Eitem Rhaglen

Rhybydd o Gynnig yn Unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

Cyflwyno Rhybudd o Gynigiad gan y Cynghorydd Bryan Owen, wedi’i gymeradwyo gan y Cynghorydd Aled Morris Jones:-

 

Rydym ni, Grŵp Annibynwyr Môn, yn gwneud cais bod Ynys Môn yn cymryd yr holl fesurau i sicrhau llesiant economaidd Ynys Môn yn yr hinsawdd economaidd yn dilyn Brexit ar ôl 1 Ionawr 2021. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - y Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Bryan Owen ac a gymeradwywyd gan y Cynghorydd Aled Morris Jones: -

 

‘Rydym ni, Grŵp Annibynwyr Môn, yn gwneud cais bod Ynys Môn yn cymryd yr holl fesurau i sicrhau llesiant economaidd Ynys Môn yn yr hinsawdd economaidd yn dilyn Brexit ar ôl 1 Ionawr 2021.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen fod Ynys Môn, fel llawer o awdurdodau lleol eraill, wedi elwa o arian gan yr UE dros y blynyddoedd. Holodd pa gamau y mae'r Awdurdod yn eu cymryd i sicrhau'r cyllid ffyniant y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ei ragweld yn dilyn Brexit. Dywedodd y Cynghorydd Owen fod angen i Ynys Môn sicrhau cefnogaeth ariannol fel yr oedd yn ei dderbyn cyn gadael yr UE yn y cyfnod ar ôl Brexit.

 

Eiliodd y Cynghorydd Aled M Jones y Cynigiad a rhoddodd drosolwg o brosiectau sydd wedi cael cefnogaeth ar yr Ynys. Dywedodd  ymhellach: -

 

·        Bod angen cynnal adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd, a hynny ar fyrder, gan nad yw'r Cynllun yn gynaliadwy i ddatblygu cymunedau lleol Ynys Môn;

·        Rhagwelir canlyniad y Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer Wylfa Newydd erbyn diwedd eleni;

·        Mae statws Porthladd Rhydd o'r pwys mwyaf i ddyfodol Caergybi;

·        Mae angen cryfhau'r cysylltiadau rhwng yr Awdurdod hwn a Sir Benfro a Dun Laoghaire.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai'n ymateb i'r Cynigiad sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Cyngor. Ychwanegodd fod yn rhaid cydnabod bod yr Awdurdod wedi dangos gwytnwch wrth wynebu pandemig Covid-19 sydd hefyd wedi bod yn digwydd ar yr un pryd â Brexit. Mae'r Awdurdod wedi cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'i hymgynghorwyr Grant Thornton UK LLP i lywio a dylanwadu ar adolygiad o effeithiau economaidd posib a fyddai'n dylanwadu ar lesiant ar Ynys Môn. Mae'r papur a gyhoeddwyd yn ymwneud â Chymru ac yn asesu dwy senario, sef gadael gyda chytundeb a gadael heb gytundeb o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Bydd y papur yn cynorthwyo i lywio prosesau cynllunio ariannol awdurdodau lleol er mwyn sicrhau, gyda gobaith, y gellir lleihau i'r eithaf unrhyw effeithiau negyddol ar les economaidd i'r dyfodol. Mae’r Byrddau  Pontio sy’n cael eu paratoi gan yr ymgynghorwyr Grant Thornton UK LLP yn diffinio meysydd pryder allweddol ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol. Mae cofrestr risg Brexit yr Awdurdod wedi rhoi sylw i risgiau i wasanaethau allweddol a nodi camau lliniaru lle bo angen i amddiffyn lles yr Ynys ac mae'n cael ei diweddaru a'i hadolygu bob wythnos. Mae Cydlynydd UE y Cyngor Sir yn parhau i weithio gyda'r holl wasanaethau i adolygu canllawiau a gwybodaeth newydd ac i sicrhau bod camau angenrheidiol yn cael eu cymryd. Canolbwyntiwyd yn arbennig ar y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg i asesu effeithiau ar danwydd gwresogi, bwyd; TG mewn perthynas â data; Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â Gwarchod y  Cyhoedd a busnesau lleol. Dywedodd yr Arweinydd ymhellach fod cryn ffocws ar gydweithredu amlasiantaethol i reoli’r effaith ar draffig ym Mhorthladd Caergybi oherwydd oedi posib a achosir gan Gerbydau Nwyddau Trymion. Mae'r Cyngor yn parhau i fonitro'r effeithiau ar amaethyddiaeth a chyfrannu at ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn. Mae'r Awdurdod hefyd yn cyfrannu at y Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru i geisio eglurhad ar y gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig i gefnogi'r economi a busnesau ar yr Ynys. Cyfeiriodd ymhellach at Gais Twf Gogledd Cymru a fydd yn dod â chyfleoedd busnes a gwaith y mae gwir angen amdanynt ar yr Ynys.

 

Mynegodd y Cynghorydd R Ll Jones bryderon mawr o ran dyfodol Porthladd Caergybi yn sgil y posibilrwydd o gael Brexit heb gytundeb. Dywedodd y dylid sefydlu Swyddfa yng Nghaergybi i roi arweiniad i drigolion lleol ac i roi pwysau ar weithredwyr fferi.

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor welliant i'r Cynigiad fel a ganlyn: -

 

Bod y Cyngor Sir yn ceisio sicrwydd gan y ddwy Lywodraeth bod economi’r Ynys yn cael ei diogelu yn dilyn Brexit a'r pandemig Covid-19. ‘

 

Eiliodd y Cynghorydd Carwyn Jones y gwelliant i'r Cynigiad.

 

Cymerodd y Cadeirydd bleidlais a oedd yn cynnwys y gwelliant i'r Cynigiad ac yn dilyn y bleidlais cymeradwywyd y gwelliant.

 

Cafodd y gwelliant ei gario.