Eitem Rhaglen

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2021/22

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi'r cynigion manwl ar gyfer y gyllideb refeniw i'w hadolygu a'u  cytuno gan y Pwyllgor Gwaith.  Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwaith wneud argymhellion terfynol i'r Cyngor Llawn a fyddai wedyn yn cymeradwyo cyllideb ar gyfer 2021/22 ac yn pennu lefel y Dreth Gyngor yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth, 2021.

 

Datganodd y Cynghorydd Ieuan Williams ddiddordeb personol yn yr eitem ac ni chymerodd ran yn y bleidlais arni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod y cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb yn gam olaf y broses hir o osod y gyllideb refeniw cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn. Mae'r broses wedi bod yn arbennig o heriol eleni oherwydd yr amserlenni tynn o gofio na dderbyniwyd gwybodaeth am y setliad dros dro tan 21 Rhagfyr, 2020 ac na fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 2 Mawrth, 2021. Roedd y setliad dros dro yn well na'r disgwyl ac wedi darparu  £104.825m i'r Cyngor, sef cynnydd o 3.5% mewn termau arian parod ond 3.4% ar ôl ei addasu i lawr ar ôl cymryd i ystyriaeth y grantiau sy'n trosglwyddo i'r setliad ac effaith y newid yn sylfaen y Dreth Gyngor. Nododd y Pwyllgor Gwaith yn ei gynigion cychwynnol ym mis Ionawr y meysydd hynny yr oedd yn awyddus i fuddsoddi ynddynt ac a oedd wedi dod dan bwysau yn ystod y pandemig, gan gynnwys Gwarchod y Cyhoedd a Thechnoleg Gwybodaeth. Gwelodd hefyd angen i ddarparu ar gyfer cyflenwad sgiliau'r Cyngor yn y dyfodol a chynigiodd adfer y Rhaglen Hyfforddeion Proffesiynol. Roedd y cynnig cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2021/22 ar 18 Ionawr yn gyllideb refeniw net o £147.531m a oedd yn rhagdybio cynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor. Dangosodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion fod mwyafrif yr ymatebwyr yn erbyn y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ac er bod y Pwyllgor Sgriwtini  Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror wedi cefnogi'r cynigion ar gyfer y gyllideb, roedd lleisiau yn y Pwyllgor a oedd yn dymuno gweld llai o gynnydd yn y Dreth Gyngor os oes modd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod felly’n falch o adrodd, o ganlyniad i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, (manylion yn adran 9.1 o’r adroddiad) fod y cynnig ar gyfer y gyllideb derfynol am 2021/22 yn gyllideb refeniw net o £147.420m, a chynnydd is yn y Dreth Gyngor o 2.75% sef yr isaf yng Ngogledd Cymru ac ymhlith yr isaf yng Nghymru.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Adran 151 fod y cynnig ar gyfer y gyllideb yn gyfreithlon; mae'r gyllideb yn cynnwys  nifer o ragdybiaethau ac amcangyfrifon o ran lefelau tebygol incwm a gwariant yn y dyfodol, sy'n golygu bod nifer o risgiau ariannol cynhenid yn y gyllideb arfaethedig. Amlygir y rhain yn adran 6 yr adroddiad ac maent yn cynnwys y risg y gallai chwyddiant fod yn sylweddol uwch na'r hyn y darperir ar ei gyfer yn y gyllideb; y gall dyfarniad tâl yr Athrawon o fis Medi 2021 ymlaen fod yn uwch na’r hyn a ganiatawyd yn y gyllideb; bod y galw am Wasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn parhau i dyfu y tu hwnt i’r lefelau cyfredol y mae’r gyllideb yn seiliedig arnynt ac y gallai parhad y pandemig effeithio ar incwm a gwariant i lefel na fyddai'r cymorth cyllidol gan Lywodraeth Cymru yn cwrdd â hi. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ei fod yn fodlon bod y gyllideb arfaethedig yn adlewyrchu anghenion cyfredol y gwasanaethau ac y defnyddir y cronfeydd wrth gefn cyffredinol i gwrdd ag unrhyw bwysau yn sgil galw ychwanegol.

 

Ar 31 Mawrth, 2020, roedd cronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor yn £7.060m sy'n cyfateb i 4.97% o gyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2020/21 (fel rheol gyffredinol, roedd 5% o'r gyllideb refeniw net yn cael ei ystyried yn lefel dderbyniol). Byddai tanwariant a ragwelir o  £1.47m ar gyllideb refeniw 2020/21 yn cynyddu'r balansau i £8.53m (5.8% o gyllideb refeniw net arfaethedig 2021/22) ond, o ystyried cynnig cychwynnol y Pwyllgor Gwaith bod £921k o'r arian wrth gefn cyffredinol yn cael ei ddefnyddio i gyllido cyllideb gyfalaf 2021/22, byddai hyn yn gostwng lefel y balansau cyffredinol yn ôl i lawr i £7.609m neu 5.16% o gyllideb refeniw net arfaethedig 2021/22. Barn broffesiynol y Swyddog Adran 151 yw bod lefel y cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn ddigonol ar hyn o bryd i gwrdd â'r risgiau ariannol y bydd y Cyngor yn eu hwynebu yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae lefel y cronfeydd wrth gefn a ragwelir yn dibynnu ar wireddu'r tanwariant a ragwelir yn y gyllideb refeniw; ar ben hynny, mae'r pandemig yn creu lefel uwch o ansicrwydd a mwy o risgiau ariannol wrth symud ymlaen nag a fyddai'r achos fel arfer. Gellir lliniaru'r rhain os yw Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo'r Cyngor I gwrdd â’r gwariant ychwanegol a geir a'r incwm a gollir. Bydd y £300k o'r cronfeydd wrth gefn y bwriadwyd ei ddefnyddio i dalu am 'chromebooks'  i ysgolion (sydd bellach yn cael eu hariannu gan gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru) nawr yn cael ei ddefnyddio fel cyfraniad at y gyllideb refeniw yn 2021/22 i ariannu'r rhan o'r cynnydd is yn y Dreth Gyngor  sy'n golygu y bydd yn rhaid gwneud arbedion o  £300k yn 2021/22 - cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ei fod yn fodlon bod gan y Cyngor y modd i ariannu'r £300k yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol,  at yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion cyllidebol gan dynnu sylw at y ffaith bod bron i 600 o ymatebion wedi'u derbyn trwy ddulliau electronig yn ogystal â gohebiaeth trwy e-bost a oedd yn galonogol o ystyried yr amgylchiadau a'r amserlen fyrrach. Rhoddodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad grynodeb o sylwedd yr ymatebion a dderbyniwyd ac y manylwyd arnynt yn Atodiad 2 i'r adroddiad.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol atborth ar sylwadau’r Pwyllgor ar y cynigion cyllidebol (nid o reidrwydd ei farn ei hun) a chadarnhaodd, yn dilyn trafodaeth lawn yng nghyfarfod 16 Chwefror a rhoi sylw i ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus, fod mwyafrif y  Pwyllgor wedi cefnogi'r cynigion, gan gynnwys cynnydd arfaethedig o 3.75% yn y Dreth Gyngor. Yn ystod y drafodaeth, gwnaed cynnig amgen ar gyfer cynnydd o 2.5% yn y Dreth Gyngor ond ni chafodd y cynnig gefnogaeth y mwyafrif.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini  Cyllid fod y Panel o'r farn y dylid edrych ar unrhyw sgôp ar gyfer lleihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor ac y gellid ystyried ffioedd parcio is i drigolion lleol mewn meysydd parcio glan môr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am nifer y trigolion sydd wedi cofrestru i dalu'r tâl newydd o £35 am gasglu gwastraff gwyrdd a'r incwm a ragwelir o'r cynllun, dywedodd y Cynghorydd R.G.Parry OBE FRAgS fod dros 2,000 wedi cofrestru hyd at ganol mis Chwefror; darparwyd gwybodaeth am y tâl a rhoddwyd cyhoeddusrwydd i'r cynllun ar Facebook; bydd nodiadau atgoffa hefyd yn cael eu cynnwys gyda biliau Treth Gyngor yn ddiweddarach ym mis Mawrth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod yr incwm a ragwelir o £350k ac y darperir ar ei gyfer yn y gyllideb yn seiliedig ar brofiadau cynghorau eraill Gogledd Cymru o godi tâl am gasglu gwastraff gwyrdd - Ynys Môn yw'r Cyngor olaf yng Ngogledd Cymru i gyflwyno'r tâl; amcangyfrifir y bydd oddeutu 30% o aelwydydd yn Ynys Môn yn cofrestru i dalu  h.y. 10,000 o aelwydydd.

 

Eglurodd yr Aelod Portffolio Cyllid nad yw casglu gwastraff gwyrdd  yn wasanaeth statudol ac y bernir ei bod yn deg cyflwyno tâl am y gwasanaeth i sicrhau bod y Cyngor yn gyson  â'r awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru.

 

Penderfynwyd 

 

·        Nodi'r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb ac ystyried yr adborth a gafwyd, fel yr amlinellir yn Adran 3 o Atodiad 1 ac Atodiad 2;

·        Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor, fel y dangosir yn Adran 9 o Atodiad 1 ac Atodiad 3;

·        Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai'r Cyngor fod yn gweithio tuag at sicrhau balansau cyffredinol o £7.3m ar y lleiaf;

·        Nodi'r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon, fel y nodir hwy yn Adran 7 o Atodiad 1;

·        Argymell cyllideb net ar gyfer y Cyngor Sir o £147.420m a chynnydd o 2.75% yn lefel y Dreth Gyngor yn sgil hynny (£35.91 - Band D) i gyfarfod o’r Cyngor llawn, gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol, gan gynnwys praeseptau a godir gan Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Cymuned, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 9 Mawrth 2021;

·        Gwneud addasiadau ar gyfer unrhyw wahaniaethau rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol trwy ddefnyddio'r gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol sydd wedi'i chynnwys yng nghyllideb 2021/22, neu drwy wneud cyfraniad i / o arian wrth gefn cyffredinol y Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys;

·        Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno'r cynigion terfynol i'r Cyngor;

·        Cytuno y gellir defnyddio'r gyllideb hapddigwyddiadau gyffredinol i gwrdd ag unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau a arweinir gan y galw yn ystod y flwyddyn ariannol;

·        Gofyn i'r Cyngor awdurdodi'r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o'r balansau cyffredinol os yw'r gyllideb hapddigwyddiadau gyffredinol wedi'i hymrwymo'n llawn yn ystod y flwyddyn;

·        Dirprwyo grym i'r Swyddog Adran 151 ryddhau cyllid o'r gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol, sef hyd at £50k ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni cheir cymeradwyo unrhyw eitem sy'n fwy na £50k heb gytundeb y Pwyllgor Gwaith ymlaen llaw;

·        Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn aros ar 35% ac yn parhau i fod yn 100% ar gyfer cartrefi gwag.

Dogfennau ategol: