Eitem Rhaglen

Darpariaeth Sicrwydd Archwilio Mewnol 2020/21

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg i'r Pwyllgor ei ystyried a'i gymeradwyo mewn perthynas â'r trefniadau presennol ar gyfer sicrhau y bydd gan y Pennaeth Archwilio a Risg ddigon o sicrwydd i gefnogi Barn Flynyddol yr Archwiliad Mewnol ar gyfer 2020/21 er mwyn sicrhau na fu unrhyw gyfyngu ar sgôp.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod effaith delio â Covid-19 ar yr holl wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn sylweddol ac i archwilwyr mewnol mae wedi codi'r cwestiwn a fyddant yn gallu ymgymryd â digon o waith archwilio mewnol i gael sicrwydd yn ystod 2020/2021 - mae hon yn ystyriaeth allweddol i fodloni gofyniad Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) lle mae'n ofynnol i'r Pennaeth Archwilio a Risg gyhoeddi barn flynyddol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheoli'r Cyngor.

 

Wrth gydnabod yr heriau sylweddol y mae cyrff llywodraeth leol yn gweithredu oddi tanynt ar hyn o bryd wrth wneud penderfyniadau anodd ynglŷn â sut i wneud y defnydd gorau o staff ac adnoddau ariannol i gyflawni anghenion hanfodol, er nad yw’r disgwyliadau proffesiynol a disgwyliadau rheoleiddwyr ar gyrff llywodraeth leol i sicrhau bod eu trefniadau archwilio mewnol yn cydymffurfio â PSIAS wedi newid, mae CIPFA wedi paratoi canllawiau ar gyfer archwilwyr mewnol sy'n gweithio mewn llywodraeth leol yn y DU neu ar ei rhan. Mae'r canllawiau'n manylu ar chwech o ofynion allweddol ar gyfer cyrff llywodraeth leol y dylai penaethiaid archwilio mewnol neu'r prif weithredwr archwilio, timau arwain a phwyllgorau archwilio eu dilyn; nodir y rhain ym mharagraff 5 o'r adroddiad. Felly, mae'r Pennaeth Archwilio a Risg wedi diwygio a chytuno ar flaenoriaethau'r Tîm Archwilio Mewnol i ymdrin â'r risgiau newydd a newidiadau’n sgil Covid-19 gyda'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) i sicrhau na fydd yn cyfyngu ar sgôp ac y bydd gan y gwasanaeth Archwilio Mewnol sicrwydd digonol i gefnogi'r farn flynyddol. Y darnau allweddol o waith a fydd yn cyfrannu at y sicrwydd yw archwiliadau cofrestr Risg Gorfforaethol; Adolygiad o Ymateb Brys Covid-19 (Hunanasesiad) a Gwaith Dilynol wedi'i gwblhau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, 2020 a Sicrwydd Rheoli Argyfwng (Sicrwydd llinell gyntaf) ar hyn o bryd yn ystod y cam gwaith maes. Wrth i'r risgiau barhau i newid ac wrth i’r cofrestrau risg gael eu hadolygu a'u diweddaru gan yr UDA, bydd y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn adolygu ei flaenoriaethau yn unol â hynny.

 

Wrth gyflawni'r strategaeth archwilio sy'n seiliedig ar risg, mae'r Pennaeth Archwilio a Risg a gefnogir gan yr UDA wedi gwneud pob ymdrech i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau archwilio mewnol sydd ar gael yn ystod y pandemig gan gynnwys drwy weithredu'r mesurau y manylir arnynt ym mharagraff 10 o'r adroddiad.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurder ynghylch sut y caiff cyfyngu ar sgôp ei ddiffinio a'i gymhwyso. Eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg y dylid ystyried cyfyngu ar sgôp os bernir nad oes digon o waith wedi'i wneud i roi sicrwydd yn y tri maes allweddol sy'n ymwneud â phrosesau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol y Cyngor. Er bod y gwaith sydd ei angen i ddarparu barn sicrwydd lawn yn cael ei adael i farn broffesiynol ym mhob sefydliad, mae canllawiau CIPFA yn datgan yn glir na ddylid ceisio rhoi sicrwydd mewn amgylchiadau lle mae adnoddau wedi bod mor gyfyngedig fel na ellir cefnogi sicrwydd o'r fath.  Mae canllawiau CIPFA hefyd yn awgrymu'r geiriad posibl i'w ddefnyddio yn dibynnu ar y math o gyfyngiad a'r maes lle mae'r cyfyngiad yn codi. Fodd bynnag, mae'r Pennaeth Archwilio o'r farn, ar ôl ymgymryd â gwaith hanfodol sylweddol yn ystod y flwyddyn yn ogystal â blaenoriaethu'r meysydd lle mae'r risg fwyaf, y gellir darparu barn sicrwydd lawn ac na fydd unrhyw gyfyngu ar sgôp.

 

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo’r trefniadau ar gyfer sicrhau y bydd gan y Pennaeth Archwilio a Risg sicrwydd digonol i gefnogi’r Farn Archwilio Mewnol ar gyfer 2020/21, a

           Nodi na fydd unrhyw gyfyngiad ar sgôp.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: