Eitem Rhaglen

Ei gwneud yn bosib i Gyngor Sir Ynys Môn esblygu i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030 - gan ddarparu Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol newydd

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn amlinellu'r camau i'w cymryd i ddarparu Rhaglen newid hinsawdd gorfforaethol newydd i gefnogi'r Cyngor i newid i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, cyfeiriodd Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd at yr argyfwng newid hinsawdd fel un sy'n berthnasol i'r Cyngor yn gorfforaethol ac i wasanaethau'n unigol, a bod y Cyngor wedi ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Er bod y ffocws uniongyrchol wedi bod ar reoli effaith pandemig Covid-19, mae'r argyfwng newid hinsawdd yn parhau. Bydd yn dod yn fwy pwysig wrth symud ymlaen a bydd disgwyliadau’n lleol y bydd y Cyngor yn cymryd camau pendant yn cynyddu. Er bod rhai pethau eisoes wedi’u cyflawni ar draws yr Awdurdod – ym maes Tai, Priffyrdd ac Eiddo er enghraifft - o ran lleihau'r defnydd o garbon, diogelu ac ychwanegu gwerth at yr amgylchedd naturiol a lleihau teithio, mae gwaith y Cyngor ar newid hinsawdd yn gofyn am ddull corfforaethol hirdymor a phellgyrhaeddol. Er y bydd adnoddau ar gael, mae angen i ymateb y Cyngor gael ei ategu gan gynlluniau mesuradwy pendant a fydd yn gwneud gwahaniaeth.

 

Cytunodd y Dirprwy Brif Weithredwr y bydd proffil, arwyddocâd a disgwyliadau'r Cyngor i gymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â mater newid hinsawdd yn cynyddu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, yn enwedig unwaith y bydd argyfwng Covid-19 drosodd. Bydd angen i'r Cyngor roi arweiniad clir yn fewnol ac yn allanol ar gyfer cymunedau  a busnesau’r Ynys a'i bartneriaid, ac mae'r adroddiadau'n ceisio gosod sylfaen gadarn a fydd yn fodd i ystyriaethau newid hinsawdd gael eu hymgorffori ym mhob agwedd ar waith y Cyngor yn y dyfodol. Mae Adran 3.2.1 o'r adroddiad yn allweddol i nodi ymrwymiadau awdurdodau lleol o ran sefydlu llinell sylfaen, adrodd, monitro a darparu tystiolaeth o gynnydd ystyrlon tuag at darged 2030 o gyflawni statws carbon niwtral a rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi map ffordd cyn bo hir ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus a fydd yn cyd-fynd â'r ymrwymiadau hynny.

 

Mae'n bwysig bod newid hinsawdd a lles amgylcheddol yn rhan annatod o broses adfer Covid-19. Dylai cynlluniau adfer geisio cynnwys ac adeiladu ar y newidiadau mewn agwedd, ymddygiad a ffyrdd o weithio sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig. ond dylai hefyd gydnabod mai unigolion a'u penderfyniadau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly dylai’r dull gweithredu fod yn un strategol a hefyd yn ddull sy'n seiliedig ar grwpiau sy'n cynnwys staff y Cyngor, trigolion yr Ynys a'r Aelod lleol o’r Senedd a’r Aelod Seneddol sy'n eu cynrychioli. Mae Adran 7 yr adroddiad yn egluro'r rhesymu ar gyfer y cynigion sy'n argymell y dylid cryfhau cydgysylltiad, capasiti ac arbenigedd corfforaethol yn y maes hwn er mwyn galluogi'r Cyngor i symud ymlaen yn bendant ac yn effeithiol â'r cyfrifoldeb newid hinsawdd, a hynny gyda chymorth adnoddau penodol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones, Cadeirydd Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, adroddiad o gyfarfod y Pwyllgor ar 11 Mawrth 2021 lle craffwyd ar yr adroddiad. Hysbyswyd y Pwyllgor a nodwyd bod maes newid hinsawdd yn faes arbenigol a phwysig iawn sy'n gofyn am newid diwylliant, a hynny’n golygu yn ei dro bod yn rhaid i'r sefydliad fynd ar daith ddysgu. Amlinellwyd y modd y mae angen i'r Cyngor newid y ffordd y mae'n gweithio i'r Pwyllgor, gyda phwyslais ar y ffaith bod hon yn daith hirdymor gyda chyfrifoldeb ar y Cyngor yn ogystal â'i holl staff. Cyfeiriwyd at y ddeddfwriaeth a'r polisïau allweddol ar newid hinsawdd ac at rôl y Panel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol a'r ymrwymiadau a wnaed gan bob awdurdod lleol a gynrychiolir ar y Panel. Cydnabuwyd bod y Cyngor eisoes yn mynd i’r cyfeiriad cywir i geisio dod yn sefydliad carbon niwtral a bod angen rhoi cyhoeddusrwydd ehangach i hyn; roedd y Pwyllgor yn croesawu’r sylw a roddir bellach ar y mater hwn er budd trigolion yr Ynys a bioamrywiaeth ehangach a chanmolwyd bwriadau'r adroddiad. Gwnaed pwyntiau ynglŷn â phwysigrwydd y broses gaffael o ran prynu nwyddau cynaliadwy a defnyddio cynhyrchion a chwmnïau lleol a hefyd mewn perthynas â'r gwahanol ffyrdd o weithio a llai o deithio o ganlyniad i'r pandemig a'r angen i gynnwys y gwersi hyn yng nghynlluniau’r Cyngor wrth symud ymlaen. Roedd y Pwyllgor hefyd yn awyddus i Reolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd, ar ôl ei benodi, ymweld ag ysgolion i addysgu'r genhedlaeth nesaf ar waith a chynlluniau'r Cyngor ar newid hinsawdd.  Roedd y Pwyllgor Sgriwtini yn hapus i gefnogi ac argymell y cynigion o ran datblygu a gweithredu Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol newydd; recriwtio Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a sefydlu Gweithgor Mewnol ar Newid Hinsawdd.

 

Yn yr un modd, croesawodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad gan gydnabod bod newid hinsawdd yn un o flaenoriaethau pwysicaf y Cyngor o ran gwaddol a lles cenedlaethau'r dyfodol ac roedd Aelodau’n gwerthfawrogi'r gwaith ar adeg pan fo'r Cyngor yn dal i ddelio â'r pandemig a'i oblygiadau.

 

Roedd y Cynghorydd Ieuan Williams, Dirprwy Arweinydd yn ddiolchgar am yr adroddiad fel man cychwyn gwerthfawr ac wrth ddweud ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn rhaglen glir a manwl gyda chostau ac amserlenni cyflawni, holodd pryd y gellid disgwyl rhaglen o'r fath. Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weithredwr y bydd datblygu cynllun gweithredu manwl yn flaenoriaeth gynnar unwaith y penodir Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd. Gobeithio y gellir gwneud y penodiad cyn yr haf, yr amcan wedyn fyddai sefydlu cynllun gweithredu cychwynnol i’w gyflwyno drwy'r broses ddemocrataidd erbyn diwedd y flwyddyn galendr.

 

Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid sylw at y ffaith bod Cyllideb 2021/2022 yn gwneud darpariaeth gychwynnol ar gyfer gwaith newid hinsawdd i gydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru a'r Cyngor i sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd at y camau y mae'r Cyngor wedi'u cymryd hyd yma i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy, effeithlon o ran ynni, sy'n ymwybodol o'r hinsawdd mewn perthynas â'i stoc tai, newid i gerbydau fflyd drydan, rheoli a gwaredu gwastraff a'r amgylchedd naturiol. Hefyd pwysleisiodd bwysigrwydd cael cynlluniau manwl i fod yn barod i fanteisio ar gyllid allanol sy'n gysylltiedig â gweithredu ar newid hinsawdd.

 

Wrth gydnabod y rôl sydd gan y Cyngor i'w chwarae, pwysleisiodd y Cynghorydd R.G. Parry OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ei fod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru hefyd yn chwarae ei rhan i helpu awdurdodau lleol i wneud gwahaniaeth er enghraifft wrth gefnogi'r gwaith ehangach o gyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan mewn mannau sydd ar gael i'r cyhoedd, megis mewn ysgolion ac adeiladau'r Cyngor.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod yr Awdurdod wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru gyda'r bwriad o ddenu cyllid i greu cynllun gwefru cerbydau trydan ar gyfer Ynys Môn a fydd yn rhan o'r strategaeth genedlaethol sy'n cael ei datblygu. Tynnwyd sylw at y ffaith y gallai fod angen i'r atebion i Ynys Môn fod yn wahanol i'r rhai ar gyfer ardaloedd dinesig o ystyried ei natur fwy gwledig a'i bod yn bwysig sicrhau y caiff ardaloedd gwledig eu trin yn deg ac yn gyfartal.

 

Penderfynwyd cefnogi a chymeradwyo’r canlynol –

 

           Datblygu a gweithredu Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol newydd fel bod yr awdurdod yn gallu newid i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.

           Mai'r Dirprwy Brif Weithredwr yw'r Uwch Berchennog Cyfrifol.

           Blaenoriaethu adnoddau ar ymrwymiadau'r awdurdodau lleol y cytunwyd arnynt yn y Panel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol (adran 3.2.1 yn yr adroddiad).

           Defnyddio cronfa gyfyngedig wrth gefn o £400,000 i greu capasiti/arbenigedd penodol i arwain y gwaith o ddatblygu a chydlynu camau cychwynnol datblygu a darparu.

           Recriwtio Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol i arwain ar ddatblygu a chyflawni.

           Sefydlu Gweithgor Newid Hinsawdd (gyda chynrychiolaeth wleidyddol) – grŵp cynghori, nad yw'n gwneud penderfyniadau, i wneud argymhellion a cheisiadau.

           Penodi Hyrwyddwr Newid Hinsawdd ar y Pwyllgor Gwaith, a

           Bod y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn cael ei benodi’n Bencampwr Newid Hinsawdd y Pwyllgor Gwaith.

Dogfennau ategol: