020 a roddodd sylw i'r adroddiad ymgynghori a’r cynnig a argymhellir. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor wedi clywed gan Mr Robat Idris Davies a oedd wedi cyflwyno sylwadau ar ran Ysgol Talwrn a'r gymuned i gadw'r ysgol ar agor ar y sail ei bod yn ysgol hapus a bodlon sy'n gwneud yn dda yn addysgol ac yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan ei chymuned. Roedd yr Aelod Portffolio dros Addysg a’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc wedi cyflwyno’r achos dros newid gan ddyfynnu nifer y disgyblion yn Ysgol Talwrn, y cyfyngiadau amser ar gyllid grant Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a’r cyfleoedd a’r ddarpariaeth addysgol gwell a fyddai ar gael i ddisgyblion o Ysgol Talwrn yn yr Ysgol Y Graig estynedig newydd ymhlith y rhesymau dros yr opsiwn a ffefrir. Codwyd pryderon ynghylch dyfodol y ddarpariaeth Cylch Meithrin a'r Eisteddfod leol pe bai Ysgol Talwrn yn cau. Trafododd y Pwyllgor y mater am gryn amser a chyflwynwyd dau gynnig, sef un i ffederaleiddio Ysgol Talwrn gydag Ysgol Y Graig neu Ysgol Corn Hir a'r llall i gefnogi'r cynnig a argymhellwyd h.y.  ehangu Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd y ddwy ysgol; cariwyd yr olaf o’r ddau trwy bleidlais fwyafrifol a gwnaed argymhelliad i'r perwyl hwnnw i'r Pwyllgor Gwaith. Er codi ymholiad am y broses wrth symud ymlaen yn sgil cadarnhad y byddai cyfnod clo arall yn y Flwyddyn Newydd, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor na fyddai'r broses yn cael ei heffeithio.

 

Eglurodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod Llywodraeth Cymru, ar adeg y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 pan oedd ysgolion ar gau, wedi cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol a oedd yn mynd trwy'r broses ad-drefnu, a bod y cyfryw ganllawiau wedi cyflwyno mân newidiadau yn y disgwyliadau mewn perthynas ag ymgynghori. Roedd y canllawiau yn weithredol hyd at 25 Gorffennaf ac mae'r ysgolion wedi ailagor ers hynny ac ni wnaed unrhyw newidiadau pellach. Yn ôl y canllawiau a dderbyniwyd, mae Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn parhau i fod yn effeithiol a dyma'r arweiniad y mae'r Awdurdod wedi bod yn ei ddilyn. Mae'n bwysig nodi, pe bai'r cynnig a argymhellir yn cael ei gymeradwyo, fod cam nesaf y broses yn cynnwys cyhoeddi rhybudd statudol yn y Flwyddyn Newydd ac ar ôl hynny bydd cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer derbyn gwrthwynebiadau; nid yw hyn yn cynnwys ymgynghori ac nid yw'n gyfnod ymgynghori ‘chwaith. Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Alun Mummery, eglurodd y Swyddog ymhellach fod y broses yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi rhybudd statudol ar wefan y Cyngor ac yn yr ysgol a sicrhau bod partneriaid a chyrff statudol yn ymwybodol o'i gyhoeddi. Mae'r cyfnod o 28 diwrnod yn rhoi cyfle i gyflwyno gwrthwynebiadau i'r cynnig ac ar ôl hynny mae disgwyl i'r Awdurdod baratoi adroddiad gwrthwynebiad (os derbyniwyd rhai) i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, ymatebodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn –

 

Gofynnodd y Cynghorydd Robin Williams, er budd eglurhad ac ar ôl derbyn nifer o ymholiadau gan randdeiliaid  Ysgol Talwrn ar y mater, fod y Swyddogion yn darparu trosolwg o'r sefyllfa yn Ysgol Talwrn o ran niferoedd disgyblion a chapasiti. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad, at ddibenion ymgynghori, fod nifer y disgyblion yn cael ei hystyried ar sail cyfnod o flynyddoedd yn ôl i 2015 ac yn edrych ymlaen i 2024 er mwyn sefydlu tueddiadau a phatrymau symud. Daeth yn amlwg, ar gyfer y cyfnod 2015 I 2020, fod nifer y disgyblion yn Ysgol Talwrn wedi gostwng o 44 yn 2015 i 40 yn 2020 yn erbyn capasiti 'r ysgol gyfan o  49 o ddisgyblion. Rhagwelir y bydd y gostyngiad hwn mewn niferoedd yn parhau yn 2022 a 2023 i 27 o ddisgyblion  yn 2023. Yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd gan system rheoli gwybodaeth SIMS y Gwasanaeth Dysgu, ar hyn o bryd mae 36 o ddisgyblion yn Ysgol Talwrn sy'n golygu bod lefel y lleoedd gwag yn yr ysgol  oddeutu 27%.

 

Dywedodd y Cynghorydd R G Parry, OBE, FRAgS, a oedd hefyd yn Aelod Lleol, ei fod wedi ei synnu gan yr ystadegau yn enwedig o ran nifer y plant o Dalwrn sy'n mynychu ysgolion mewn ardaledd eraill a'i fod hefyd yn poeni am y diffyg lle gwyrdd yn yr ysgol. Cydnabu, er bod cau ysgol yn fater o dristwch, fod yn rhaid ystyried budd gorau pob plentyn. Ar ôl gweld y tair ysgol newydd y mae’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion wedi’u creu ar yr Ynys hyd yn hyn a’r manteision y gallant eu cynnig roedd yn gefnogol iawn i’r rhaglen.

Adleisiodd y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Is-Gadeirydd y sylwadau hynny, gan ddweud ei fod o'r farn bod system Addysg yr Awdurdod angen ysgolion sy'n addas i bwrpas ac sy'n ysbrydoli addysgu a dysgu. Mae'r amgylchedd dysgu a ddarperir gan y tair ysgol newydd ar yr Ynys yn wahanol iawn i'r amgylchedd  yn rhai o'r ysgolion hŷn sy'n rhan o stad ysgolion yr Awdurdod. Yn ogystal, mae'r asesiad effaith mewn perthynas â'r Gymraeg yn gadarnhaol gan nodi y bydd yr iaith mewn lle gwell wrth symud ymlaen gyda'r cynlluniau a argymhellir.

 

Tynnodd y Cynghorydd Richard Dew sylw at y ffaith fod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion bellach wedi bod mewn grym ers nifer o flynyddoedd a bod yr ysgolion newydd a adeiladwyd o dan ei nawdd wedi cael eu croesawu gan rieni yr oedd llawer ohonynt yn wreiddiol yn eu gwrthwynebu. Mae'r rhaglen yn golygu bod rhai o ysgolion llai yr Awdurdod wedi gorfod cau sydd, yn naturiol, wedi denu rhywfaint o wrthwynebiad yn yr un modd ag y mae eraill wedi cefnogi. Er bod penderfyniad heddiw yn un anodd ei wneud mae'n bwysig bod y rhaglen yn cael ei symud ymlaen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Alun Mummery at y negeseuon e-bost yr oedd wedi eu derbyn gan nodi nad oeddent yn codi unrhyw faterion newydd. Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, yr Aelod Portffolio dros Addysg, ei fod wedi anfon ymlaen y negeseuon yr oedd wedi eu derbyn i sylw'r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau, a Phobl Ifanc a gadarnhaodd nad oeddent yn codi unrhyw faterion nad oeddent wedi cael sylw eisoes.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas at yr Ysgol Cybi newydd y mae canmoliaeth iddi bellach er y bu gwrthwynebiadau lleol i'r ysgol ar y cychwyn.

 

Gan gyfeirio at y drafodaeth yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a oedd wedi codi'r posibilrwydd o ffederaleiddio, gofynnodd y Cynghorydd Carwyn Jones i'r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc egluro pam nad yw'r opsiwn hwn yn cael ei gefnogi i'r ddwy ysgol dan sylw. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yn rhaid ystyried pob achos i newid trefniadaeth sefydliadol ysgol yn unigol; mae pob sefyllfa yn wahanol ac mae'n rhaid ystyried y ffactorau unigryw sy'n berthnasol i bob un. Er bod ffederaleiddio yn opsiwn sydd wedi'i weithredu yn Ynys Môn, fe wnaed hynny mewn gwahanol amgylchiadau i'r rhai yn yr achos hwn. Yn ei farn broffesiynol, nid oedd yn ystyried mai ffederaleiddio oedd y ffordd fwyaf effeithiol ymlaen yn y sefyllfa bresennol - mae'r cynnig a argymhellir, yn ogystal â gwneud mwy o synnwyr, yn cynnig darpariaeth fwy effeithiol i'r plant a'r bobl ifanc. Mae ffederaleiddio yn dod â nifer o heriau ychwanegol gan gynnwys i'r Pennaeth ac, o gymryd yr holl ffactorau i ystyriaeth, mae'r opsiwn a argymhellir yn fwy ymarferol o ran cwrdd â'r gofynion a sicrhau dyfodol llewyrchus i'r plant a'r bobl ifanc dan sylw.

 

Wrth gloi, siaradodd yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Sgiliau a Phobl Ifanc am y nifer o ffactorau sy'n gysylltiedig ag ad-drefnu ysgolion fel rhan o'r rhaglen foderneiddio a chydnabu fod cynnig i gau yn gynnig anodd iawn. Mae nifer y disgyblion yn Ysgol Talwrn yn adlewyrchu sefyllfa lle mae nifer o ddisgyblion o'r pentref yn mynychu ysgolion mewn ardaloedd eraill a bod nifer o ddisgyblion yr ysgol yn dod o'r tu allan i'r dalgylch. Er y gall y Gwasanaeth Dysgu gyfrannu at y gymuned, nid cyfrifoldeb y Gwasanaeth yw sicrhau ei bod yn parhau i fod yn hyfyw. Mae'r mater hwn wedi bod yn cael sylw ers cryn amser ac fe graffwyd arno'n fanwl; gyda hynny mewn cof,  cynigiodd argymhelliad yr adroddiad. Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn ogystal â'r atborth a'r argymhelliad gan y Pwyllgor Sgriwtini,  penderfynodd y Pwyllgor Gwaith gefnogi'r cynnig.

 

Penderfynwyd –

 

           Cymeradwyo'r cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn.

           Awdurdodi Swyddogion i symud i ran nesaf y broses a nodir yng Nghôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 a chyhoeddi rhybudd statudol am gyfnod o 28 diwrnod yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

           Awdurdodi Swyddogion i ymgymryd ag  ymatebion i'r rhybudd  statudol gan lunio adroddiad gwrthwynebiadau (os oes gwrthwynebiadau) i'w ystyried ymhellach gan y Pwyllgor Gwaith  yn y Flwyddyn Newydd.

           Awdurdodi Swyddogion i ailgyhoeddi'r Asesiad Effaith ar y cynnig fel rhan o asesu effaith barhaus y cynnig ar gydraddoldeb, y Gymraeg a'r gymuned.

Dogfennau ategol: