Eitem Rhaglen

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i'w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Dywedodd Deilydd Portffolio Busnes Corfforaethol fod Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) wedi'i basio gan y Senedd ar 18 Tachwedd 2020 a'i fod wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021.  Roedd y Bil yn un o ddim ond dau Fil yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru i barhau yn ystod pandemig Covid-19.  Rhoddwyd blaenoriaeth i'r Bil o ystyried yr amserlen y mae’n rhaid cadw ati i gyflwyno diwygiadau etholiadol arfaethedig mewn pryd ar gyfer etholiadau lleol 2022.  Dywedodd fod y Ddeddf yn un sylweddol a’i bod yn cynnwys amryw o bynciau, o ddiwygio etholiadol, cyfranogiad y cyhoedd, llywodraethu a pherfformiad, hyd at weithio rhanbarthol. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno:-

 

  • Newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol;
  • Cyflwyno pŵer cymhwysedd cyffredinol (gall cynghorau wneud unrhyw beth i hyrwyddo eu hagenda ar yr amod nad yw'r camau gweithredu wedi'u gwahardd yn gyfreithiol);
  • Diwygio cyfranogiad y cyhoedd mewn llywodraeth leol;
  • Newidiadau ynghylch llywodraethu ac arweinyddiaeth ddemocrataidd;
  • Cydweithio;
  • Diwygio'r drefn perfformiad a llywodraethu;
  • Pwerau i hwyluso uno prif gynghorau yn wirfoddol.

 

Dywedodd hefyd y gofynnir i'r Cyngor gymeradwyo'r Cynllun Gweithredu sydd ynghlwm wrth yr adroddiad er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 o fewn yr amserlen. 

 

Codwyd cwestiynau ynghylch swyddogaeth y Cydbwyllgorau Corfforaethol a'r adnoddau ariannol y disgwylir i'r Awdurdod eu cyfrannu.  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Adran 151 fod 4 Cydbwyllgor Corfforaethol yng Nghymru gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn rhan o Gydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru; sy'n debyg i strwythur Cyngor Sir Rhanbarthol.  Bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i helpu sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol drwy CLlLC, ond mae'n ansicr ynghylch faint o arian a ddisgwylir.  Nododd y bydd yr UDA yn cyfarfod i drafod gofynion CLlLC i helpu i sefydlu'r Cydbwyllgorau Corfforaethol.  Disgwylir i bob Cyngor Sir gyfrannu at gyllideb sefydlu'r Cydbwyllgorau Corfforaethol o 2022.  Mae'r Ddeddf yn datgan y gall y Cydbwyllgorau Corfforaethol benderfynu ar y gyllideb y bydd ei hangen arnynt i gydymffurfio â'r gofynion statudol yn y Ddeddf a bydd yn rhaid i'r awdurdodau lleol ariannu'r gyllideb sy'n ofynnol gan y corff sefydledig.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Cydbwyllgor Corfforaethol o fis Medi 2021 i ddiwedd mis Mehefin 2022.   Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ymhellach mai Cyfrifoldeb Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn y cyfamser fydd creu fframwaith o fewn y Ddeddf i drosglwyddo Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'r Cydbwyllgorau Corfforaethol a chynnwys dyletswydd statudol y Cynllun Rheoli Traffig Rhanbarthol a'r Cynllun Datblygu Strategol. 

 

Mynegodd y Cynghorydd A M Jones y bydd hyn yn creu corff isranbarthol a fydd yn gofyn am adnoddau ariannol a phwerau deddfwriaethol gan lywodraeth leol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod trafodaethau helaeth wedi’u cynnal gyda Llywodraeth Cymru a CLlLC ynglŷn â'r mater hwn a bod gwrthwynebiadau wedi'u lleisio ynglŷn â chreu corff o'r fath.  Nododd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo'r Cynllun Gweithredu sydd ynghlwm wrth yr adroddiad er mwyn caniatáu i'r Swyddogion drafod yn fanwl ofyniad y Ddeddf er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl i drigolion yr Ynys.   

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r Cynllun Gweithredu sydd ynddo;

·           Bod adroddiadau pellach sy'n manylu ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu yn cael eu monitro gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

Bu i’r Cynghorydd Alun Mummery ymatal rhag pleidleisio.

 

Dogfennau ategol: