Eitem Rhaglen

Monitro'r Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 3, 2020/21

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor, ym mis Mawrth, 2020, wedi cytuno ar gyllideb refeniw ar gyfer 2020/21 a oedd yn dangos gwarged cynlluniedig o £7.8m. Y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2020/21 oedd £19.1m gan gynnwys lwfans ar gyfer gwariant na chafodd ei gwblhau o gyllideb gyfalaf 2019/20. Roedd cyfuniad o'r gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf wedi'i haddasu yn arwain at ddiffyg cynlluniedig o £7.1m a fyddai'n cael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn y CRT. Mae'r CRT wedi'i glustnodi i ddibenion penodol ac ni ellir trosglwyddo arian ohono i'r Gronfa Gyffredinol, ac ni ellir defnyddio arian o'r Gronfa Gyffredinol i ariannu'r CRT.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn bwysig nodi bod y Cyngor, sydd wedi cadw ei stoc dai, wedi cynnal rhaglen o waith gwella ac adnewyddu yn y blynyddoedd ers hynny a hefyd wedi ceisio ychwanegu at y stoc bresennol trwy brynu hen dai Cyngor yn ôl a thrwy ddarparu tai cyngor newydd ar yr Ynys gyda'r bwriad o barhau i sicrhau cyflenwad cynaliadwy o dai i bobl a theuluoedd yn Ynys Môn i’r dyfodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y CRT yn cynnwys refeniw a chyfalaf a bod y gwarged a gynhyrchir gan y gyllideb refeniw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant cyfalaf i uwchraddio'r stoc dai i gwrdd â Safonau Ansawdd Tai Cymru, i ddatblygu unedau tai newydd a / neu i brynu hen dai Cyngor yn ôl. Ar ddiwedd Chwarter 3 mae'r sefyllfa ariannol refeniw yn dangos tanwariant o £238k (o'i gymharu â £324k ar ddiwedd Chwarter2). Mae'r incwm a ragwelir £150k yn is na'r gyllideb wreiddiol. Mae gwariant cyfalaf £360k yn is na'r gyllideb broffiliedig (£1.250k yn Chwarter 2). Mae'r gwariant a ragwelir £8,022k yn is na'r gyllideb. Mae'r diffyg a ragwelir, gan gynnwys refeniw a chyfalaf, £8,053k yn is na'r gyllideb o'i gymharu â diffyg a ragwelwyd o £6,256k yn is na'r gyllideb ar ddiwedd Chwarter 2, yn bennaf o ganlyniad i wariant cyfalaf is na'r disgwyl. Mae hyn yn golygu y rhagwelir gwarged o £965k ar gyfer y flwyddyn, gan adael cronfa wrth gefn o £9,562k yn y CRT  i ariannu prosiectau cyfalaf y CRT yn y dyfodol. Y strategaeth hirdymor ar gyfer y CRT yw gostwng balans cronfa wrth gefn y  CRT i £1m - £1.5m a ystyrir yn ddigonol i gwrdd ag unrhyw risgiau ar y cyfrif; rhagwelir y bydd y broses hon yn dechrau cael effaith y flwyddyn nesaf wrth i'r cynllun cyfalaf a'r cynllun datblygu tai symud ymlaen ac ennill momentwm.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol

 

·        Y sefyllfa a amlinellir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer chwarter 3 2020/21.

·        Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2020/21.

Dogfennau ategol: