I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r gyllideb gyfalaf arfaethedig derfynol ar gyfer 2021/22 i'w ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod diffyg cyllidol wedi ei nodi pan ddatblygwyd y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22 ac y cynigir bod y diffyg yn cael ei bontio trwy ddefnyddio'r Balansau Cyffredinol oherwydd y tanwariant a ragwelwyd ar Gyllideb Refeniw 2020/21. Yn yr un modd â'r cynigion drafft ar gyfer Cyllideb Refeniw 2021/22, bu'r Rhaglen Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2021/22 yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a cheir crynodeb o sylwedd yr ymatebion a dderbyniwyd yn adran 2 yr adroddiad. Wrth gynnig y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22, dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn ymwybodol o'r heriau i'r dyfodol o ran gwariant ac adnoddau cyfalaf.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 wybod i'r Pwyllgor Gwaith am y newidiadau ers i'r Rhaglen Gyfalaf ddrafft gael ei chyflwyno ym mis Ionawr 2021 fel yr adlewyrchir yn adran 3 yr adroddiad, a'r prif newid oedd cyllido Chromebooks ar gyfer ysgolion trwy grant allanol yn hytrach na thrwy gronfeydd wrth gefn cyffredinol sydd wedi ei gynnwys yn fersiwn ddiweddaredig y Rhaglen Gyfalaf a gynigir ar gyfer 2021/22 ac a welir yn Nhabl 2. Yn ogystal, mae'r tanwariant a ragwelir o £22m ar Raglen Gyfalaf gyfredol 2020/21 yn seiliedig ar y sefyllfa alldro a ragwelwyd ar ddiwedd Chwarter 3. Adroddir ar y sefyllfa alldro wirioneddol ar ddiwedd Chwarter 4 i'r Pwyllgor Gwaith mewn adroddiad ar wahân ar alldro cyfalaf a bydd unrhyw lithriadau y gofynnir iddynt gael eu dwyn ymlaen i 2021/22 yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith bryd hynny. Efallai y ceir grantiau cyfalaf hefyd ar ôl cwblhau'r broses gosod cyllideb sy'n golygu y gellir ychwanegu cynlluniau at y rhaglen ac felly gall cyfanswm y gyllideb newid.
Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar drafodaethau o gyfarfod y Pwyllgor ar 16 Chwefror a chadarnhaodd fod y Pwyllgor, ar ôl trafodaeth ac ystyried y broses ymgynghori gyhoeddus, wedi cefnogi'r cynigion ar gyfer cyllideb gyfalaf 2021/22.
Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y Panel wedi nodi bod ymatebion y cyhoedd i'r ymgynghoriad yn nodi bod llai o gefnogaeth i fuddsoddi os yw'n arwain at Dreth Gyngor uwch. O ran y rhagolygon tymor hwy, roedd y Panel yn poeni am gyflwr adeiladau'r Cyngor yn enwedig ei ysgolion a'r rhagolygon o ran buddsoddi ynddynt.
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2021/22 – £
Cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2020/21 4.000m
Adnewyddu/Amnewid Asedau 4.137m
Prosiectau Cyfalaf Untro (Prosiectau
Blaenoriaeth) 0.780m
Prosiectau Cyfalaf Untro (Yn amodol
bod cyllid ar Gael) 0.325m
Ysgolion 21ain Ganrif 6.600m
Cyfrif Refeniw Tai 20.313m
Cyfanswm
y Rhaglen
gyfalaf a argymhellir
36.155m
Cyllidwyd gan:
Grant Cyfalaf Cyffredinol 2.163m
Benthyca â chymorth - cyffredinol 2.158m
Balansau Cyffredinol 0.291m
Balansau Cyffredinol
(os oes cyllid digonol ar gael) 0.325m
Benthyca â chymorth -
Ysgolion 21ain Ganrif 2.897m
Benthyca Digymorth 0.498m
Cronfa Wrth Gefn CRT & Gwarged
yn y flwyddyn 15.639m
Benthyca Digymorth CRT 2.0m
Grantiau Allanol 6.184m
Cyllid 2020/21 a ddygwyd ymlaen 4.000m
Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2020/21 £36.155m
Dogfennau ategol: