Eitem Rhaglen

Cwrs Colff Llangefni

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) ar yr opsiynau ar gyfer dyfodol Cwrs Golff Llangefni yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol i'r Pwyllgor ei ystyried. Roedd adroddiad canlyniadau'r ymgynghoriad yn manylu ar y cyflwyniadau a dderbyniwyd ac roedd ymateb y Cyngor wedi'i atodi.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd wybodaeth gefndirol i Gwrs Golff Llangefni gan dynnu sylw at y ffaith bod y cyfleuster yn cael ei redeg ar golled o tua £28k y flwyddyn cyn iddo gau, y bu'n rhaid i’r Cyngor roi cymhorthdal ar ei gyfer. Ym mis Mai 2018 cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith mewn egwyddor y bwriad i werthu'r cwrs Golff ac ail-fuddsoddi’r elw yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur. Mae'r broses wedi cymryd amser ac fel gyda phob agwedd arall ar gymdeithas, mae Covid-29 wedi effeithio arni. Mae darpariaeth golff dda ar Ynys Môn ac mae'r llain ymarfer yn Llangefni a ail-agorodd ym mis Ionawr 2019 o dan Golf Môn yn boblogaidd a llwyddiannus iawn a bydd yn parhau ar agor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo at drosglwyddo rheolaeth a chyfrifoldeb am y cwrs golff ym mis Chwefror 2015 i Bartneriaeth Llangefni, menter gymdeithasol yn y dref. Penderfynodd y Bartneriaeth, ar ôl adolygu perfformiad ariannol y cyfleuster a chynnal astudiaeth ddichonoldeb annibynnol, nad oedd y cyfleuster yn hyfyw o safbwynt ariannol yn y tymor hir, felly trosglwyddwyd y cwrs yn ôl i'r Cyngor ac fe’i rhoddwyd o’r neilltu.

 

Cyfeiriodd Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) at y cyd-destun gan gadarnhau bod y Gwasanaeth, yn dilyn penderfyniad blaenorol y Pwyllgor Gwaith yn 2018 i gymeradwyo mewn egwyddor y bwriad i werthu'r cwrs Golff, wedi bod yn ystyried ei ddyfodol a ph’un ai a yw gwerthu'n briodol ai peidio. Mae nifer y chwaraewyr wedi gostwng ac mae'r costau rhedeg wedi mynd yn anghynaliadwy. Mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried effaith gwerthu caeau chwarae arfaethedig ar iechyd a lles cymuned leol, i ymgynghori â'r gymuned ac ymgyngoreion perthnasol ac i ystyried unrhyw sylwadau a wneir. Yn unol â hynny, cynhaliodd y Cyngor broses ymgynghori ffurfiol rhwng 12 Hydref, 2020 a 30 Tachwedd, 2020 a chynhaliwyd hyn yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015.

 

Er mwyn paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod cyfreithwyr allanol wedi’u comisiynu i ddarparu canllawiau a chymorth i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Rheoliadau Caeau Chwarae 2015. Rhwng mis Hydref 2019 a mis Mawrth 2020, cwblhaodd Swyddogion yr holl hysbysiadau ffurfiol ar y safle a'r wasg, adroddiad ymgynghori cynhwysfawr a manwl, pob adroddiad ategol ac asesiad effaith yn ogystal â sicrhau bod yr holl lwyfannau TGCh mewnol yn cydymffurfio'n llawn.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a Dylan Rees fel Aelodau Lleol gan gydnabod ei bod yn sefyllfa anodd iddynt yn lleol gan nad oedd neb am weld colli ased, ond roeddent yn derbyn bod gostyngiad yn nifer y chwaraewyr yng Nghwrs Golff Llangefni yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi golygu nad oedd y cyfleuster yn hyfyw. Nodwyd hefyd nad oedd Partneriaeth Llangefni a gymerodd y cwrs Golff drosodd yn 2015 yn gallu sicrhau bod y cyfleuster yn hyfyw o safbwynt ariannol ac ildiodd y brydles.

Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts am sicrwydd ynghylch cynnal yr ymgynghoriad ac os bydd y cwrs Golff yn cael ei werthu, bod yr arian yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden lleol gydag unrhyw ddarpar werthiant o'r cyfleuster ar sail gwerth gorau hyd yn oed os yw hynny'n golygu ei rannu'n wahanol lotiau. Wrth gytuno bod y Cwrs Golff yn anghynaliadwy yn y tymor hir oherwydd nad oedd digon o alw, dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees yr ystyrir bod digon o ddarpariaeth golff ar Ynys Môn ac y bydd y llain ymarfer yn Llangefni yn parhau i weithredu beth bynnag; nid oes gan Chwaraeon Cymru, fel yr unig ymgynghorai statudol i ymateb i'r ymgynghoriad, unrhyw wrthwynebiad i werthu'r cyfleuster, ac mae’r Awdurdod, wrth gynnig clustnodi'r enillion o’r gwerthiant i wella Canolfan Hamdden Plas Arthur, er budd yr ardal, yn rhoi sylw i iechyd a lles y gymuned.

 

Ail-bwysleisiodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod y broses ymgynghori wedi bod yn agored i bawb ac i sicrhau ei bod yn cael ei chynnal yn ddiogel ac yn llwyddiannus, diweddarwyd yr holl hysbysiadau ffurfiol i gynnwys y mesurau ychwanegol a nodir ym mhwynt 2.8 yr adroddiad. Mae'r Cyngor wedi mynd y tu hwnt i ofynion Rheoliad 5 o ran yr amserlenni gofynnol i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i werthu’r cyfleuster, gyda hysbysiad lliw tudalen lawn wedi'i osod mewn papurau newydd lleol a rhanbarthol am 7 wythnos yn olynol o 12 Hydref i 26 Tachwedd, 2020. Gwnaed trosolwg gan gyfreithwyr allanol sy'n cadarnhau bod yr ymgynghoriad yn cydymffurfio â'r rheoliadau. Pe bai cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i werthu'r cyfleuster yna byddai'r enillion yn cael eu neilltuo i'w buddsoddi yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur a rhoddir ystyriaeth i sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o'r gwerthiant.

 

Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers gyda chydsyniad y Cadeirydd, fel aelod a oedd wedi cymryd diddordeb ers tro yng Nghwrs Golff Llangefni; mynegodd ei bryderon ynglŷn â'r ffordd y cynigiwyd gwerthu'r Cwrs Golff gan ofni y bydd y tir yn cael ei farchnata ar adeg pan fo'n edrych ar ei waethaf. Pwysleisiodd fod yn rhaid i'r Cyngor gael y pris mwyaf posibl o'r gwerthiant ar ôl i’r Cwrs Golff wneud colledion am nifer o flynyddoedd, a phwysleisiodd mai'r ffordd orau o gyflawni hyn fyddai drwy ohirio’r gwerthiant ac yn hytrach edrych ar y posibiliadau i gynnwys y tir o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd i gael y pris gorau posibl.

 

Wrth ystyried dyfodol cwrs Golff Llangefni cytunwyd mai gwerthu'r cyfleuster oedd y ffordd orau ymlaen ac o ystyried y sefyllfa ariannol a'r angen i gael gwerth am arian, y dylid gwneud hynny am y pris gorau posibl. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar p'un ai a ddylai'r Cyngor fwrw ymlaen â'r gwerthiant a dechrau marchnata'r safle sy'n cynnwys aelwyd Ffridd a 42 erw ar y farchnad agored fel yr argymhellwyd gan Opsiwn 1 yn adroddiad y Swyddog, neu a ddylid gohirio'r gwerthiant er mwyn rhoi cyfle i ystyried cynnwys y tir o fewn y CDLl ar y Cyd yn yr adolygiad nesaf a fyddai'n gwella ei werth fel tir datblygu.

 

Mewn ymateb, cynigiodd swyddogion y cyngor canlynol -

           Gan fod y tir y tu allan i'r ffin ddatblygu ar hyn o bryd, nid yw gwerthu'r tir i'w ddatblygu yn opsiwn. Er y bydd y CDLl ar y Cyd yn cael ei adolygu, byddai newid y ffin ddatblygu yn gofyn am gyfiawnhad cadarn.

           Nid yw tir y cwrs Golff wedi'i osod ers cau'r cyfleuster. Er bod y Cyngor wedi cynnal y cyfleuster drwy dorri glaswellt sydd wedyn wedi'i werthu fel incwm i'r Gwasanaeth Hamdden, nid oes unrhyw waith arall wedi'i wneud rhag amharu ar unrhyw ymgynghoriad neu benderfyniad dilynol o dan reoliadau Caeau Chwarae 2015.

           Byddai gosod cymal gorswm ar werthu'r tir yn rhoi'r hawl i'r Cyngor fel y gwerthwr i gael cyfran o’r cynnydd posibl yng ngwerth y tir yn y dyfodol. Os penderfynir gwerthu’r tir fel tir amaethyddol, byddai cytundeb gorswm yn nodi pe bai'r defnydd tir yn newid o fewn amserlen y cytundeb yna byddai'r Cyngor yn elwa ar ganran o'r cynnydd yng ngwerth y tir ar yr adeg y mae'r newid yn digwydd.

           Bod eiddo Ffridd wedi bod yn wag ers y rhoddwyd y gorau i’w ddefnyddio fel tŷ ceidwad y grin golff; fe'i cadwyd gan ei fod yn ychwanegu gwerth at y safle. Mae'r eiddo mewn cyflwr rhesymol ac ar wahân i rywfaint o waith cynnal a chadw, nid oes llawer iawn o waith gwario arno. Os penderfynir bwrw ymlaen i werthu'r Cwrs Golff yna byddai'r tir a'r eiddo yn cael eu rhannu’n lotiau i sicrhau'r incwm mwyaf posibl.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor at yr amserlenni a thynnodd sylw at y ffaith y byddai'n debygol o gymryd peth amser i gymeradwyo cynnwys tir y cwrs Golff o fewn y CDLl ar y Cyd hyd yn oed os gellid cyfiawnhau hynny, sy'n golygu gohirio buddsoddi yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur. Ychwanegodd fod y Pwyllgor Gwaith yn awyddus i gynnwys rhyw fath o gafeat wrth werthu'r tir i ddiogelu'r Cyngor o ran sicrhau ei fod yn elwa o unrhyw enillion ar y tir yn y dyfodol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid gohirio gwerthu tir y cwrs Golff er mwyn caniatáu i opsiynau ar gyfer cynnwys y tir yn rhannol neu'n llawn o fewn y CDLl ar y Cyd pan gaiff y Cynllun ei adolygu, gael ei archwilio.  Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts wrth eilio'r cynnig y gallai eiddo Ffridd gael ei farchnata ar y farchnad agored yn y cyfamser a defnyddio enillion y gwerthiant er budd Canolfan Hamdden Plas Arthur. Cytunodd y Cynghorydd Bryan Owen â'r gwelliant.

 

Er y gallai ddeall y rhesymeg dros y cynnig, dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees fod cais am dai fforddiadwy yn Nhŷ’n Coed, Llangefni wedi'i wrthod a'i wrthod mewn apêl oherwydd ystyrid bod cyflenwad digonol o dai fforddiadwy yn Llangefni. Cynigiodd y dylid argymell Opsiwn 1 yn adroddiad y Swyddog h.y. bwrw ymlaen i werthu tir y cwrs Golff a dechrau marchnata'r safle (aelwyd Ffridd a 42 o erwau cysylltiedig) i'w werthu ar y farchnad agored i'r Pwyllgor Gwaith; cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Arweiniodd y bleidlais ddilynol at bleidlais gyfartal. Cafodd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen y dylid ystyried cynnwys y tir cwrs Golff Llangefni o fewn y CDLl ar y Cyd ei gefnogi gan bleidlais fwrw'r Gadair.

 

Penderfynwyd argymell i'r Pwyllgor Gwaith y dylid gohirio gwerthu tir cwrs Golff Llangefni er mwyn rhoi cyfle i ystyried opsiynau ar gyfer cynnwys y tir yn rhannol neu'n llawn o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd pan adolygir y Cynllun, ac yn y cyfamser y dylid marchnata eiddo Ffridd i'w werthu ar y farchnad agored a'r enillion o’r gwerthiant yn cael eu hail-fuddsoddi yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur.

Dogfennau ategol: