Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb Refeniw – Chwarter 3, 2020/21

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, yr Aelod Portffolio Cyllid fod blwyddyn ariannol 2020/21 wedi bod yn eithriadol oherwydd y pandemig Coronafeirws sydd wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae’r Cyngor yn darparu ei wasanaethau. O'r herwydd, nid yw'r perfformiad ariannol yn adlewyrchu'r hyn a fyddai'n digwydd mewn blwyddyn arferol. Y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £142.146m ac yn seiliedig ar wybodaeth ar ddiwedd Chwarter 3, rhagwelir tanwariant o £1.472m erbyn diwedd y flwyddyn. Wrth groesawu'r tanwariant a ragwelir ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol rhybuddiodd yr Aelod Portffolio y gallai'r sefyllfa newid eto yn Chwarter 4.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylw at newidiadau i'r adroddiad yn Atodiad B, sef y dylai Cyfanswm y Cyllid Corfforaethol o dan yr Alldro Tybiedig ar 31 Mawrth, 2021 yng ngholofn Ch3 ddarllen fel gorwariant (nid tanwariant) o £160k a dylai'r Cyfanswm ar gyfer cyllidebau gwasanaeth ar gyfer 2020/21 o dan yr un golofn ddarllen fel tanwariant o £1.906m (nid £1.746m). Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth at y prif amrywiadau cyllidebol a oedd yn cynnwys y meysydd gwasanaeth hynny yr effeithiwyd arnynt yn benodol gan Covid 19, er enghraifft Addysg Ganolog lle mae cau ysgolion wedi arwain at ostyngiad yn y galw, neu ddim galw o gwbl, sydd wedi cyfrannu at y tanwariant cyffredinol. Tynnodd sylw at y risgiau a’r rhagdybiaethau cyfredol mewn perthynas â gwasanaethau unigol, sef y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaethau Oedolion yn benodol, lle gallai’r galw, sydd yn ôl pob tebyg wedi’i ffrwyno yn y cyfnod clo, godi eto pan fydd cymdeithas yn ailagor a phan ailddechreuir darparu gwasanaethau fel arfer.

 

Bu'r gefnogaeth sylweddol  a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru o gymorth mawr i sefyllfa ariannol y Cyngor  a, heb y gefnogaeth honno rhagwelir y byddai'r Cyngor wedi gorwario'n sylweddol. Darperir manylion am y cyllid grant Covid-19 a gafwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yma yn adran 9 yr adroddiad ac mae'n cynnwys gwariant a gafodd y Cyngor wrth ddelio â'r pandemig ac iawndal am golli incwm oherwydd cyfyngiadau'r pandemig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini  Cyllid fod y Panel, wrth graffu ar berfformiad y gyllideb refeniw, wedi codi pryderon ynghylch erydiad y sylfaen dreth o ganlyniad i eiddo hunanarlwyo yn symud i'r gofrestr trethi busnes a'r goblygiadau ar gyfer incwm o'r Dreth Gyngor a hefyd nifer yr eiddo cyffredin sy'n cael eu troi'i unedau hunanarlwyo a'r goblygiadau ar gyfer tai ar yr Ynys. Roedd y Panel wedi tynnu sylw ymhellach at yr angen i fonitro lefel y galw yn y Gwasanaethau Plant yn barhaus er mwyn bod yn wyliadwrus o  unrhyw gynnydd yn y galw wrth i gyfyngiadau'r  pandemig gael eu llacio.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y gefnogaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi arbed y Cyngor rhag gorfod defnyddio ei gronfeydd wrth gefn i gwrdd â gwariant a phwysau sy'n gysylltiedig â Covid-19, ac roedd yn ddiolchgar am y cymorth hwnnw. Cydnabu hefyd y gwaith a'r ymdrech ychwanegol gan staff y Gwasanaeth Cyllid wrth weinyddu a dosbarthu grantiau cymorth busnes Covid-19 yn ystod y cyfnod.

 

Penderfynwyd

 

·        Nodi'r sefyllfa a ddisgrifir yn Atodiadau A a B yr adroddiad o ran perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2020/21;

·        Nodi'r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2020/21 y manylir arnynt yn Atodiad C;

·        Nodi sefyllfa'r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH;

·        Nodi'r sefyllfa mewn perthynas â'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2020/21 yn Atodiad D;

·        Nodi monitro costau asiantaethau ac ymgynghori ar gyfer 2020/21 yn Atodiadau DD, E ac F.

Dogfennau ategol: