Eitem Rhaglen

Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021/2022

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Datganiad Strategaeth Reoli'r Trysorlys ar gyfer 2021/22 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Mae'r Datganiad yn nodi strategaeth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod o ran benthyca a buddsoddi a'r cyfyngiadau ar fenthyca, mae’n pennu'r dangosyddion darbodus ac archwaeth risg y Cyngor a hefyd ei ddull o fuddsoddi.  

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 wrth dynnu sylw at y prif bwyntiau'r adroddiad fel a ganlyn, nad oes unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i egwyddorion craidd Datganiad 2020/21 -

 

           Y cyd-destun allanol ar ffurf y sefyllfa economaidd ehangach gan fod hynny'n effeithio ar gyfraddau llog buddsoddi, cost benthyca a chryfder ariannol gwrthbartïon. Ceir crynodeb llawn o'r rhagolygon economaidd yn Atodiad 3 i'r adroddiad a nodir y prif bwyntiau yn adran 3. Ar ôl ystyried yr wybodaeth sydd ar gael ac ar ôl cymryd cyngor gan Gynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor, mae'r tabl ym mharagraff 3.2 yr adroddiad yn nodi safbwynt y Cyngor ar lefelau cyfradd llog hyd at fis Mawrth, 2024 na ddisgwylir iddynt newid yn sylweddol yn y cyfnod hwnnw.

           Safbwynt benthyca allanol presennol y Cyngor fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 4.1.1 yr adroddiad sy'n dangos bod ganddo tua £122m o fenthyciadau gyda PWLB a £2.6m o fenthyciadau gyda Salix cynllun a ariennir yn gyhoeddus sy'n darparu benthyciadau di-log ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni.

           Y rhaglen gwariant cyfalaf arfaethedig ar gyfer 2021/22 i 2023/24 fel y nodir yn adran 5.6 yr adroddiad gan gynnwys gwariant cyfalaf arfaethedig, sut y caiff hyn ei ariannu a'r balans i'w ariannu o fenthyciadau - £7.553m ar gyfer y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion

           Effaith cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor a'r tâl Darpariaeth Isafswm Refeniw (DIR) ar Ofyniad Cyllido Cyfalaf y Cyngor (GCC) a lefel y benthyca allanol a mewnol fel y dangosir yn Nhabl 4 o'r adroddiad.

           Y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw – y tâl y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei godi i'r cyfrif refeniw bob blwyddyn i sicrhau bod digon o arian ar gael i ad-dalu dyledion pan fo angen. Manylir ar y Polisi DIR yn Atodiad 6 yr adroddiad ac nid yw wedi newid ers iddo gael ei ddiwygio'n sylweddol yn 2018.

           Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn cynnal sefyllfa o dan-fenthyca. Mae gweithredu yn y fath fodd yn ddarbodus oherwydd bod enillion ar fuddsoddiadau yn isel ac mae risg gwrthbartïon yn fater sy’n parhau i fod angen ei gymryd i ystyriaeth. Fel rhan o’r strategaeth hon, mae’r gallu i fenthyca’n allanol i ad-dalu’r arian wrth gefn a balansau, petai raid, yn bwysig. Mae Tabl 4 yn dangos y byddai o bosibl angen benthyca £8.884m yn allanol petai angen brys. Dyma’r swm a ddefnyddiwyd o arian wrth gefn a balansau’r Cyngor yn y gorffennol i gyllido’r rhaglen gyfalaf yn lle cymryd benthyciadau.

           Ni fydd y Cyngor yn benthyca mwy nag y mae ei angen, na chyn bod angen gwneud hynny, dim ond er mwyn elwa o fuddsoddi’r symiau ychwanegol a fenthycir. Wrth benderfynu a ddylid benthyca cyn bod angen gwneud hynny, bydd y Cyngor yn ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 6.4.2 o’r adroddiad.

           Mae'n annhebygol y byddir yn aildrefnu'r benthyciadau ym mhortffolio dyled y Cyngor ar hyn o bryd gan fod gwahaniaeth mawr iawn o hyd rhwng cyfraddau ad-dalu cynamserol a chyfraddau benthyca newydd, ac mae'r benthyciadau newydd yn ei gwneud yn aneconomaidd gwneud hynny.

           Y brif strategaeth ar gyfer rheoli arian yw sicrhau yn y lle cyntaf ddiogelwch yr adneuon, eu hylifedd yn yr ail le ac yna’r enillion ar y buddsoddiad.

           Mae'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru a CIPFA yn rhoi blaenoriaeth uchel i reoli risg. Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu ymagwedd ddarbodus tuag at reoli risg ac mae'n diffinio ei archwaeth risg drwy'r dulliau a nodir yn adran 7.2 o'r adroddiad o ran gwrthbartïon sy’n addas iawn i dderbyn credyd, terfynau benthyca a sgoriau credyd sy'n cael eu monitro'n ddyddiol.

           Mae Adran 8 o'r adroddiad yn nodi'r trefniant llywodraethu a rheoli o ran prosesau, penderfyniadau a pherfformiad rheoli'r trysorlys.

           Mae Atodiad 11 i'r adroddiad yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus a Thrysorlys sy'n cynnwys fforddiadwyedd a darbodusrwydd ac yn gosod cyfyngiadau ar gyfer gwariant cyfalaf, dyled allanol a strwythur dyledion.

 

Wrth ystyried yr wybodaeth a gyflwynwyd, trafododd y Pwyllgor gynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor yn benodol p’un ai a fyddai'r Cyngor yn cyflawni ei wariant cyfalaf arfaethedig ar gyfer 2020/21 pan ddangoswyd mai dim ond £11m a wariwyd yn erbyn ffigur a adroddwyd o £33.7m pan gyfarfu'r Pwyllgor ddiwethaf ym mis Rhagfyr a ph’un ai a yw'r Cyngor, yng ngoleuni tanwariant hanesyddol ar y gyllideb gyfalaf, yn realistig yn ei flaengynlluniau ar gyfer gwariant cyfalaf.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 wrth gyfeirio at adroddiad monitro cyllideb cyfalaf Chwarter 3 a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021, mai’r gwariant a ragwelir o gyfanswm cyllideb o £56m yw £34m. O'r tanwariant o £22m, mae £8m yn ymwneud â'r Cyfrif Refeniw Tai ac nid yw'n cynnwys benthyca gan fod y gwariant yn cael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn y Cyfrif Refeniw Tai; Mae £7.7m yn ymwneud â'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion a ariennir gan gyfuniad o grantiau, a benthyca â chymorth a heb gymorth; mae £1m yn ymwneud â datblygu economaidd sy'n cynnwys arian grant Ewropeaidd sy'n ddiogel ac mae £2m yn ymwneud â gwaith cynllun lliniaru llifogydd gyda 85% yn cael ei ariannu drwy grantiau Llywodraeth Cymru a 15% drwy adnoddau'r Cyngor. Bydd Tabl 4 o adroddiad Datganiad Strategaeth Reoli'r Trysorlys yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r sefyllfa bresennol cyn ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith. O ran defnyddio gwariant cyfalaf, gall amryw o faterion arwain at oedi o ran cynnydd prosiectau cyfalaf yn erbyn y proffil a'r gwariant a gymeradwywyd a gall y Cyngor fod yn rhy optimistaidd ynghylch rhagolygon ei raglen gyfalaf o ran amser, darpariaeth a ffactorau allanol y tu hwnt i'w reolaeth. Fodd bynnag, gan fod y rhaglen gyfalaf yn cael ei chymeradwyo cyn y flwyddyn y bydd y gwariant yn digwydd, gellir ystyried ei bod yn well cynnwys cynlluniau yn y rhaglen ar ddechrau'r flwyddyn ar y sail y cânt eu cyflawni na gorfod mynd yn ôl i geisio cymeradwyaeth ar gyfer cynlluniau ganol y flwyddyn oherwydd cyfalaf a chapasiti heb eu defnyddio.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Cyngor yn ystyried cyfraddau chwyddiant yn seiliedig ar gyngor a ddarparwyd gan ei Gynghorwyr Rheoli Trysorlys (gweler Atodiad 3) ond bod chwyddiant yn ffactor amlycach o ran refeniw yn hytrach na chyfalaf. Eglurodd y Swyddog hefyd nad yw effaith y benthyca a ragwelir (sy’n or-optimistaidd ynghylch cyflawni'r rhaglen gyfalaf) mor amlwg o ddydd i ddydd gan fod y Cyngor yn defnyddio'r arian sydd ganddo i ariannu gwariant cyfalaf er mwyn osgoi benthyca a chostau llog cysylltiedig hyd nes y bydd yn rhaid iddo wneud benthyciadau allanol ar gyfer yr arian y mae wedi'i wario. Rhoddodd y Swyddog sicrwydd hefyd, wrth ddefnyddio arian wrth gefn i ariannu gwariant cyfalaf, na fydd mesurau diogelu rheoli llif arian yn caniatáu i lif arian ostwng islaw lefel benodol, a bydd y Swyddog Adran 151 yn cymryd camau i sicrhau bod gan y Cyngor isafswm balans o £10m mewn cyfrifon adneuo hygyrch ar unrhyw adeg benodol.

 

Penderfynwyd -

 

           Derbyn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2021/22 ac anfon y strategaeth ymlaen at y Pwyllgor Gwaith i'w chymeradwyo yn amodol ar ddiweddaru Tabl 4 i adlewyrchu'r sefyllfa bresennol.

           Nodi cynnydd yn y terfynau trafodion yn Atodiad 8 yr adroddiad.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: