Eitem Rhaglen

Rhenti Tai y CRT a Thaliadau'r Gwasanaethau Tai 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i’r cynnydd yn y rhent a’r taliadau gwasanaeth ar gyfer 2021/22.

 

Yn dilyn cyflwyniad byr gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod Llywodraeth Cymru yn cytuno ar y polisi ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol bob blwyddyn a derbyniwyd llythyr yn cadarnhau’r polisi ar gyfer 2021/22 ar 30 Tachwedd 2020. Mae’n cynghori y dylai pob awdurdod lleol ddefnyddio fformiwla mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) + 1% gyda gwerth CPI ym mis Medi yn 0.5% h.y. 1.5%. Er mwyn gweithredu’r cynnydd rhent blynyddol yn deg ac yn gyfartal ymhlith tenantiaid ac i sicrhau nad eir tu hwnt i’r trothwy uchaf ar gyfer y cynnydd blynyddol, argymhellir y cyfrifir y cynnydd trwy ddefnyddio “rhent cyfredol + 0.45%” a’i weithredu ar gyfer pob tenant. Codir £2.00 yr wythnos yn ychwanegol ar denantiaid y mae eu rhent yn sylweddol is na’r band rhent targed ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn parhau i weithio tuag at sicrhau bod y rhent a godir yn cyfateb i renti darparwyr tai cymdeithasol eraill. Yn ymarferol bydd hyn yn golygu y bydd cynnydd o 0.45% + £2.00 yr wythnos yn y rhent cyfredol ar gyfer y 1,910 eiddo y mae eu rhenti’n is na’r bandiau rhent targed cyfredol. Ar gyfer y 1942 o anheddau sy’n weddill ac y mae eu rhent ar y targed neu’n uwch, bydd cynnydd o 0.45% yr wythnos. Cynigir cynnydd o 13c yr wythnos ar gyfer rhent pob garej ac mae’r taliadau gwasanaeth wythnosol arfaethedig ar gyfer 2021/22, yn seiliedig ar 51 wythnos, yn cael eu hamlinellu ym mharagraff 3.3 yr adroddiad.

 

Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, mae’r Awdurdod yn edrych i ddatblygu tai Cyngor newydd gyda’r bwriad o godi rhenti canolradd ac mae hyn yn elfen ychwanegol ar gyfer 2021/22. Mae’r mathau hyn o dai yn rhai fforddiadwy lle mae’r rhenti yn uwch na rhenti cymdeithasol eraill ond yn is na rhenti preifat a chânt eu gosod dan y Gofrestr Gosod Tai Teg ac nid y Gofrestr Dai Gyffredin. Maent ar gyfer pobl sydd ddim yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol ond sydd ddim yn gallu fforddio rhenti neu eiddo ar y farchnad agored. Cynigir bod rhenti canolradd yn cael eu pennu ar 80% o gostau rhent y farchnad agored neu hyd at y Lwfans Tai Lleol.

 

Os cymeradwyir y cynnydd arfaethedig mewn rhenti a’u gweithredu, bydd gan yr Awdurdod 1,677 eiddo sy’n parhau i fod yn is na’r rhent targed a 2,175 eiddo ar y rhent targed.

 

Wrth ystyried y cynigion, ceisiodd y Pwyllgor Gwaith eglurhad ynglŷn â’r canlynol –

 

           Ar ba lefel y byddai Rhenti Canolradd yn cael eu pennu yng nghyd-destun y tabl ym mharagraff 6.3 yr adroddiad sy’n darparu gwybodaeth ar gyfer Ynys Môn mewn perthynas â rhenti cymdeithasol, rhent sector preifat cyfartalog a’r lwfans tai lleol ar gyfer eiddo 1, 2, 3 a 4 ystafell wely.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai y byddai’r Awdurdod yn codi rhent canolradd o £480 ar eiddo sydd â rhent misol o £600 ar y farchnad agored, er enghraifft, ar yr amod nad yw’r gost yn uwch na’r Lwfans Tai Lleol ac ar y sail pe byddai amgylchiadau’r teulu sy’n rhentu’r eiddo yn newid, y byddai’n gymwys i dderbyn Budd-dal Tai a fyddai’n cwrdd â’r rhent uwch.

 

           Mewn perthynas â’r cyfeiriad at renti cyfartalog y Sector Rhent Preifat yn y tabl, y broses ar gyfer gosod rhenti marchnad agored.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod cwmnïau eiddo megis Zoopla yn ymchwilio i’r farchnad ac yn defnyddio data ynglŷn â’r farchnad i gyfrifo rhenti preifat cyfartalog ar gyfer gwahanol ardaloedd.

 

           Yr amserlen ar gyfer dod ag eiddo sy’n parhau i fod yn is na’r rhent targed i’r lefel darged ac a yw’r Awdurdod yn gweithio’n systematig i wneud hynny.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai y byddai rhenti yn cyfateb i renti darparwyr tai cymdeithasol eraill yn 2023/24 pe byddai’r system wedi yn aros yr un fath ag yr oedd y llynedd; gobeithir y bydd modd cyflawni’r amserlen hon a dyna yw’r nod o hyd.

 

           A yw eiddo Rhent Canolradd yn cynnwys elfen o rannu ecwiti neu a ydynt yn eiddo rhent yn unig ac yn parhau felly am byth.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai, er bod eiddo rhent canolradd yn cael eu gosod ar rent, mae cyfleoedd yn codi i werthu cyfrannau ecwiti yn yr eiddo hynny ond byddai amod cyfreithiol yn cael ei osod yn pennu bod yr Awdurdod yn cael yr hawl cyntaf i brynu’r cyfrannau ecwiti os ydynt yn cael eu gwerthu. Os yw’r Awdurdod yn prynu’r eiddo yn ôl gellir eu gosod fel tai rhent canolradd unwaith eto.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –

 

           Y cynnydd rhent yn unol â rhent Targed Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gasglu dros 51 wythnos.

           Cynnydd o 0.45% + £2.00 yr wythnos yn yr holl renti sydd islaw’r bandiau rhent targed cyfredol er mwyn parhau i weithio tuag at gwrdd â’r rhent targed.

           Cynnydd o 0.45% yn yr holl renti sydd ar darged neu’n uwch.

           Cynnydd o 13c yr wythnos ar gyfer rhent pob garej.

           Bod taliadau gwasanaeth fel y nodwyd yn adran 3.3 yr adroddiad i’w codi ar bob tenant sy’n derbyn y gwasanaethau perthnasol.

           Pennu Ffioedd Rhent Canolradd ar 80% o gostau rhent y farchnad agored neu hyd at y Lwfans Tai Lleol.

          

Dogfennau ategol: