Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2021/2022 (Cyllideb Gyfalaf)

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses gosod Cyllideb Gyfalaf 2021/22 ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau ar gyfer Sgriwtini wrth werthuso cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb gyfalaf gan gymryd i ystyriaeth y prif negeseuon o’r ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y dogfennau a ganlyn ynghlwm i’r adroddiad

 

4.1   Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar gynigion cychwynnol cyllideb gyfalaf 2021/22 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Ionawr 2021 ac a oedd yn cynnwys datganiad ar y sefyllfa mewn perthynas â sefyllfa cyllideb gyfalaf gychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2021/22; lefel y gwariant cyfalaf; effaith benthyca ar y gyllideb refeniw oherwydd costau cyllido cyfalaf; costau refeniw parhaus (e.e. cynnaliaeth); pwysau cyllidebol a risgiau, a’r effaith ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol a Chynllun y Cyngor.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, bod rhaglen gyfalaf gwerth £36.155m yn cael ei chynnig ar gyfer 2021/22. Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, gan fod diffyg o thua £900k yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22 y bwriad yw defnyddio’r tanwariant disgwyliedig yn y cyfrif refeniw yn 2020/21 i bontio’r bwlch er mwyn cyflawni’r rhaglen a gynlluniwyd. Mae mwyafrif y gwariant cyfalaf yn 2021/22 yn gysylltiedig â’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) sydd yn cynnal ac yn datblygu stoc dai’r Cyngor.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 drosolwg o broses y gyllideb gyfalaf drwy gyfrwng cyflwyniad gweledol a sylwebaeth lafar ac amlygwyd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn

 

           Nid yw lefel y cyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy’r Grant Cyfalaf Cyffredinol a Benthyca â Chymorth, wedi cynyddu ers nifer o flynyddoedd ac ni ddisgwylir y bydd fawr o newid yn y setliad amodol a’r setliad terfynol.

           Mae strategaeth cyfalaf y Cyngor yn darparu ar gyfer dyrannu cyllid yn flynyddol i fuddsoddi mewn asedau presennol. Felly, mae’r rhaglen yn cynnwys £1m ar gyfer adnewyddu adeiladau ysgol; £60k ar gyfer adeiladau eraill y Cyngor; £1.25m ar gyfer Priffyrdd; £195k ar gyfer adnewyddu cerbydau a £292k ar gyfer uwchraddio asedau TG. Mae dyraniad o £50k ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl wedi’i gynnwys yn y rhaglen hefyd ac mae’r grant yn rhwymedigaeth statudol.

           Mae buddsoddiad cyfalaf o £6.6m wedi’i gynllunio ar gyfer ysgolion newydd (ardal Llangefniyn amodol ar y penderfyniad terfynol) yn unol ag ymrwymiad y Cyngor i’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

           Cyllidir y rhaglen gyfalaf drwy gyfuniad o grantiau allanol, y Grant Cyfalaf Cyffredinol, a benthyca â chymorth a benthyca digymorth (yn unol â’r manylion yn Nhabl 1, paragraff 3.1 yr adroddiad). Cyllidir prosiectau CRT gyda chyllid CRT sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y diben hwnnw.

           Mae prosiectau cyfalaf unwaith ac am byth newydd gwerth £1.105m wedi’u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22 ac maent yn cynnwys Chromebook ar gyfer ysgolion, ail-wynebu dwy ardal chwarae yn Ysgol Uwchradd Caergybi, cynlluniau lliniaru llifogydd ac arian cyfatebol ar gyfer prosiectau datblygu economaidd a llesiant amgylcheddol. Bydd y prosiectau hyn yn cael eu hariannu o’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol ar yr amod bod y tanwariant o £1m yn y gyllideb refeniw ar gyfer 2020/21 yn cael ei wireddu.

 

4.2 Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad a oedd yn darparu dadansoddiad o negeseuon o’r Ymgynghoriad Cyhoeddus ynghylch cynigion cychwynnol Cyllideb 2021/22 yr Awdurdod, fel y’u cymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith, a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod 19 Ionawr i 2 Chwefror 2021. (Atodiad 2)

 

Fel yr adroddwyd yn flaenorol, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod mwyafrif bychan (51.55%) o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad cyhoeddus o blaid y cynigion ar gyfer cyllid cyfalaf dros y 12 mis nesaf.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, a oedd yn adrodd yn dilyn cyfarfod y Panel ar 12 Chwefror 2021, fod y Panel yn cytuno â’r cynigion ar gyfer cyllideb gyfalaf 2021/22 ond bod y Panel wedi nodi pryder ynglŷn â chyflwr adeiladau ysgolion ar yr Ynys a nodwyd bod hyn yn broblem hirdymor y mae angen rhoi sylw penodol iddi.

 

Ar ôl derbyn yr adborth uchod gan y Panel Sgriwtini Cyllid, gofynnodd y Pwyllgor a oedd y dyraniad o £1m a gynlluniwyd ar gyfer adnewyddu ysgolion yn 2021/22 yn ddigonol ac a oes unrhyw arwydd y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu.

 

Roedd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, yn cydnabod bod stâd ysgolion y Cyngor yn cynnwys adeiladau sy’n heneddio, ac yn arbennig felly ei ysgolion uwchradd, a bydd angen buddsoddi ynddynt yn ystod y blynyddoedd nesaf drwy adnewyddu adeiladau presennol neu ddarparu adeiladu newydd yn eu lle. Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif  Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ychwanegol i ddarparu ysgolion newydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod cynnal a chadw’r ystod lawn o asedau’r Cyngor gan gynnwys ysgolion, canolfannau hamdden a phrif adeilad y Cyngor yn mynd i fod yn broblemus yn y dyfodol gan fod y buddsoddiad cyfalaf angenrheidiol yn debygol o fod yn llawer uwch na’r hyn y gall y Cyngor ei fforddio. Er bod strategaeth gyfalaf y Cyngor yn cynnwys moderneiddio ei asedau lle y gall wneud hynny drwy fanteisio ar gyllid allanol os ydyw ar gael, bydd rhaid ystyried rhesymoli asedau’r Cyngor gan y bydd parhau i’w cynnal a’u cadw yn y tymor hir yn her gynyddol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ddoethineb buddsoddi £300k ar ailwynebu dwy ardal chwarae yn Ysgol Uwchradd Caergybi, yng nghyd-destun adeiladau ysgol sy’n dirywio, eglurodd yr Aelod Portffolio Addysg bod y gwariant yn diwallu angen uniongyrchol yn yr ysgol.

 

Yn dilyn ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod, ac yn dilyn ystyried y negeseuon gan y cyhoedd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ac adborth gan y Panel Sgriwtini Cyllid, penderfynwyd argymell y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2021/22 i’r Pwyllgor Gwaith fel y’i cyflwynwyd (ataliodd y Cynghorwyr Aled Morris Jones a Bryan Owen eu pleidlais).

 

Dogfennau ategol: