Eitem Rhaglen

Strategaeth Tai Dros Dro 2020/21

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn ymgorffori Strategaeth Dai Dros Dro 2021.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Mummery, yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau, ac fe eglurodd mai'r bwriad wrth gyflwyno'r Strategaeth Dai Dros Dro yw rhoi dogfen strategol ar waith sy'n cydnabod y newidiadau a wynebwyd yn ystod y flwyddyn, trwy flaenoriaethu'r hyn sydd angen digwydd y flwyddyn nesaf a darparu gwybodaeth am sut mae'r Gwasanaethau Tai a'i bartneriaid yn ymateb, ac yn parhau i ymateb, i'r pandemig coronafeirws. Mae'n bont i ddatblygu'r Strategaeth Dai a fydd yn cynnwys gofynion y Grant Cymorth Tai a Strategaeth Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru erbyn 2022. Defnyddiwyd blaenoriaethau'r Strategaeth gyfredol ar gyfer y Strategaeth Dros Dro a fydd yn llywio blaenoriaethau'r Gwasanaeth am y cyfnod 2022 -2027 ac mae'r rhain wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Gan gyfeirio at y Cynllun Cyfathrebu a’r ymgynghoriad, dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Strategaeth Dros Dro wedi’i rhoi ar wefan y Cyngor i bwrpas ymgynghori â phrif bartneriaid y Gwasanaeth. Rhedodd y cyfnod ymgynghori am 3 wythnos rhwng 27 Tachwedd, 2020 a 18 Rhagfyr, 2020. Mae'r ymateb i'r ymgynghoriad (y manylir arno yn Atodiad 1) yn dangos cefnogaeth i'r Strategaeth Dai Dros Dro ar gyfer 2021 a bydd yn sail ar gyfer datblygu'r Strategaeth 5 mlynedd am y cyfnod o 2022 i 2027 a'r bwriad yw cyhoeddi drafft cychwynnol erbyn Ebrill, 2021 gyda'r drafft terfynol ar gael ar-lein rhwng Mehefin ac Awst, 2021 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yr amserlen ymgysylltu / ymgynghori arfaethedig yn gweld y drafft terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym mis Medi, 2021 ac wedi hynny i'r Pwyllgor Gwaith i'w gymeradwyo ym mis Hydref, 2021.

 

Wrth ddarparu rhagolwg o amcanion y Gwasanaeth Tai cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at 93 o unedau tai y disgwylir iddynt gael eu cwblhau yn 2021/22 gan y Cymdeithasau Tai sy'n bartneriaid i'r Gwasanaeth o gymharu â 23 uned yn 2019/20 a 49 uned yn 2020/21. Nododd bod  gwaith i godi 38 o unedau tai Cyngor wedi cychwyn ar safleoedd  yn 2020/21 a disgwylir i waith ar 40 uned arall gychwyn erbyn 2021/22. Yn ogystal, rhagwelir y bydd hyd at 75 o dai gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd yn 2020/21 ac o leiaf 50 yn 2021/22. Ymgymerwyd â gweithgaredd sylweddol hefyd o dan y Strategaeth Dai flaenorol, sef o 2014 mewn gwirionedd, lle darparwyd 53 o unedau tai newydd rhwng 2015 a 2020 ynghyd â phrynu 65 uned ychwanegol. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, cwblhawyd Hafan Cefni, sef cyfadeilad gofal ychwanegol sy'n cynnwys 63 fflat ac fe ailfodelwyd Llawr y Dref yn Llangefni i ddarparu ar gyfer ffordd fwy modern o fyw.

 

Wrth gloi ei gyflwyniad ar y Strategaeth, tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at yr agwedd gadarnhaol ynddi o ran y weledigaeth ar gyfer y dyfodol yr oedd yn ei phortreadu; mynegodd ei ddiolchgarwch i staff y Gwasanaeth Tai am eu gwaith caled a’u hymrwymiad yn ystod y 10 mis diwethaf wrth wynebu’r heriau a oedd wedi codi yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig mewn perthynas â digartrefedd ac wrth addasu nodau ac amcanion i fynd i'r afael â'r materion sy’n dod i’r amlwg.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod gan y Gwasanaeth Tai gyfrifoldeb statudol i asesu'r angen am dai ac i arwain ar weithio mewn partneriaeth i sicrhau tai o ansawdd sy'n cwrdd ag anghenion ei ddinasyddion nawr ac yn y dyfodol, a bod y Strategaeth yn dangos sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni yn y cyfnod interim a thu hwnt.

 

Siaradodd aelodau unigol o’r Pwyllgor Gwaith  i ddiolch i’r Gwasanaeth Tai am ei ymateb i’r pandemig a hefyd am fod yn wasanaeth blaengar o ran ei weledigaeth ar gyfer stoc dai’r Cyngor a’i waith o ran cynnal y stoc, buddsoddi ynddi ac ychwanegu ati, yn arbennig felly mewn ardaloedd mwy gwledig lle'r oedd hynny'n bosib, gan gydnabod bod argaeledd tai cymdeithasol mewn cymunedau gwledig yn bwysig i'w cynaliadwyedd tymor hir. Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith hefyd yn gwerthfawrogi gwaith y Gwasanaeth gydag eiddo gwag - a all fod yn ddolur llygad mewn cymunedau - wrth ddychwelyd yr eiddo i ddefnydd cadarnhaol a thrwy hynny wella cymunedau a helpu i gwrdd ag anghenion tai.

 

Ategodd y Cadeirydd y diolchiadau hynny gan ychwanegu bod y chwe thema a fydd yn llywio blaenoriaethau'r Strategaeth 5 mlynedd tymor hwy hefyd yn bwydo i mewn i Gynllun Corfforaethol y Cyngor. Er y dylai’r rheolaeth o stoc dai’r Cyngor fod yn destun balchder i’r Gwasanaeth Tai mae hefyd yn adlewyrchiad o weithio mewn partneriaeth, gyda’r Gwasanaeth yn gweithio ochr yn ochr â chyrff tai cymdeithasol a chymunedau’r Ynys i gyflawni ei ymrwymiadau tai.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –

 

·        Strategaeth Dai Dros dro 2021.

·        Y dull o gyfathrebu wrth ddatblygu Strategaeth Dai 2022-27 a chynllun gwaith gyda phartneriaid sydd yn arwain at gyfnod ymgynghori a chymeradwyaeth derfynol

Dogfennau ategol: