Eitem Rhaglen

Aelod Lleyg Newydd ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi'r ystyriaethau o ran newid Aelod Lleyg y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu i'w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd y mater wedi codi yn dilyn ymddiswyddiad Mr Jonathon Mendoza fel Aelod Lleyg o'r Pwyllgor gyda'i gyfarfod diwethaf ar 1 Rhagfyr 2020.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Lleol sicrhau bod o leiaf un aelod o'i Bwyllgor Archwilio yn aelod lleyg. Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymestyn y gofyniad hwn; mae darpariaethau ei Gyfansoddiad yn caniatáu i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gynnwys dau aelod lleyg i wasanaethu am gyfnod penodol i gyd-fynd â hyd y Cyngor h.y. 5 mlynedd, tan fis Mai 2022 ar hyn o bryd. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a basiwyd ar 20 Ionawr 2021 yn cyflwyno newidiadau i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar ffurf enw newydd, swyddogaethau a chyfrifoldebau ychwanegol ac mae'r Ddeddf hefyd yn diwygio aelodaeth y Pwyllgor gan ei gwneud yn ofynnol i draean o'i aelodau fod yn aelodau lleyg. Os bydd y Pwyllgor yn parhau gydag 8 aelod etholedig, byddai'n ofynnol felly cael 4 aelod lleyg. Bydd hefyd yn ofynnol i'r Cadeirydd fod yn aelod lleyg. Er nad yw’r dyddiad y bydd y darpariaethau newydd yn dod i rym wedi’u cadarnhau, yn dilyn ymholiadau a wnaed gyda Llywodraeth Cymru gan CLlLC deellir mai'r bwriad yw y bydd enw newydd y Pwyllgor a’r swyddogaethau/cyfrifoldebau newydd yn dod i rym o fis Ebrill 2021 ac y bydd y newidiadau i aelodaeth yn dod i rym o fis Mai 2022. Felly, bydd yn rhaid i'r Cyngor gynnal ymarfer recriwtio yn 2022 i recriwtio'r aelodau lleyg i baratoi ar gyfer y newid hwn.

 

Yng ngoleuni'r uchod, gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried a oedd am recriwtio aelod lleyg newydd am weddill y tymor h.y. tan fis Mai 2022 neu fod Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei newid i leihau nifer yr aelodau lleyg sydd eu hangen i un hyd nes y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn dod i rym.

 

Wrth ystyried y mater, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch yr amserlen recriwtio a'r tebygolrwydd o lwyddiant o ystyried y cyfyngiadau presennol sy'n gysylltiedig â’r pandemig a’r ffaith bod y tymor yn fyrrach - tan fis Mai 2022 - a allai olygu nad oes cymhelliant i wneud cais i ymgeiswyr posibl.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddfa Adran 151 fod y broses recriwtio yn cymryd amser o'r hysbyseb gychwynnol hyd at y penodiad, sy'n golygu ei bod yn annhebygol y penodir aelod newydd cyn mis Ebrill/Mai. Yn ogystal â hynny dylid ystyried  costau hysbysebu'r swydd a’r amser sydd ei angen i unrhyw un a benodir setlo a dod yn gyfarwydd â'r ffordd y mae'r Pwyllgor yn gweithredu o ystyried y nifer cyfyngedig o gyfarfodydd a gynhelir tra bydd yn ei swydd cyn i'r broses recriwtio ddechrau eto. Am resymau ymarferol felly, credai mai'r ail opsiwn, sef parhau ag un aelod a diwygio'r Cyfansoddiad yn unol â hynny hyd nes y daw'r ddeddfwriaeth newydd i rym yw'r opsiwn gorau o dan yr amgylchiadau.

 

Er bod y rhan fwyaf o aelodau'r Pwyllgor yn cytuno mai'r ail opsiwn h.y. diwygio'r Cyfansoddiad i ganiatáu i'r Pwyllgor barhau ag un aelod lleyg nes i'r newidiadau i’w gyfansoddiad ddod i rym - ym mis Mai 2022 - pan allai'r Pwyllgor wedyn ddechrau o'r newydd gydag aelodaeth newydd, yw'r ffordd fwy rhesymol ymlaen. Credai lleiafrif o'r aelodau, er gwaethaf y materion ymarferol wrth geisio recriwtio ar hyn o bryd, y byddai’r arbenigedd, yr wybodaeth a’r persbectif annibynnol ychwanegol y gallai ail aelod lleyg eu cynnig i'r Pwyllgor o fantais iddo ac yn unol â hynny roeddent o blaid recriwtio am y rheswm hwnnw.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, cynigiwyd diwygio'r Cyfansoddiad i leihau nifer yr aelodau lleyg sy'n ofynnol ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu o ddau i un.

 

Penderfynwyd gofyn i'r Cyngor ddiwygio Cyfansoddiad y Cyngor i leihau nifer yr aelodau lleyg sy'n ofynnol ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu o ddau aelod lleyg i un, hyd nes y daw darpariaethau'r ddeddfwriaeth newydd i rym.

Dogfennau ategol: