Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir)

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r rhaglen moderneiddio ysgolion ar gyfer ardal Llangefni i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ym mis Chwefror / Mawrth 2020 ar Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd ac yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo'r dewis rhesymol arall, sef adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae gan mai dyna'r ffordd fwyaf priodol ymlaen o ran y ddwy ysgol.

 

Ar ôl datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn yr eitem hon ac eitem 6 ar y rhaglen, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew ac ni  fu'n  bresennol am weddill y cyfarfod. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Phobl Ifanc a dywedodd fod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn yr achos hwn yn cynnwys pwyso a mesur dyfodol Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd Talwrn a'r effaith ar yr holl randdeiliaid o ganlyniad, ac yn arbennig y plant yn y ddwy ysgol y dylai eu buddiannau a’u llesiant fod y brif ystyriaeth yn y mater hwn. Ailadroddodd y gall moderneiddio ysgolion fod yn fater dadleuol a’i fod ymhlith agweddau mwyaf heriol gwaith y Cyngor, dywedodd ei fod yn deall ac yn sylweddoli pryderon rhieni ac eraill mewn perthynas â'r mater hwn yn llawn. Mae'r rhaglen moderneiddio ysgolion yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol ysgolion dros yr 50 mlynedd nesaf ar adeg pan maent dan bwysau oherwydd toriadau cyllidebol, costau cynnal a chadw beichus, cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Newydd a sawl ffactor arall yn ogystal ag effaith Covid. Rhaid i'r Cyngor ystyried sut y gellir gwneud y system ysgolion yn fwy effeithiol yn yr ystyr o greu'r amodau lle gall athrawon a disgyblion ffynnu a hefyd sut y gellir ei gwneud yn fwy effeithlon o ran gwneud y defnydd gorau o adnoddau a sicrhau bod pob ysgol yn derbyn ei chyfran deg o'r gyllideb. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at brif strategaethau a chynlluniau'r Cyngor y mae Strategaeth Moderneiddio Ysgolion 2018 yn gysylltiedig â hwy.

Rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ar ddyfodol Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd. Awdurdodwyd swyddogion i gynnal yr ymgynghoriad ar ôl i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr, 2020. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar y diwrnod ysgol olaf cyn y cyfnod clo cyntaf o ganlyniad i'r pandemig byd-eang a drawsnewidiodd y ddarpariaeth addysg am gyfnod. Dylid nodi bod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Gangen Trefniadaeth Ysgolion a Derbyniadau Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi estyniad i'r Cyngor tan fis Mawrth, 2021 i gyhoeddi unrhyw gynnig. Mae'r Cyngor wedi gweithredu yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 trwy gydol y cyfnod pandemig.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y gyrwyr allweddol ar gyfer newid sydd wedi’u cynnwys yn Strategaeth Moderneiddio Ysgolion 2018 sy’n cynnwys gwella safonau addysgol; gwella arweinyddiaeth a rheolaeth; sicrhau bod adeiladau ysgol yn addas at y diben; lleihau nifer y lleoedd gwag (yn achos ardal Llangefni sichau bod digon o gapasiti) lleihau cost gyffredinol addysg a'r amrywiad mewn cost fesul disgybl; cynnal a gwella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a chynyddu'r defnydd cymunedol o adeiladau ysgol.

Fel o'r blaen, diolchodd yr Aelod Portffolio i bawb a gymerodd ran yn y broses ymgynghori.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc sylw at brif bwyntiau'r adroddiad a dywedodd y cynhaliwyd ymgynghoriad statudol rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 a oedd yn ystyried nifer o gynigion (enghreifftiau wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig) gan gynnwys cynnig gwreiddiol y Cyngor ar gyfer y ddwy ysgol, sef ail-leoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle gwahanol i gymryd disgyblion o Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir. Yn dilyn yr ymgynghoriad statudol, y cynnig sy'n cael ei argymell i'r Pwyllgor Gwaith yw'r dewis arall rhesymol, sef adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae.

 

Cafwyd 823 o ymatebion ar-lein ac ar bapur i'r ymgynghoriad. Derbyniwyd ymatebion gan staff, rhieni, llywodraethwyr a phlant mewn perthynas â'r ddwy ysgol yn ogystal â chan unigolion a sefydliadau (darperir crynodeb yn adran 5 yr adroddiad ysgrifenedig). Cadarnhaodd yr atborth sylweddol gan fwyafrif y rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â'r ddwy ysgol eu bod yn derbyn y cynnig gwreiddiol mewn perthynas â'r angen am ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir ond roeddent yn cwestiynu pam y dylai hyn fod ar draul Ysgol Bodffordd. Fel rhan o’r broses, cyflwynwyd modelau addysgol eraill ac fe’u haseswyd gan swyddogion yn erbyn meini prawf a gyrwyr y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion gyfredol (cyfeiriad yn adran 6.4 o’r adroddiad). Ar ôl ystyried yr holl ddewisiadau amgen ac yn dilyn dadansoddiad cynhwysfawr o'u cryfderau a'u gwendidau yn erbyn gyrwyr y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion, ystyrir mai'r dewis arall rhesymol a gynigiwyd gan randdeiliaid yw'r ffordd fwyaf priodol ymlaen oherwydd ei fod yn cwrdd â'r rhan fwyaf o'r heriau allweddol a wynebir gan Ysgol Bodffordd. Byddai hyn yn cyfateb i weithredu'r cynnig gwreiddiol yn rhannol h.y. byddai adeilad newydd yn cael ei ddarparu ar gyfer Ysgol Corn Hir, ond ni fyddai Ysgol Bodffordd yn cau ac ni fyddai ei disgyblion yn cael eu symud i adeilad yr ysgol newydd. Mae'r cynnig wedi newid am y rhesymau canlynol –

 

           Safonau yn Ysgol Bodffordd - mae Ysgol Bodffordd wedi gwella o ran ei chategori gan iddi symud i fyny o Ambr yn 2015 i Melyn (B) yn 2019.

           Cyflawni'r Cwricwlwm - mae Ysgol Bodffordd mewn sefyllfa gref i gydweithio ag ysgolion eraill yn yr ardal leol i gyflawni'r cwricwlwm.

           Y Gymraeg - gyda 60 o ddisgyblion yn Ysgol Bodffordd (85%) a 138 o ddisgyblion yn Ysgol Corn Hir (61%) yn siarad Cymraeg gartref (PLASC 2019) mae gan Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir y potensial i gynnal a datblygu ymhellach y Ddarpariaeth Gymraeg gyfredol.

           Capasiti - mae'r dewis arall rhesymol yn cwrdd â'r anghenion capasiti dan sylw fel rhan o'r cynnig gwreiddiol ac felly'n cwrdd â'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y disgyblion yn y dyfodol.

           Trefniadau teithio - mae’r dewis arall rhesymol yn annhebygol o newid trefniadau teithio cyfredol disgyblion. Mae disgyblion o Fodffordd, sydd ar hyn o bryd yn cerdded neu'n beicio i'r ysgol yn debygol o allu parhau i wneud hynny heb newidiadau tebygol i'r ôl- troed carbon.

           Canolfan Gymunedol Bodffordd - ni fydd unrhyw newidiadau. O ganlyniad, gellir parhau i ddefnyddio'r ganolfan gymunedol yn Ysgol Bodffordd fel y gwneir ar hyn o bryd.

           Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018 - mae Ysgol Bodffordd wedi'i nodi yn y Côd fel Ysgol Wledig, ac o ganlyniad mae'r Cyngor wedi dilyn set fanylach o weithdrefnau a gofynion wrth lunio'r dewis arall rhesymol. (Fodd bynnag, mae'r Côd yn nodi nad yw rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig yn golygu na fydd ysgol wledig byth yn cau).

 

Cyfeiriodd y Swyddog at yr asesiadau effaith mewn perthynas â'r Ddeddf Cydraddoldeb, Iaith, y Gymuned a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sydd wedi'u cynnal a bod eu canlyniadau ynghlwm yn yr atodiad i’r adroddiad ymgynghori. Mae nifer yr ymatebion i'r cwestiwn asesiad effaith yn rhoi sicrwydd o 95% bod yr ymateb yn gywir ac yn cyd-fynd â theimladau gweddill yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad. Mae lefel hyder o 95% yn golygu pe bai'r arolwg yn cael ei gynnal 100 gwaith, byddai'r un canlyniadau'n cael eu darparu 95% o'r amser. Mae'r Asesiad Effaith yn ddogfen fyw ac fe'i diweddarwyd i gynnwys sylwadau rhanddeiliaid a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol; mae'r asesiad cyfredol yn cynnwys asesiad sy'n ymwneud â'r cynnig newydd a argymhellir i'w weithredu. Bydd yr Asesiad Effaith yn parhau i gael ei ddiweddaru'n rheolaidd trwy gydol y cyfnod datblygu a phe bai risg / mater arall yn codi, gall y Cyngor, mewn partneriaeth â'r gymuned leol, roi mesurau lliniaru ar waith i oresgyn y risg neu'r mater sy'n codi. Bydd y trefniant hwn mewn grym trwy gydol y cyfnod datblygu a bydd yn atebol i'r Bwrdd Rhaglen Corfforaethol ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau.

 

Amcangyfrifir bod y gost o adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir oddeutu £9m i £10m. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yn cael ei ariannu gan gyfraniad o 50% gan Lywodraeth Cymru trwy Raglen Band A Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn cyfrannu’r 50% arall.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc wrth gloi yr argymhellir felly adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a bod Ysgol Bodffordd yn cael ei gadael fel y mae.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol o gyfarfod y Pwyllgor yn gynharach yn y prynhawn a oedd wedi ystyried yr adroddiad ymgynghori a’r cynnig a argymhellir. Clywodd y Pwyllgor sylwadau gan Mr Dafydd Jones, Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Corn Hir a chan Mr Gareth Parry, aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Bodffordd ac roedd yn ddiolchgar i'r ddau am eu mewnbwn. Clywodd y Pwyllgor am y diffyg lle ac effaith hynny ar yr amgylchedd dysgu ac addysgu yn Ysgol Corn Hir a nododd fod yr ysgol ar hyn o bryd 17% dros gapasiti. Nododd y Pwyllgor ymhellach argaeledd cyllid grant Llywodraeth Cymru o dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a'r cyfle yn ei sgil i gael ysgol fodern addas i'r pwrpas ar gyfer Ysgol Corn Hir a gefnogir yn eang gan y gymuned. Nododd y Pwyllgor hefyd y gefnogaeth gref gan randdeiliaid i gadw Ysgol Bodffordd ar agor yn ogystal â'r rhesymau pam roedd hyn bellach yn cael ei gynnig. Roedd y Pwyllgor yn unfrydol yn ei gefnogaeth i'r dewis rhesymol arall a gyflwynwyd ac argymhellodd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gymeradwyo.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor Sgriwtini am ei waith mewn perthynas â'r mater dan sylw a'r mater blaenorol, ac yn arbennig am gyflwyno persbectif gwahanol a her gadarn i'r drafodaeth ac fe  adleisiwyd sylwadau'r Cadeirydd yn hynny o beth gan y Pwyllgor Gwaith cyfan.

 

Roedd consensws ymhlith aelodau’r Pwyllgor Gwaith ynghylch pwysigrwydd dod â chyfleusterau modern i stoc ysgolion yr Awdurdod sy’n darparu’r amgylchedd dysgu, yr adnoddau a'r lle iawn i gwrdd â gofynion y dyfodol, gan gynnwys rhai’r cwricwlwm newydd. Yr un mor bwysig yw'r angen i gael system addysg gynaliadwy a chost effeithiol sy'n cwrdd ag anghenion disgyblion yn gyfartal. Wrth ystyried y dewis arall rhesymol fel y'i cyflwynwyd a'r hyn y mae'n ei olygu o ran sicrhau ansawdd a safonau addysg yn Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd yn ogystal â'r rhesymau dros newid y cynnig, ac ar ôl nodi'r atborth a'r argymhelliad gan y Pwyllgor Sgriwtini, roedd y Pwyllgor Gwaith yn fodlon, ac yn gytûn mai'r dewis arall rhesymol fel yr argymhellir yw'r ffordd fwyaf priodol ymlaen yn yr achos hwn.

 

Penderfynwyd –

 

           Cymeradwyo'r cynnig i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae.

           Awdurdodi Swyddogion i weithredu'r penderfyniad cyn gynted ag y bo modd a nodi bod ei weithrediad y tu allan i ddisgwyliadau'r Côd Trefniadaeth Ysgolion (011/18).

           Awdurdodi Swyddogion i ailgyhoeddi'r Asesiad Effaith ar y cynnig fel rhan o asesu effaith barhaus y cynnig ar gydraddoldeb, y Gymraeg a'r gymuned.

Dogfennau ategol: