Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 – FPL/2020/150 – Lôn Newydd, Llangefni

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiHp3UAF/fpl2020150?language=cy

 

7.2 – FPL/2019/217 – Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000JsykpUAB/fpl2019217?language=cy

 

 

Cofnodion:

7.1  FPL/2020/150 – Cais Llawn i godi 9 annedd ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar dir yn Stryd y Bont, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle.  Cynhaliwyd ymwelwyd rhithwir â'r safle ar 20 Ionawr 2021. 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod hwn yn gais ar gyfer 9 annedd ynghyd â datblygiad cysylltiedig.  Dywedodd na fu unrhyw wrthwynebiadau i'r cais gan eiddo cyfagos fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus a bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig sy'n cynnwys cynllun tirweddu ynghyd â chreu 4 lle parcio i Ganolfan Ebenezer.  Yr argymhelliad yw caniatáu’r cais yn amodol ar gytundeb cyfreithiol adran 106 sy'n ymwneud â thai fforddiadwy. 

 

Dywedodd y Cadeirydd ac Aelod Lleol ei bod wedi galw'r cais i mewn oherwydd pryderon lleol ond mae'n fodlon bod ymgynghori digonol wedi’i gynnal â'r preswylwyr lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatau'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd ynddo.

 

7.2  FPL/2019/217 – Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd ar gyfer cerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir gerllaw Ystâd Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle.  Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â'r safle ar 20 Ionawr 2021.

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts Aelod Lleol ei bod yn gefnogol i dai fforddiadwy mewn egwyddor gan fod pobl leol yn aml yn cael eu prisio allan o'u cymunedau eu hunain ond bod safle’r cais hwn wedi'i leoli ar dir corsiog gwlyb sy'n hanfodol i gynefin bywyd gwyllt.  Dywedodd  fod y datblygiad hwn hefyd y tu allan i ffin Benllech ac y bydd y cynnig hwn yn creu traffig ychwanegol a gorddatblygu o amgylch Benllech, yn ychwanegol at y datblygiad a ganiatawyd yn flaenorol yn yr ardal.  Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod yr ysgol leol yn agos at ei chapasiti ar hyn o bryd gyda dim ond 11 lle sbâr ar gael. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams Aelod Lleol mai ei wrthwynebiad ef i'r cais yw bod y safle wedi'i leoli o fewn ardal AHNE ac mewn parth bywyd gwyllt lleol a chyfeiriodd at bolisi cynllunio AMG 6 – diogelu safleoedd o arwyddocâd rhanbarthol neu leol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sy'n nodi y gwrthodir safle sy'n achosi niwed uniongyrchol neu anuniongyrchol i'r safle bywyd gwyllt lleol neu safleoedd demograffig rhanbarthol.  Oni ellir profi bod angen amgylcheddol a/neu economaidd cymdeithasol pennaf am y datblygiad ac nad oes unrhyw safleoedd addas eraill a fyddai'n osgoi cael effaith andwyol ar safleoedd o natur leol neu werth cadwraeth neu bwysigrwydd daearegol lleol.  Dywedodd y Cynghorydd Williams ymhellach fod e-bost wedi'i hanfon at aelodau'r Pwyllgor gan Mr Richard Evans, cyn Ecolegydd o Lywodraeth Cymru sy'n byw ger y safle; mae'n nodi'n glir bod y safle hwn yn safle bywyd gwyllt pwysig a bod angen iddo gael ei ddiogelu.  Dywedodd hefyd ei bod yn bwysig nodi bod yr Awdurdod wedi pleidleisio i gydnabod bod argyfwng hinsawdd a bod angen diogelu rhywogaethau a warchodir.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Williams, ei fod yn cefnogi tai fforddiadwy ond nid ar safleoedd anghywir.  Cafodd y safle hwn ei gyflwyno gan yr ymgeisydd fel safle posibl o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a gellir gweld y rhesymau dros wrthod y safle hwn yn SP 146 o'r cynllun.  Cyfeiriodd at gynlluniau datblygu lleol Cyngor Sir Ddinbych a Rhondda Cynon Taf a dywedodd y bydd yn gwneud cais i'r Uned Polisi Cynllunio, pan adolygir y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, iddo gynnwys geiriad tebyg o ran diogelu safleoedd bywyd gwyllt.  Dywedodd  ymhellach ei fod yn gwrthwynebu'r cais oherwydd gorddatblygu.  Dywedodd  fod gan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ddarpariaeth ddangosol ar gyfer datblygu anheddau ym mhob cymuned.  Mae gan ardal Benllech ddarpariaeth ddangosol o 90 o anheddau ond rhoddwyd caniatâd eisoes i 147 yn Benllech sydd 63% dros y ddarpariaeth ddangosol.  Tynnodd sylw ymhellach at y problemau traffig sydd eisoes yn Benllech dros fisoedd yr haf ac mae'r ysgol leol yn agos at ei chapasiti fel y mae’r feddygfa.  Roedd y Cynghorydd Ieuan Williams o'r farn y dylid gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod yn croesawu sylwadau'r aelodau lleol sef eu bod yn cefnogi tai fforddiadwy. Cwestiynodd y rhesymau y cyfeiriodd y Cynghorydd Margaret M Roberts atynt yn y cyfarfod diwethaf, fod datblygiadau o'r fath yn gallu creu getoau mewn mannau lle nad oes fawr ddim cyfleusterau ar eu cyfer.  Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Roberts, pan gaiff datblygiad o'r fath ei greu ar gyrion pentref heb unrhyw fath o drafnidiaeth i deuluoedd ifanc, y gall greu rhaniadau o fewn cymunedau. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer adeiladu 17 o anheddau fforddiadwy ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ac fel y nodwyd, mae'r tir o fewn yr AHNE a safle bywyd gwyllt.  Aseswyd y safle yn unol â pholisïau tai a chanfuwyd ei fod yn dderbyniol er y bu pryderon ynghylch nifer yr anheddau ar y safle sydd bellach wedi'u gostwng o 29 i 17 o anheddau i adlewyrchu'r angen lleol sy'n bodoli yn yr ardal.  Mae'r Uned Gynllunio ar y Cyd yn cytuno ei fod yn cydymffurfio â pholisïau tai ac nid oes unrhyw wrthwynebiadau gan yr ymgyngoreion statudol o ran y datblygiad hwn.  Dywedodd  fod y safle bywyd gwyllt tua 57.959 metr sgwâr a bod y rhan o safle’r cais sydd wedi'i lleoli yn y safle bywyd gwyllt yn 7.847 metr sgwâr, sef tua 13.5% o'r safle.  Dywedodd fod yr e-bost gan Mr Roberts Evans y cyfeiriwyd ato gan y Cynghorydd I Williams o fewn ffeil gynllunio'r cais hwn a dywedodd nad oes rheswm dros anghytuno â'r sylwadau yn yr ohebiaeth.  Darllenodd ran o'r e-bost sy'n nodi bod y 'tir wedi'i esgeuluso oherwydd diffyg rheolaeth ac mae Cors Efail Newydd yn dod o dan y categori hwn. Ychydig iawn o reoli a fu ar y safle ers nifer o flynyddoedd fel y cefnogir gan yr arolwg ecolegol'.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach, er bod y tir yn parhau i ddirywio, nad oes gan yr awdurdod cynllunio yr awdurdod i fynnu ei fod yn cael ei reoli'n briodol.  Mae'r Swyddog Ecolegol wedi nodi y byddai'r datblygiad arfaethedig wedi'i leoli o fewn rhan waethaf y safle a bwriedir llunio cytundeb cyfreithiol adran 106 ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd a roddir i'r cais i fynnu bod y safle'n cael ei reoli er mwyn iddo gael ei adfer fel safle bywyd gwyllt ynghyd â mesurau gwella ecolegol. Dylai gyfrannu tuag at le agored ynghyd â darparu tai fforddiadwy a chyfleusterau ardal chwarae.  Nid yw'n ofynnol cael cyfraniad addysgol o ganlyniad i'r cais hwn.

 

Cyfeiriodd at sylwadau'r aelod lleol fod y safle o fewn yr AHNE ond mae siediau a gerddi'r anheddau presennol ger y safle ar ffin yr AHNE ac fel rhan o'r cynnig hwn mae bwriad i dirlunio'r ffin o amgylch y datblygiad hwn er mwyn creu ymyl ddiffiniol glir o amgylch y datblygiad newydd.  Mae'r anheddau presennol ger y safle yn wyn eu lliw yn bennaf a bwriedir i'r anheddau arfaethedig fod yn lliw tywyllach i greu ffin fwy cydnaws i'r anheddiad o'i gymharu â'r math presennol o ddatblygiad.   Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach, fel rhan o'r polisïau cynllunio, nad oes angen ystyried a oes safleoedd priodol eraill fel rhan o'r polisïau tai gan fod hwn yn safle eithriedig.  Dywedodd hefyd, yn dilyn sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru, y bydd angen rhoi amod ynghlwm ynddo o ran cynllun goleuo. 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r argymhelliad yw caniatáu’r cais gan nad oes unrhyw safleoedd eraill ar gael ar gyfer datblygiad o'r fath yn yr ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts nad oes sôn am gynllun bywyd gwyllt yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â'r amodau sydd ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd h i'r cais.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y deellir bod trafodaeth wedi bod rhwng y datblygwr a'r perchennog tir a chafwyd cytundeb rhyngddynt ynglŷn â'r mesurau hyn.  Cyfeiriodd at yr adroddiad ynglŷn â’r mesurau i gynnwys rheoli helyg, pori cadwraeth a monitro effeithiol drwy arolygon ac adroddiadau llystyfiant a bydd yn rhan o gytundeb cyfreithiol Adran 106 a bydd angen llunio cynllun rheoli fel rhan o'r cytundeb cyfreithiol hwnnw. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd K P Hughes at Gynllun Datblygu Lleol yr Awdurdod a nod pobl Ynys Môn i allu ffynnu.  Dywedodd ei fod yn synnu bod dau aelod lleol yn erbyn tai fforddiadwy o ansawdd da i ddiwallu’r angen lleol yn yr ardal.  Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gan y Cyngor hwn ac ni fydd cyfleoedd i adolygu'r cynllun yn bosibl am nifer o flynyddoedd ac felly mae'n rhaid i'r Awdurdod gydymffurfio â'r polisïau cynllunio yn y Cynllun.  Roedd o'r farn na fyddai’r cais yn cael effaith andwyol ar y gymuned leol a’i fod yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio lleol ar gyfer tai fforddiadwy.   Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ei fod ef, fel aelod lleol, wedi bod mewn cyfarfodydd lleol yn Benllech ynglŷn â'r cais hwn a bod y ddau aelod lleol arall sydd wedi siarad yn y cyfarfod hwn yn mynegi barn mwyafrif y gymuned leol.  Dywedodd hefyd fod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd o'r farn bod gwell safleoedd ar gael a bod angen diffinio datblygiadau bach a bod Benllech mewn perygl o orddatblygu ac effeithio ar dwristiaeth yn yr ardal.  Dywedodd  fod yr ysgol gynradd leol yn llawn i'w chapasiti.   Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid gwrthod y cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhellion y Swyddog oherwydd ystyrir bod y cais yn groes i bolisïau cynllunio AMG6 a TAI 16.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais.

 

Dogfennau ategol: