Eitem Rhaglen

Adroddiad Gwrthwynebu – Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni - Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn nodi'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi hysbysiad statudol o fwriad y Cyngor i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Rhoddodd Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid grynodeb o gefndir y cynnig a oedd yn rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ardal Llangefni a chyfeiriodd at yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 ar ddyfodol y ddwy ysgol. Ar ôl gohirio oherwydd y pandemig, craffodd y Pwyllgor Sgritiwni Corfforaethol ar y mater ar 10 Rhagfyr, 2020 ac yna fe'i hystyriwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar 17 Rhagfyr, 2020 a benderfynodd gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Mae'r broses ddilynol wedi arwain at y cam hwn o dderbyn yr adroddiad ar y gwrthwynebiadau i'r cynnig a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Er mwyn cydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018, adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Cyngor wedi cyhoeddi hysbysiad statudol ar 18 Ionawr 2021 o'i fwriad i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Yna cafwyd cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod a ddaeth i ben ar 15 Chwefror, 2021. Derbyniwyd cyfanswm o 46 o wrthwynebiadau i'r cynnig. Er mwyn cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018, rhaid i'r Cyngor, fel y cynigydd, gyhoeddi adroddiad gwrthwynebu yn disgrifio'r gwrthwynebiadau a gafwyd; cyflwynir hwn o dan Atodiad 1. Mae’r ffordd y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn delio gyda gwrthwynebiad i rybudd statudol yn dilyn trefn sydd yn unol ȃ’r Còd Trefniadaeth Ysgolion ac sydd mewn grym ers mis Hydref 2013. Yn unol ag adran 5.3 o'r Cod, rhaid i awdurdodau lleol wedyn benderfynu a ddylid cymeradwyo, gwrthod neu gymeradwyo'r cynnig gydag addasiadau. Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau a gafwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, argymhellir bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo'r cynnig gwreiddiol sef cynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Ailadroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y cefndir hyd yma gan ddechrau gyda'r ymgynghoriad statudol ar ddyfodol Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig a gynhaliwyd gan Swyddogion y Cyngor rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 ar ôl cael eu hawdurdodi i wneud hynny ar ôl i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr, 2020. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar ddiwrnod olaf yr ysgol cyn cyfnod y cyfyngiadau symud cyntaf o ganlyniad i'r pandemig byd-eang. Dylid nodi bod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru i gadarnhau bod Gweinidogion yn rhoi estyniad i'r Cyngor tan 19 Mawrth, 2021 i gyhoeddi unrhyw gynnig. Mae'r Cyngor wedi gweithredu yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018 drwy gydol y broses hon.  Fel rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, ystyriwyd cynnig gwreiddiol y Cyngor a nifer o gynigion eraill yn fanwl. Cafwyd 57 o ymatebion ar-lein gan yr ymgynghoriad a 10 llythyr ac ymateb e-bost gan sefydliadau unigol a chymunedol. Awgrymwyd modelau addysgol eraill gan randdeiliaid ac fe'u haseswyd gan swyddogion yn erbyn meini prawf a phethau sy’n symbylu’r strategaeth moderneiddio ysgolion bresennol.  Ar ôl ystyried yr holl ymatebion ac yn dilyn dadansoddiad cynhwysfawr o'u cryfderau a'u gwendidau yn erbyn y pethau sy’n symbylu’r Strategaeth, ystyriwyd mai'r cynnig gwreiddiol oedd y ffordd fwyaf priodol ymlaen oherwydd barnwyd ei fod yn bodloni gofynion y prif bethau sy’n symbylu’r Strategaeth o ran safonau; arweinyddiaeth a rheolaeth; bod adeilad yr ysgol yn ddigonol; lleoedd ysgol digonol, effeithlonrwydd cost; darpariaeth cyfrwng Cymraeg a defnydd cymunedol. Mae'r adroddiad yn Rhan B yn cyfeirio at y 12 o opsiynau amgen rhesymol yn lle cau Ysgol Talwrn a gafodd eu hystyried a’u hasesu ymhellach, ond a ganfuwyd nad oeddent yn bodloni prif sbardunau'r Strategaeth Foderneiddio Ysgolion na'r heriau a wynebir gan y ddwy ysgol. Bydd y cynnig, fydd yn costio tua £6m yn ôl yr amcangyfrif, yn cael ei ariannu 65:35 gan Raglen Ysgolion Band B 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a gan y Cyngor drwy gyfuniad o dderbyniadau cyfalaf a benthyca heb  gymorth. Yn seiliedig ar y cyfrifiadau a amlinellir yn yr adroddiad, mae'r cynnig yn fforddiadwy. At hynny, mae'r Cyngor o'r farn y byddai'n annoeth peidio â buddsoddi o ystyried y cynnydd yn nifer y plant yn yr ardal yn y gorffennol ynghyd â chynnydd rhagamcanol yn y dyfodol o ganlyniad i nifer o ddatblygiadau tai yn nalgylch Ysgol y Graig. Mae'r adroddiad hefyd yn gwerthuso effaith y cynnig ar genedlaethau'r dyfodol o ran anghenion hirdymor yr Ynys, llai o gost/dibyniaeth ar yr Awdurdod yn y dyfodol; graddau'r cydweithio ag eraill yn y penderfyniad; cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud penderfyniadau a’r effaith ar gydraddoldeb a'r Gymraeg.

 

Gan gyfeirio at yr Adroddiad Gwrthwynebu, tynnodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc sylw at y ffaith bod y 46 o ymatebion a gafwyd yn dod oddi wrth drawstoriad o randdeiliaid a bod llawer yn cynnwys mwy nag un rheswm dros wrthwynebu. Mae'r rhesymau hyn wedi'u grwpio'n gategorïau fel gwrthwynebiadau sy'n seiliedig ar – safonau yn Ysgol Talwrn; y pandemig; penderfyniadau cyfansoddiadol y Cyngor; effaith bosibl ar y gymuned; nad yw'r Cyngor yn gwrando; effaith bosibl ar y Gymraeg, effaith y broses ar iechyd meddwl; Ysgol Talwrn yn cael ei thrin yn wahanol; opsiwn o ffedereiddio; effaith ar eisteddfod y pentref; effaith ar y cylch meithrin; trafnidiaeth a diogelwch y ffyrdd; hawliau dynol plant; y ffordd y mae'r Cyngor wedi gweithredu'r Ddeddf Llesiant yn Asesiad Effaith y cynnig; costau'r cynllun; ymateb y Cyngor; maint dosbarthiadau; maint yr ysgol estynedig, a safle Ysgol Talwrn. Yn unol ag adran 49 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion Cymru 2013, mae'r Adroddiad Gwrthwynebu yn cynnwys crynodeb o'r gwrthwynebiadau ac ymateb y Cyngor i'r gwrthwynebiadau hynny.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y gwrthwynebiadau fel y'u nodir yn yr adroddiad gan nodi'r ffactorau a'r broses sydd wedi arwain at y cam hwn. Gofynnwyd cwestiynau fel a ganlyn –

 

           Wrth nodi bod amrywiaeth o randdeiliaid wedi cael cyfle i gyfrannu yn ystod y broses ymgynghori statudol, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurder ynghylch a oedd yr Aelod Seneddol Lleol, Aelod Lleol y Senedd ac Aelodau rhanbarthol y Senedd wedi darparu unrhyw ymatebion, ac os felly beth oeddent.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod ymateb i'r gwrthwynebiadau wedi dod i law gan Aelod o'r Senedd Ynys Môn yn tynnu sylw at y ffaith ei fod wedi cael trafodaeth gyda rhieni yn Ysgol Talwrn a oedd wedi codi materion ymarferol ynghylch ymgysylltu â'r broses ymgynghori – yn benodol gyda Sgriwtini. Eglurodd y Swyddog fod yr Awdurdod wedi bod drwy broses gynhwysfawr ers mis Ionawr 2020 ac y dylid nodi bod y broses ymgynghori statudol wedi dod i ben cyn gweithredu'r cyfyngiadau symud cyntaf ar 23 Mawrth 2020. Mae'r Awdurdod hefyd wedi cyflwyno protocol ar gyfer Siarad Cyhoeddus mewn Pwyllgorau Sgriwtini a ddiwygiwyd ym mis Hydref 2020 i ganiatáu i’r cyhoedd siarad mewn cyfarfodydd rhithwir. Roedd trigolion yn ymwybodol o'r weithdrefn hon drwy wefan y Cyngor ac ar 11 Tachwedd 2020 hysbyswyd pobl yn benodol am y protocol. Yn y cyfnod rhwng diwygio'r protocol a'r drafodaeth yn Sgriwtini ym mis Rhagfyr bu gohebiaeth bellach i roi gwybod i bobl am y broses newydd. Wedi hynny, derbyniwyd cais gan dri unigolyn yn mynegi diddordeb ac yn gofyn sut y gallent siarad yn y cyfarfod Sgriwtini. O'r tri hynny, tynnodd dau yn ôl a manteisiodd un unigolyn ar y cyfle i annerch y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 10 Rhagfyr ar ran rhieni a llywodraethwyr Ysgol Talwrn o dan Brotocol Siarad Cyhoeddus mewn Pwyllgorau Sgriwtini.

 

Mae’r Aelod o’r Senedd hefyd yn codi pwynt bod teimlad nad oedd y plant eu hunain wedi cael cyfle i fod yn rhan o'r broses. Mae'r Awdurdod wedi ymateb drwy dynnu sylw at y cyfle a roddwyd i ddisgyblion fod yn rhan o'r broses a rhoi eu barn yn ystod yr ymgynghoriad statudol. Mae'r Aelod o'r Senedd yn nodi ymhellach fod yr Awdurdod wedi atgoffa plant o'u hawl i fynegi eu barn o dan Erthygl 12 o Gonfensiwn Hawliau'r Plentyn y Cenhedloedd Unedig. Cred yr Awdurdod ei fod wedi gwneud hyn o dan drefniadau y cytunwyd arnynt hefyd gan y ddau Bennaeth.

 

Mae a wnelo’r trydydd pwynt a godwyd gan Aelod Ynys Môn o'r Senedd â’r sylw na roddodd yr awdurdod ddigon o ystyriaeth i'r opsiynau amgen yn lle cau Ysgol Talwrn. Fel y cyfeiriwyd ato gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, gall yr Awdurdod ddangos ei fod wedi ystyried opsiynau amgen a modelau addysgol eraill fel rhan o'r papur cynnig ac wrth ystyried yr ymateb i'r cynnig gwreiddiol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod 27 o'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn seiliedig ar safonau yn Ysgol Talwrn, a’u bod yn cyfeirio’n benodol at y ffaith fod safonau a lefel yr addysgu yn Ysgol Talwrn yn uchel a bod yr ysgol wedi darparu addysg dda i blant. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurder ynghylch y rhesymu dros y cynnig ar sail safonau addysgol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc wrth gydnabod bod safonau addysgol yn Ysgol Talwrn yn dda a bod honno'n ysgol categori Gwyrdd (ysgol sy'n perfformio'n dda ac sydd angen y lefel isaf o gymorth) . Bydd symud ymlaen gyda'r argymhelliad yn golygu y bydd disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau lle nad yw'r ystod oedran yn fwy na 2 flynedd a lle mae adeilad yr ysgol yn bodloni safonau ysgolion yr 21ain  ganrif sy'n darparu ansawdd arbennig i ddisgyblion ddysgu. Byddai adeilad a safle estynedig Ysgol y Graig yn addas i'r diben o ran bodloni gofynion Cwricwlwm newydd Cymru. Gallai mwy o staff yn Ysgol y Graig, sydd newydd ei hehangu, olygu mwy o amrywiaeth o fewn y cwricwlwm yn ogystal â mwy o gyfle i gael amrywiaeth o brofiadau allgyrsiol. Hefyd, fel rhan o'i ymateb i'r ymgynghoriad, dywedodd Estyn fod y cynnig yn debygol o gynnal y safonau presennol o ran darpariaeth addysg ac arweinyddiaeth a rheolaeth i blant yn yr ardal. Er bod y ddwy ysgol wedi'u dynodi'n ysgolion Gwyrdd Categori A ar hyn o bryd, mae'r Awdurdod yn cymryd golwg hirdymor i sicrhau bod ysgolion yn cael eu paratoi ar gyfer heriau yn y dyfodol; byddai'r cynnig, pe bai'n cael ei weithredu, yn sicrhau bod safonau yn y ddwy ysgol nid yn unig yn cael eu cynnal yn Ysgol y Graig estynedig ond yn parhau i wella.

 

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod 24 o'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn cyfeirio at effaith y pandemig, yn enwedig o ran amseriad yr ymgynghoriad. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sêl bendith i barhau â’r broses yng nghyd-destun y pandemig.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod yr Awdurdod yn ymwybodol bod y deuddeg mis diwethaf wedi bod yn gyfnod cythryblus i gymunedau wedi cymryd ymagwedd mor sensitif â phosibl wrth gyrraedd y cam hwn yn y broses. Daeth yr ymgynghoriad statudol i ben ar 20 Mawrth, 2020 ar ddiwrnod olaf yr ysgol cyn cyfnod y cyfyngiadau symud cyntaf. Ar ôl hynny daeth yn amlwg na fyddai'r Awdurdod yn gallu bodloni'r amserlenni a bennwyd gan God Trefniadaeth Ysgolion 2018 ar gyfer cyhoeddi hysbysiad statudol o'i fwriadau. Felly, cysylltodd â Llywodraeth Cymru i ofyn am estyniad amser i ganiatáu iddo wneud hynny a chadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei sêl bendith ym mis Mai 2020. Ym mis Mehefin, 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fân ddiwygiad i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion i alluogi awdurdodau lleol i barhau i ymgynghori ar faterion trefniadaeth ysgolion yn ystod y pandemig; roedd hyn yng ngoleuni'r ffaith, er bod llawer iawn o ddysgu'n digwydd ar-lein, fod ysgolion ar agor o fis Gorffennaf, 2020 a oedd, at ddibenion y gwelliant, yn cyfrif fel diwrnod ysgol. Cyhoeddwyd diwygiadau pellach yn y cyfnod rhwng Medi, 2020 a Chwefror, 2021 gan atgyfnerthu'r gwelliant gwreiddiol ac o ganlyniad, mae'r Awdurdod o'r farn ei fod wedi dilyn y canllawiau a'i fod wedi mynd rhagddo yn unol â disgwyliadau'r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig.

 

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod 10 o'r gwrthwynebiadau yn codi'r mater o ffedereiddio, yn benodol y posibilrwydd o ffedereiddio Ysgol Talwrn ag Ysgol Llanbedrgoch a bod yr opsiwn hwn wedi'i gynnwys ymhellach yn yr adroddiad ymgynghori. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am fwy o eglurder ynghylch pam na ffafriwyd yr opsiwn hwn yn y pen draw.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y papur cynnig a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Ionawr 2020 yn cydnabod ffedereiddio fel opsiwn perthnasol ac roedd y ddogfen ymgynghori hefyd yn cynnwys ffedereiddio fel opsiwn i'w ystyried. Yn yr adroddiad ymgynghori, ystyriwyd ac aseswyd 12 dewis amgen rhesymol yn lle cau Ysgol Talwrn ac roedd 5 ohonynt yn cynnwys elfen o ffedereiddio. Fodd bynnag, fel yr ymhelaethwyd arno yn y tabl yn adran 5.2.11 o'r ddogfen ymgynghori, ystyriwyd bod anfanteision yr opsiynau hyn yn drech na'r manteision. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr nad yw ffedereiddio Ysgol Talwrn ag unrhyw ysgol arall yn ei farn broffesiynol yn ateb yr holl heriau y mae'r ysgolion yn eu hwynebu yn y dyfodol; mae'r rhain yn cynnwys darparu digon o leoedd yn Ysgol y Graig; darparu digon o le i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru; mynd i'r afael â'r amrywiad yn y gost fesul disgybl sydd ar gyfer Ysgol Talwrn yn fwy na chyfartaledd Ynys Môn; cynnal adeilad ysgol Ysgol Talwrn a fydd yn dal yn annigonol i ddiwallu anghenion addysgol yn y dyfodol; cynnal a sbarduno gwelliannau mewn safonau addysgol yn y tymor hir; sicrhau digon o amser digyswllt i Benaethiaid a mynd i'r afael ag agweddau ariannol. Am yr holl resymau hyn nid oedd o'r farn bod ffedereiddio yn opsiwn realistig yn achos Ysgol Talwrn.

 

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod 8 o'r gwrthwynebiadau yn codi pryderon ynghylch trafnidiaeth a diogelwch y ffyrdd mewn cysylltiad â’r bwriad i symud disgyblion Ysgol Talwrn i Ysgol y Graig estynedig. Wrth gydnabod y pryderon hyn, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurder o ran y sefyllfa draffig bresennol ar y ffordd o’r Talwrn i Langefni ac os caiff y cynnig ei gymeradwyo, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd ynghylch darparu cludiant diogel i'r ysgol ar gyfer disgyblion Ysgol Talwrn a lle parcio digonol yn Ysgol y Graig estynedig.

 

Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod Ysgol y Graig bresennol wedi'i chynllunio fel ysgol werdd i annog disgyblion i gerdded a beicio i'r ysgol gyda llwybrau cerdded a beicio wedi eu darparu. Fe'i cynlluniwyd hefyd i ddarparu isafswm darpariaeth parcio yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru ar hyrwyddo cerdded a beicio. Fodd bynnag, mae problemau parcio y tu allan i Ysgol y Graig oherwydd y defnydd o geir i fynd â phlant yn ôl a blaen i'r ysgol ac mae'r problemau hyn yn parhau er gwaethaf ymdrechion i ofyn i rieni barcio'n rhesymol ac i annog eu plant i gerdded neu feicio i'r ysgol. Pe bai'r cynnig yn cael ei gymeradwyo, byddai'n gyfle i wella'r sefyllfa bresennol a byddai'n golygu cynnal Asesiad Effaith Traffig o effeithiau ymestyn yr ysgol a chynnwys disgyblion o Ysgol Talwrn; byddai hyn wedyn yn rhan o gais cynllunio a fyddai'n cynnwys mesurau lliniaru i gynnwys darpariaeth ar gyfer maes parcio newydd y byddai angen ei gymeradwyo cyn y gallai'r cynnig fynd yn ei flaen.

 

O ran y sefyllfa draffig, mae arolwg ym mis Hydref 2019 yn dangos bod 17% o ddisgyblion Ysgol Talwrn yn dod o ddalgylch Ysgol Corn Hir a 31% o ddalgylch Ysgol y Graig sy'n golygu bod 48% o ddisgyblion Ysgol Talwrn yn cymryd ffordd y B5109 o Langefni i’r Talwrn bob dydd. Pe bai'r cynnig yn cael ei gymeradwyo, ni fyddai angen iddynt wneud y daith hon. Er bod 67% o ddisgyblion Ysgol Talwrn yn dod o'r tu allan i'r dalgylch ac nad ydynt yn gallu cerdded na beicio i'r ysgol, dim ond 10 disgybl sy'n byw o fewn hanner milltir i'r ysgol ac yn debygol o gerdded neu feicio i'r ysgol. Rhagwelir y byddai'r cynnig yn golygu llai o symud rhwng Talwrn a Llangefni nag i'r cyfeiriad arall ar hyn o bryd. I ddisgyblion Ysgol Talwrn sy'n byw yn y Talwrn, byddai cludiant i'r ysgol ar fws/bws mini yn cael ei ddarparu yn unol â pholisi trafnidiaeth yr Awdurdod gan y byddai'n afresymol disgwyl i'r plant gerdded o’r Talwrn i Langefni. Dylid nodi hefyd, ers agor ffordd gyswllt newydd Llangefni, fod maes parcio ychwanegol ger Ffordd Penmynydd wedi'i ddarparu gan Goleg Menai sy'n golygu y gall myfyrwyr gael mynediad i'r ffordd gyswllt heb orfod pasio naill ai safleoedd presennol neu arfaethedig Ysgol y Graig sydd wedi'u hehangu.

 

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod 13 o'r gwrthwynebiadau yn ymwneud ag effaith bosibl y cynnig ar y Gymraeg. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd fod asesiad effaith y Cyngor a fydd yn parhau'n ddogfen fyw yn awgrymu y bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd pellach ynglŷn â'r effeithiau ar y Gymraeg a gofynnodd am eglurhad ynghylch sut y bydd statws "byw" yr asesiad effaith yn cael ei gynnal.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod nifer y plant sy'n siarad Cymraeg rhugl gartref yn uwch ar hyn o bryd ar gyfer disgyblion Ysgol y Graig (72%) nag ar gyfer Ysgol Talwrn (40%) sy'n darparu'r amodau i'r iaith ffynnu ymhlith plant sy'n symud i'r ysgol estynedig newydd pe bai'r cynnig yn cael ei gymeradwyo. Cyfrifoldeb Tîm Arweinyddiaeth ehangach yr ysgol fyddai sicrhau datblygiad yr iaith a sicrhau bod plant yn cael cymaint o gyfleoedd â phosibl i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn yr ysgol ac ymhellach, i weithio gyda chymuned yr ysgol i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith gartref. Fel ar hyn o bryd byddai disgwyl i'r ysgol hyrwyddo'r Gymraeg o fewn yr ystafell ddosbarth ac ar y cae chwarae yn unol â Siarter Iaith Gymraeg yr Awdurdod. Mae sicrhau bod yr asesiad effaith yn parhau i fod yn ddogfen fyw yn elfen bwysig o'r cynnig sy'n golygu y bydd y ddogfen asesu yn datblygu ac yn esblygu i adlewyrchu'r sefyllfa wrth symud ymlaen. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd prosiect i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn siopau lleol wedi dechrau ac er y bu'n rhaid ei ohirio oherwydd y pandemig, bydd yn ailddechrau i gefnogi amcanion Strategaeth a Siarter Iaith Gymraeg yr Awdurdod o fewn cymunedau i ddatblygu'r iaith gyda phlant yn yr ysgol estynedig yn rhan annatod ohono. Mae cynlluniau eraill sy'n gysylltiedig â Chanolfannau'r Gymraeg, Fforwm y Gymraeg ac mewn partneriaeth â Menter Môn yn ogystal â Strategaeth 10 mlynedd y Gymraeg mewn Addysg i gyd yn elfennau allweddol wrth ddatblygu'r iaith.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod yn rhaid i'r asesiad effaith fod yn ddogfen fyw i alluogi'r Awdurdod i ofyn cwestiynau i'r gymuned yn rheolaidd am yr effeithiau sy'n codi, ac os felly sut y gall yr Awdurdod fynd i'r afael â nhw. Fel enghraifft, mae pwynt a godwyd yn yr adroddiad gwrthwynebu yn ymwneud ag effaith y cynnig ar eisteddfod y pentref yn Nhalwrn; mae'r Awdurdod o'r farn, os yw'r effaith yn golygu nad yw plant o Ysgol Talwrn yn cymryd rhan yn yr eisteddfod, yna dylai ystyried gweithio gydag Ysgol y Graig a'i disgyblion fel y gallant gymryd rhan ynddi a thrwy hynny godi ymwybyddiaeth am yr eisteddfod ymhlith llawer mwy o blant, eu rhieni ac ymysg cartrefi a allai fod yn fodel ar gyfer yr eisteddfod yn y dyfodol. Fel hyn byddai'r Awdurdod yn cymryd camau i liniaru unrhyw effaith wrth i'r cynllun ddatblygu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Trawsnewid Gwasanaethau a'r Iaith Gymraeg ei fod yn credu ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn cymryd ymagwedd mor rhagweithiol â phosibl at alluogi eisteddfod y pentref i barhau.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr eisteddfod a diwylliant Cymru yn elfennau pwysig o fewn Ysgol y Graig bresennol, a bod disgwyl i’r meddylfryd hwn barhau.

 

Wrth gloi, diolchodd Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid i'r holl Swyddogion am eu gwaith paratoi drwy gydol y broses gynhwysfawr hon. Cyfeiriodd at y prif bethau sy’n symbylu’r Strategaeth Moderneiddio Ysgolion sydd wedi angori'r broses, ac ar ôl ystyried yr holl safbwyntiau a fynegwyd ac adborth ar hyd y ffordd ac yn arbennig y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd, nid oedd yn credu bod y sefyllfa wedi newid yn sylfaenol. Croesawodd yr ymrwymiad i hyrwyddo'r eisteddfod leol ac i ddatblygu'r Gymraeg ond pwysleisiodd nad yw'r cyfrifoldeb dros sicrhau bod yr iaith yn ffynnu yn gyfrifoldeb i ysgolion yn unig ac anogodd rieni a neiniau a theidiau i sicrhau eu bod yn trosglwyddo eu sgiliau Cymraeg i'w plant a'u hwyrion. Weithiau mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac mae cau ysgol yn un o'r rhai anoddaf. Cynigiodd fod y cynnig gwreiddiol yn cael ei gymeradwyo, sef cynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Cefnogodd y Pwyllgor Gwaith y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig gwreiddiol, sef i gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Dogfennau ategol: