Eitem Rhaglen

Cyllideb Gyfalaf Cychwynnol 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sy'n cynnwys y gyllideb gyfalaf gychwynnol ar gyfer 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, yr adroddiad drwy esbonio y bydd y gyllideb gyfalaf arfaethedig gychwynnol, fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb ynghyd â chynigion y gyllideb refeniw ddrafft o dan yr eitem ddilynol, yn destun ymgynghoriad ffurfiol â'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r cyhoedd. Yna bydd y Pwyllgor Gwaith yn gwneud ei argymhellion terfynol ynghylch cyllideb 2021/22 i'r Cyngor Sir. Bydd cyfarfod y Cyngor Llawn ar 9 Mawrth, 2021 wedyn yn cymeradwyo’r gyllideb a lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod wedi bod yn anos llunio'r gyllideb gyfalaf eleni oherwydd diffyg cyllid sy'n golygu y bydd yn rhaid dod o hyd i arian ychwanegol er mwyn cyflawni’r prosiectau cyfalaf a argymhellir yn llawn. Cyfanswm y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 (ac eithrio'r rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif a'r Cyfrif Refeniw Tai) yn seiliedig ar ffigurau dros dro y setliad Llywodraeth Leol yw £4.321m. O'r swm yma, mae angen £4.167m i gefnogi'r rhaglen ar gyfer adnewyddu a newid asedau presennol yn unol â’r Strategaeth Gyfalaf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.  Argymhellir cynnwys pedwar prosiect cyfalaf untro yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22 ac mae'r rhain yn dod i gyfanswm o £1.105m sy'n fwy na'r £921k sydd ar gael. Gallai tanwariant posibl yn y gyllideb refeniw ar gyfer 2020/21 olygu y gellid ychwanegu £1m ychwanegol at y gronfa gyffredinol y gellid ei defnyddio i ariannu'r gwariant cyfalaf ychwanegol yn 2021/22. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd o hyn ac os bydd sefyllfa'r gyllideb refeniw yn dirywio yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol, gall lefel y cyllid sydd ar gael fod yn llai nag £1m. O'r 4 cynllun untro a nodir yn Nhabl 4 o'r adroddiad ystyrir bod angen rhoi blaenoriaeth i’r arian cyfatebol ar gyfer prosiectau Datblygu Economaidd (£95k) a phrynu llyfrau chrome i ddisgyblion (£305k) sy'n golygu, os nad oes digon o arian wrth gefn ar gael, yna efallai y bydd yn rhaid gwario llai ar y ddau gynllun arallgosod wyneb newydd ar ardaloedd chwarae a chynlluniau lliniaru llifogydd. Cynigir cyfanswm rhaglen gyfalaf o £36.155m ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 mai un o egwyddorion allweddol y Strategaeth Gyfalaf yw y bydd cyllid cyfalaf yn cael ei ddyrannu bob blwyddyn i sicrhau y buddsoddir yn asedau presennol y Cyngor i'w diogelu ar gyfer y dyfodol; mae'r flaenoriaeth hon wedi'i chyflawni ar y cyfan drwy Grant Cyfalaf Llywodraeth Cymru a benthyca â chymorth. Mae'r ddau bennawd yma wedi aros yn weddol gyson dros nifer o flynyddoedd gyda Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau gwariant cyfalaf penodol drwy gyllid grant. Mae hyn yn golygu bod y cyllid craidd sydd ar gael at ddibenion cyfalaf wedi bod yn lleihau fesul blwyddyn gan ei gwneud yn anos ariannu unrhyw fuddsoddiad mewn asedau sy'n bodoli eisoes. Yn y gorffennol, mae'r Cyngor wedi defnyddio derbyniadau cyfalaf fel ffynhonnell cyllid cyfalaf ychwanegol; fodd bynnag, mae'r potensial ar gyfer unrhyw dderbyniadau cyfalaf sylweddol bellach yn gyfyngedig gan fod y rhan fwyaf o unrhyw asedau sy'n weddill nad ydynt wedi'u gwerthu eisoes wedi'u clustnodi i ariannu prosiectau cyfalaf presennol neu brosiectau cyfalaf yn y dyfodol e.e. Ysgolion yr 21ain Ganrif, gwelliannau hamdden a mân-ddaliadau. Yn yr un modd, mewn blynyddoedd blaenorol, mae cyllid wedi bod ar gael o gronfa wrth gefn a glustnodwyd yn benodol i ariannu prosiectau cyfalaf. Mae defnyddio'r arian hwn dros y blynyddoedd diwethaf yn golygu bod y balans wedi gostwng yn sylweddol a bydd y balans sy'n weddill yn cael ei gadw i ariannu unrhyw waith cyfalaf brys a allai godi yn ystod y flwyddyn neu i ddarparu arian cyfatebol pe bai'r cynnig o arian grant sylweddol yn dod i law yn ystod y flwyddyn sy'n gofyn am swm bach o arian cyfatebol. Felly, mae'r gyllideb gyfalaf yn cael ei chyfyngu fwyfwy, a hynny sydd wedi arwain at y cynnig i ddefnyddio tanwariant posibl o'r gyllideb refeniw ar gyfer y rhaglen gyfalaf. Nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir a heb newid strategaeth gan Lywodraeth Cymru o ran cynyddu cyllid cyfalaf craidd, bydd yn dod yn fwyfwy anodd ariannu unrhyw eitemau newydd o wariant cyfalaf yn y dyfodol.

 

Holodd yr Is-gadeirydd ynghylch cynnydd cynllun Lliniaru Llifogydd Traeth Coch ac os bydd llithriant oherwydd prinder arian cyfalaf p’un ai a fydd y cynllun a'r amserlen yn cael eu hailystyried.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yn rhaid gwario cyllid grant Llywodraeth Cymru (85%) ar gyfer y cynllun yn y flwyddyn ariannol nesaf; os na fydd y Cyngor yn gallu darparu'r 15% o arian cyfatebol sy'n weddill, yna bydd yn rhaid ail-negodi’r grant gyda Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd R.G.Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ei fod o'r farn ei bod yn bwysig i'r cynllun fynd rhagddo o ystyried bod 85% o gyllid ar gael i hwyluso hynny; fodd bynnag, craidd y mater yw a fydd yr arian grant yn dal i fod ar gael ym mlwyddyn ariannol 2022/23 pe na bai'r Cyngor yn gallu rhoi arian cyfatebol i'r cynllun yn 2021/22.

 

Awgrymodd y Dirprwy Brif Weithredwr y byddai’n syniad doeth i'r Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ysgrifennu at Weinidogion Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at y pwysau ar y gyllideb gyfalaf a gofyn iddynt felly ystyried ariannu cynlluniau lliniaru llifogydd yn llawn yn y dyfodol. Ychwanegodd ei bod yn bwysig na ddylid colli cyllid grant yn enwedig pan fydd ar lefel o 85%.

 

Cytunodd y Cadeirydd fod pennu'r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22 yn her ac yn sgil hyn, cynigiodd y dylai'r Aelod Portffolio Cyllid ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau am sefyllfa'r gyllideb gyfalaf yn Ynys Môn gan na fu cynnydd yn y dyraniad cyfalaf ers nifer o flynyddoedd a'i oblygiadau i wariant cyfalaf y Cyngor yn y dyfodol. Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cytuno y dylid cyflwyno'r sylwadau a awgrymwyd.

 

Penderfynwyd -

 

·      Argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2021/22 i'r Cyngor Llawn

                                                                       

Cynlluniau 2020/21 a ddygwyd ymlaen      £ 3.970m

Adnewyddu/Newid Asedau                         £ 4.167m

Prosiectau Cyfalaf Untro Newydd 

(Prosiectau Blaenoriaeth)                            £   780k

Prosiectau Cyfalaf Untro Newydd

(yn amodol fod Cyllid ar gael)                     £   325k

 

Ysgolion yr 21ain  Ganrif                               £ 6.6m

Cyfrif Refeniw Tai                                        £20.313m

 

Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf

a Argymhellir                                                 £36.155m

 

Cyllidir gan:

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                            £  2.163m

Benthyca â Chymorth  Cyffredinol             £  2.158m

Balansau Cyffredinol                                   £     596k

Balansau Cyffredinol

(os oes digon o arian ar gael)                     £   325k

Benthyca â Chymorth

Ysgolion yr 21ain Ganrif                               £ 2.897m

Benthyca heb Gymorth

Ysgolion yr 21ain Ganrif                               £  498k 

Arian Wrth Gefn CRT a’r Gwarged

yn y Flwyddyn                                              £15.639m

Benthyca heb gymorth gan y CRT             £ 2.0m

Grantiau Allanol                                            £ 5.909m       

Cyllid 2020/21  a ddygwyd ymlaen             £ 3.970m

 

Cyfanswm Cyllid Cyfalaf  2021/22               £36.155m

 

·                Nodi'r gofynion cyllido posibl yn y dyfodol ar gyfer 2022/23 ymlaen fel y nodir yn Atodiad 1, Tabl 3 a pharagraff 5.3 o'r adroddiad.

·                Yn sgil y pwysau ar y gyllideb gyfalaf, fod Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn cyflwyno sylwadau drwy lythyr at Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn awgrymu bod cynlluniau atal/lliniaru llifogydd awdurdodau lleol yn cael eu hariannu 100% gan grant Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol, a

·                Bod Aelod Portffolio Cyllid yn cyflwyno sylwadau drwy lythyr at Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at y pwysau ar y gyllideb gyfalaf yn Ynys Môn oherwydd y diffyg cynnydd yn y dyraniad cyfalaf cyffredinol dros nifer o flynyddoedd a'r cyfyngiadau y mae hyn yn debygol o'u gosod ar weithgareddau cyfalaf a buddsoddiadau’r Cyngor yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: