Eitem Rhaglen

Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2021/22

Cyfwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion dros dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am sêl bendith y Pwyllgor Gwaith i gynyddu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol ar gyfer 2021/22 fel y'i cynigiwyd i'w ystyried.

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, ymneilltuodd y Cynghorydd Richard Dew o'r cyfarfod pan drafodwyd y mater.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad yn nodi, o 6 Ebrill 2016, fod y fframwaith ar gyfer asesu ariannol wedi dod o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'n ofynnol i'r Awdurdod Lleol adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol yn flynyddol i gyd-fynd â newidiadau Llywodraeth Ganolog i fudd-daliadau a lefelau pensiwn ac, wrth bennu lefelau ar gyfer cartrefi gofal yn y sector annibynnol, mae angen i'r Awdurdod ddangos ei fod wedi ystyried costau'r ddarpariaeth yn llawn wrth bennu ei ffioedd gofal safonol. Fel mewn blynyddoedd blaenorol gwneir hyn mewn cydweithrediad â'r Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd drwy ddefnyddio Methodoleg Ffioedd Rhanbarthol.  Mae'r Awdurdod yn bwriadu parhau i ddefnyddio'r model hwn ar gyfer 2021/22 sydd wedi adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth o ran pensiynau, y cyflog byw cenedlaethol a chwyddiant yn ogystal â chostau a briodolir i dalu costau staff asiantaeth. Nodir argymhellion Methodoleg Gogledd Cymru yn Nhabl 1 yr adroddiad ac maent yn seiliedig ar Elw ar Fuddsoddiad ar 10% ar gyfer 2020/21 a 2021/22.

 

Eglurodd y Cadeirydd fod yr Awdurdod, am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad, yn cynnig diwygio ychydig ar yr Elw ar Fuddsoddiad cyn ei fabwysiadu ar gyfer 2 gategori (Preswyl Oedolion a Phreswyl i Bobl Hŷn Bregus eu MeddwlElfen Gofal Cymdeithasol) ac felly mae'n argymell bod y cyfraddau a nodir yn Nhabl 2 yn cael eu cymeradwyo ar gyfer Ynys Môn. Efallai y bydd angen ystyried cyflwyniadau unigol gan ddarparwyr ynglŷn â'r ffioedd a gynigir. Ystyrir eithriadau i'r cyfraddau ffioedd os oes tystiolaeth glir i ddangos nad yw'r ffi a bennir yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 o ran y goblygiadau i gyllideb y Cyngor, wrth bennu cyllideb 2021/22, fod darpariaeth ychwanegol wedi’i gwneud ar gyfer chwyddiant ar sail nifer y cleientiaid yng nghartrefi gofal/nyrsio annibynnol Ynys Môn yn y gorffennol. Er bod y cynnydd mewn lefelau ffioedd yn uwch na'r ddarpariaeth a wnaed ar gyfer chwyddiant, mae nifer y cleientiaid yn y cartrefi wedi gostwng ers hynny ac os bydd y nifer hwnnw'n parhau'n gyson, dylai’r gwariant aros o fewn y gyllideb. Mae nifer y cleientiaid y mae'r ffioedd yn berthnasol iddynt yn tueddu i amrywio bob blwyddyn beth bynnag gan arwain at amrywiadau yn y gyllideb wrth i'r nifer ostwng neu godi, felly ni ystyrir bod y ffaith bod y cynnydd mewn ffioedd yn fwy na'r ddarpariaeth ar gyfer chwyddiant yn destun pryder.

 

Penderfynwyd 

 

           Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru, fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr Awdurdodau yng Ngogledd Cymru, fel sylfaen ar gyfer pennu ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2021/22.

           Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu’r lefelau ffioedd fel y nodwyd yn Nhabl 2 yn yr adroddiad.

           Yn yr un modd ag Awdurdodau eraill, rhoi’r awdurdod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Swyddogaeth Adnoddau ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Oedolion o’r cyllidebau cyfredol.

Dogfennau ategol: