Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – OP/2020/6 Tir ger Stâd Roebuck, Llanfachraeth

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffC6UAJ/op20206?language=cy

 

12.2 – FPL/2020/264 –Yr Hen Safle Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBhcKUAT/fpl2020264?language=cy

 

12.3 – FPL/2020/195 – Caffi Sea Shanty, Lon St Ffraid, Bae Trearddur

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Mj7sXUAR/fpl2020195?language=cy

 

12.4 – HHP/2020/302 – 38 Lon Conwy, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBi1uUAD/hhp2020302?language=cy

 

12.5 – MAO/2020/31 – Bryn Meurig, Llangefni

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBevhUAD/mao202031?language=cy

 

12.6 – FPL/2020/258 – Parc Garreglwyd, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBCOPUA5/fpl2020258?language=cy

 

12.7 – VAR/2020/66 – Yr Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAksnUAD/var202066?language=cy

 

 

Cofnodion:

12.1  OP/2020/6 – Cais amlinellol ar gyfer adeiladu 31 o anheddau preswyl newydd yn cynnwys manylion llawn am ffordd ystâd newydd ar dir gerllaw Ystâd Roebuck, Llanfachraeth

 

Tynnwyd y cais yn ôl.

 

12.2  FPL/2020/264 – Cais llawn ar gyfer codi 8 uned fusnes (Dosbarth B1, B2 a B8),  ardloedd tirweddu meddal a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir yn hen Safle Heliport, Ystâd Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi

 

Tynnwyd y cais yn ôl.

 

12.3  FPL/2020/195 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yng Nghaffi Sea Shanty, Lôn St Ffraid, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cynnwys tir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r ymgeisydd ynglŷn â materion lliniaru ac ecolegol ynghyd â cholli ardaloedd twyni tywod a’r effaith bosibl ar fadfallod. Dywedodd fod Ymgynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol y Cyngor wedi bod mewn trafodaethau gyda'r ymgeisydd ynglŷn â symud rhai o'r twyni tywod gan fod rhwymedigaeth statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth; fodd bynnag, nid yw'r ymgeisydd yn berchen ar dir digonol i fodloni'r meini prawf.  Mae'r ymgeisydd wedi cynnig cynigion lliniaru o dan y decin ar y safle ond nid yw'r Cynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol o'r farn bod y mesurau hynny'n briodol nac yn effeithiol o ran y cais hwn.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, oherwydd y gwrthwynebiad fel y nodwyd gan y Cynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol, mai'r argymhelliad bellach yw gwrthod y cais a bydd angen gohirio'r cais er mwyn caniatáu i Swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith ohirio'r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.4  HHP/2020/302 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau yn 38 Lôn Conwy, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer addasiadau ac estyniadau i'r annedd gan gynnwys codi ystafell haul newydd ac ardal batio newydd yng nghefn yr eiddo.  Cafodd y cais ei alw i mewn i'r Pwyllgor gan aelod lleol oherwydd pryderon ynghylch goredrych a cholli preifatrwydd i erddi cyfagos.  Dywedodd fod elfen sylweddol o oredrych i erddi cyfagos eisoes gan fod y teras presennol yn uwch a bwriedir gosod amod i ddarparu sgrinio ar ddwy ochr yr ardd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  MAO/2020/31 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2019/7 (Codi ysgol gynradd) er mwyn newid y cladin a thynnu 2 ystafell ddosbarth ar dir gyferbyn i Fryn Meurig, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw'r ymgeisydd.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer mân newidiadau i'r cais a ganiatawyd o dan ganiatâd cynllunio FPL/2019/7 gan y bydd capasiti'r ysgol newydd yn llai na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol a'r cais diwygiedig yw symud dwy ystafell ddosbarth o ran orllewinol yr ysgol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd R O Jones.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6  FPL/2020/258 Cais llawn ar gyfer newid y cwrt tennis presennol i fod yn arwyneb 3G synthetig, newid y ffens bresennol am ffens 4.5 metr o uchder ynghyd â newid y goleuadau presennol am oleuadau LED

newydd ym Mharc Garreglwyd, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan y bydd Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol Gynradd Cybi yn defnyddio'r cyfleusterau yn ystod oriau ysgol. 

 

Ar ôl ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Glyn Haynes a'r Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cyfarfod tra bod aelodau’n trafod a phleidleisio ar y mater.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i gyflwyno gan Gyngor Tref Caergybi i droi'r cwrt tenis presennol yn arwyneb synthetig 3G a fydd yn darparu gweithgareddau ehangach ar y safle.  Bydd ffens ddur rhwyll agored 4.5m o uchder yn cael ei gosod yn lle'r ffens bresennol, sef yr uchder a argymhellir ar gyfer cae 3G.  Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys newid yr 8 o lifoleuadau am 4 o lifoleuadau LED a fydd yn cael eu gosod ar y colofnau sydd yno ar hyn o bryd.  Dywedodd fod 3 llythyr yn gwrthwynebu'r cais wedi dod i law ynghyd â llythyr gwrthwynebu arall ynglŷn â phryderon ynglŷn â sŵn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, traffig a phroblemau parcio ynghyd â cholli'r cwrt tenis.  Bydd y cais yn darparu cwrt tenis fel rhan o'r ddarpariaeth pêl-fas ar y safle.  Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at bryderon ynghylch tarfu ar drigolion lleol. Bydd y safle'n cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion ysgol a bydd yn cael ei fonitro gyda system teledu cylch cyfyng sydd ar y safle ar hyn o bryd. Bydd angen system logi ar gyfer defnyddio’r safle.  Bydd y 4 o lifoleuadau LED arfaethedig yn gwella'r sefyllfa bresennol ac yn fodd i gyfyngu’r golau i’r safle ei hun. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7  VAR/2020/66 – Cais o dan Adran 73 i ddileu amod (10) (paneli gwydr aneglur) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/134  (codi 8 fflat) ar safle’r hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau aelod lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai'r cais yw dileu amod (10) y caniatâd cynllunio FPL/2019/134 sy'n cyfeirio at baneli gwydr aneglur ar falconïau llawr cyntaf ac ail lawr drychiad gorllewinol y cais sy'n rhan o fflatiau 6 ac 8.  Mae gwaith adeiladu helaeth wedi’i wneud ar y fflatiau ond nid oes neb yn byw ynddynt eto. Mae’r balconïau a llawer iawn o’r ffenestri wedi’u lleoli yn bennaf ar ddrychiad deheuol y bloc fflatiau.  Er mai dim ond ar y drychiad deheuol y mae'r balconi yn fflat 6 wedi'i leoli, mae'r balconi yn fflatiau 8 wedi'i leoli ar y drychiadau deheuol a gorllewinol.  Cafodd y Pwyllgor luniau o'r olygfa o'r fflatiau i ardd eiddo Bryn Afon; mae gan yr eiddo ardd deras ynghyd â grisiau ac mae'r garej yn rhwystro unrhyw olygfa i gefn yr eiddo ym Mryn Afon.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu yr ystyrir nad oes unrhyw oredrych annerbyniol i'r eiddo cyfagos, felly'r argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ac aelod lleol ei bod yn amlwg o'r ffotograffau a ddangoswyd i'r Pwyllgor fod goredrych i'r eiddo cyfagos a'r amod a osodwyd ar y cais a ganiatawyd oedd sicrhau gwydrau aneglur. Nid oedd o'r farn y byddai hynny’n peri unrhyw anfantais i ddeiliaid fflatiau 6 ac 8. Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gwrthod y cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd goredrych annerbyniol i'r eiddo cyfagos.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais.

 

 

 

Dogfennau ategol: