Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  FPL/2021/7 – Prysan Fawr, Bodedern

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCZRtUAP/fpl20217?language=cy

 

7.2  FPL/2020/164 – Bwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpVUAV/fpl2020164?language=cy

 

7.3  FPL/2020/247 – Stad Y Bryn, Llanfaethlu

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NB0iuUAD/fpl2020247?language=cy

 

Cofnodion:

7.1 FPL/2021/7 – Cais llawn i gadw a chwblhau'r sied amaethyddol ynghyd â gosod ffos gerrig ar dir yn Prysan Fawr, Bodedern.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i “swyddog perthnasol” fel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o'r Cyfansoddiad. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle cyn penderfynu ar y cais. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 17 Mawrth, 2021.

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, nid oedd y Cynghorydd John Griffith yn bresennol ar gyfer y drafodaeth na'r bleidleisio arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn gais ôl-weithredol i gadw a chwblhau'r sied amaethyddol sydd wedi'i chodi ar y tir, ynghyd â gosod ffos gerrig. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, roedd un llythyr gyda sylwadau wedi'i dderbyn sy'n codi'r materion sydd yn cael sylw yn yr adroddiad. Mae'r adeilad sy'n destun y cais wedi'i godi’n rhannol y tu ôl i'r Adeiladau Rhestredig Gradd II sy'n rhan o grŵp fferm cyflawn gyda'r eiddo, ac er gwaethaf pryderon cychwynnol am yr effaith ar yr adeiladau rhestredig oherwydd lliw'r cladin ar yr adeilad, mae Ymgynghorydd Treftadaeth y Cyngor wedi cadarnhau ers hynny bod y cynllun yn dderbyniol yn dilyn diwygiadau a fydd yn gweld yr adeilad yn cael ei orffen mewn cladin allanol llwyd yn hytrach na gwyrdd a fydd yn lleihau ei effaith yn erbyn yr adeilad rhestredig. Nid yw'r Ymgynghorydd Tirwedd wedi codi unrhyw wrthwynebiadau gan ei fod yn ystyried y bydd lleoliad a maint yr adeilad, ynghyd â'r defnyddiau i'w adeiladu, yn sicrhau math o ddatblygiad sy'n cydweddu'n dda â'r dirwedd tra hefyd yn gydnaws â'r adeiladau rhestredig sydd gyferbyn â safle'r cais. Yn amodol ar ddefnyddio'r deunydd cladin allanol fel yr argymhellwyd gan yr Ymgynghorydd Treftadaeth, mae'r argymhelliad felly yn un o gymeradwyo. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y cysylltwyd ag ef mewn perthynas â phryderon ynghylch agosrwydd y sied amaethyddol at yr adeiladau rhestredig a'i fod yn ddiolchgar i'r Pwyllgor am gytuno i'r cais am ymweliad rhithwir â'r safle gan ei fod yn credu ei fod yn briodol - oherwydd bod hwn yn gais ôl-weithredol a bod y sied wedi'i chodi'n rhannol - i'r Aelodau gael golwg ar safle'r cais drostynt eu hunain. Ar ôl gweld y safle a'r cynnig yn yr ymweliad rhithwir, 'roedd yn cytuno ag asesiad y Swyddog, ac er bod y sied yn agosach at yr adeiladau rhestredig nag y byddai wedi bod efallai pe dilynwyd  y broses gynllunio gywir, nid oedd yn credu bod ei heffeithiau yn cyfiawnhau gwrthod y cais ac felly roedd yn hapus i gynnig cymeradwyo'r cais. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.

 

7.2 FPL/2020/164 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd o’r adeilad allanol i lety gwyliau ynghyd ag addasu ac ehangu yn Bwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 3 Mawrth, 2021, penderfynwyd bod angen ymweld â'r safle. Cynhaliwyd ymweliad rithwir ar 17 Mawrth, 2021.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol fod y cynnig wedi bod yn destun pryder mawr yn lleol am nifer o resymau gan gynnwys ei leoliad o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig a'r effeithiau ar yr ardal honno; cyflwr gwael y ffordd sy'n rhedeg heibio'r safle a'r effaith bellach arni yn sgil cynnydd tebygol yn y traffig i’r datblygiad,  ac erydiad y tir rhwng safle'r cais a'r arfordir gerllaw sy'n awgrymu y gallai'r datblygiad fod mewn perygl yn y dyfodol. Gan gyfeirio at y ffaith bod dau gais arall ar y safle hwn yn destun ymchwiliadau gorfodaeth ar hyn o bryd, gofynnodd y Cynghorydd Roberts a yw'n briodol i'r Pwyllgor fod yn penderfynu ar y cais hwn ar hyn o bryd ynteu a ddylid gohirio ystyried y cais hyd nes y ceir canlyniad yr ymchwiliadau hynny a all fod â goblygiadau i'r cynnig.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Carwyn Jones, a oedd hefyd yn Aelod Lleol, y teimladau uchod gan dynnu sylw at y ffaith, fel y dangosodd yr ymweliad rhithwir â’r safle, fod llawer o weithgaredd ar y safle, a chyda thri chais cynllunio yn mynd rhagddynt mae'n dod yn ddatblygiad sylweddol; mae yna deimlad yn lleol bod y datblygiad yn cael ei gyflwyno fesul tipyn a cham wrth gam yn lle cyflwyno un cais cyfansawdd a fyddai'n caniatáu asesu'r effaith ar yr AHNE yn well. Mae materion diogelwch priffyrdd hefyd yn bryder gan fod y gwelededd i'r chwith o'r fynedfa i'r safle yn wael, ac mae pobl leol wedi eu cythruddo ymhellach yn sgil cau llwybr cyhoeddus y gwneir defnydd helaeth ohono.  Ychydig iawn o ymgysylltu a fu gyda'r gymuned leol ac mae pobl leol yn meddwl bod y datblygwr yn gyffredinol yn eu diystyru'n llwyr.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er na wnaed unrhyw sylwadau yn dilyn y broses gyhoeddusrwydd, fod pryderon yn lleol ynghylch y cynnig fel y cawsant eu cyfleu gan yr Aelodau Lleol. Mae safle'r cais wedi'i leoli yn y cefn gwlad agored mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig. Mae'r adeilad allanol sy'n destun y cais yn adeilad rhestredig gan ei fod yn adeilad cwrtil y tu ôl i'r prif Adeilad Rhestredig, Maenor Lleiniog. Cydnabyddir pryderon y gymuned leol ynghylch gweithgareddau ar safle'r cais gan gynnwys gwaith ar strwythurau a allai fod angen caniatâd adeilad rhestredig ac mae’r rhain yn cael sylw ar hyn o bryd. Gan dderbyn bod ceisiadau eraill mewn perthynas â'r safle yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd, rhaid ystyried pob cais yn unigol ac yn ôl ei rinweddau ei hun, ac er y gall fod materion y bydd angen cymryd camau gorfodaeth yn eu cylch, nid oes unrhyw arwydd bod gwaith yn cael ei wneud ar yr  adeilad sy'n destun y cais.  Pan fo gweithgaredd anawdurdodedig, gall ymchwiliadau gorfodaeth gymryd wythnosau lawer, gan olygu y gallai gohirio’r cais nes bod y broses honno wedi’i chwblhau arwain at oedi annerbyniol wrth benderfynu ar y cais. Mae Polisi TWR 2 sy'n delio â llety gwyliau yn nodi y caniateir cynigion ar yr amod eu bod o ansawdd uchel o ran dyluniad, cynllun a golwg, ac ar yr amod hefyd eu bod yn cydymffurfio â'r meini prawf polisi perthnasol. Ystyrir bod y cynnig yn unol â darpariaethau Polisi TWR 2 a'i fod mewn lleoliad cynaliadwy; nid ystyrir ychwaith y bydd y datblygiad yn arwain at effaith annerbyniol ar gymeriad na golwg  yr adeilad rhestredig a'r AHNE ddynodedig. Nid yw'r Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw wrthwynebiadau ac ni chodwyd unrhyw faterion pan archwiliwyd y fynedfa a'r ffordd fel rhan o'r ymweliad rhithwir â'r safle. Mae caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer y datblygiad hwn wedi'i roi ac felly'r argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch sut y byddai'r cynnig o fudd i'r gymuned leol ac yn cefnogi'r economi leol yn unol â disgwyliad Polisi PS14, eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y derbynnir bod  creu llety twristiaeth o ansawdd uchel yn hwb i'r economi leol trwy ddod â refeniw ychwanegol i'r ardal leol; mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch y ddarpariaeth o lety o'r fath yn yr ardal, cadarnhaodd y Swyddog fod cynllun busnes wedi'i gyflwyno gyda'r cais i asesu hyfywedd y cynllun a'i fod yn darparu digon o fanylion i fodloni gofynion maen prawf (v) Polisi TWR 2.

 

Wrth ystyried y cais, cyfeiriodd sawl aelod at fater diogelwch priffyrdd yn benodol a gofynnwyd a yw'r llain welededd wrth edrych i'r chwith o'r fynedfa yn cydymffurfio â safonau priffyrdd.

 

Dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod y cynllun yn dangos bod y troad yn y ffordd i’r chwith o’r safle rhwng 60 a 70m o'r fynedfa ac y byddai angen rhyw syniad o gyflymder traffig ar y rhan hon o'r briffordd fel y cadarnhawyd gan arolwg cyflymder er mwyn gallu darparu cyngor ynghylch digonolrwydd y llain welededd ac nad oedd y wybodaeth hon ar gael iddo ar hyn o bryd ac nad oedd y mater wedi'i godi mewn dogfennau blaenorol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle'r cais eisoes yn cynnwys unedau gwyliau a bod y cais yn cynnwys trosi un adeilad allanol yn uned wyliau a fydd yn defnyddio'r fynedfa bresennol; ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau gan yr Awdurdod Priffyrdd wrth ddelio â'r cais. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyfeiriad yr Aelod Lleol at erydiad tir, cadarnhaodd y Swyddog nad yw’r adroddiad yn crybwyll erydiad tir na llifogydd ac nad oes unrhyw faterion o’r fath wedi dod i’r amlwg fel rhan o’r ymgynghoriadau.

 

Yn absenoldeb gwybodaeth bendant ynghylch digonolrwydd y llain welededd o'r fynedfa i'r safle a'r goblygiadau ar gyfer diogelwch priffyrdd, roedd y Pwyllgor am ohirio dod i benderfyniad ynghylch y cais hyd nes y derbynnir y wybodaeth hon. Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid gohirio ystyried y cais i'r perwyl hwn ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad ar y cais er mwyn i’r Pwyllgor dderbyn gwybodaeth am y lleiniau gwelededd o fynedfa safle’r cais.

(Ataliodd y Cynghorydd Eric Jones ei bleidlais)

 

7.3 FPL/2020/247 – Cais llawn ar gyfer codi 9 annedd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Stad Y Bryn, Llanfaethlu

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2021, penderfynodd y Pwyllgor y dylid ymweld â'r safle. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd ymweliad rhithwir ar 17 Mawrth, 2021.

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, nid oedd y Cynghorydd John Griffith yn bresennol ar gyfer y drafodaeth na'r bleidlais arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais am 9 annedd a bod  dau ohonynt yn fforddiadwy, a bod safle'r cais ar dir ger stad breswyl Y Bryn ac y ceir mynediad i safle'r cais trwy'r stad hefyd.  Mae caniatâd cynllunio eisoes ar gyfer datblygu 6 uned breswyl ar y safle hwn ac ystyrir bod y cais cyfredol am 3 uned arall i wneud cyfanswm o  9 uned yn dderbyniol o ran dyluniad, golwg ac effaith ar fwynderau preswyl cyfagos. Mae'r safle datblygu arfaethedig hefyd yn agos i dri adeilad rhestredig yng Nghapel Ebenezer; fodd bynnag, nid ystyrir y byddai'r cynnig yn niweidio arwyddocâd yr adeiladau hyn nac yn effeithio ar yr AHNE  sydd yn agos  i'r gogledd lle mae'n cwmpasu rhan o'r anheddiad. Derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau ac ymdrinnir â hwy yn yr adroddiad. Mae'r rhain yn cynnwys pryderon ynghylch mynediad a draenio. Mae'r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon â'r cynllun o safbwynt priffyrdd yn ddarostyngedig i'r amodau cynllunio a gynigiwyd. Er bod pryderon wedi eu codi ynghylch digonolrwydd y system draenio dwr budr, dim ond 3 uned breswyl y mae'r cais yn eu hychwanegu at y chwech sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ac nid oes gan Dwr Cymru wrthwynebiadau ar y sail hon. Mae pryderon pellach ynghylch y trefniadau draenio dŵr wyneb - mae strategaeth ddraenio wedi'i chyflwyno gyda'r cais ac mae Ymynghorydd Draenio'r Cyngor wedi cadarnhau bod y cynnig yn dderbyniol mewn egwyddor ar yr amod bod yr allfa ar gyfer y system dŵr wyneb yn briodol, ac nad yw’n wahanol i'r gyrchfan bresennol ar gyfer dŵr ffo wyneb  a bod y gyfradd dŵr ffo ar gyfer safle maes glas wedi cael ei chymhwyso i'r datblygiad arfaethedig. Yn ogystal, mae'r datblygiad yn amodol ar gytundeb y SAB (Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy) sydd yn broses ar wahân. Yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais yn amodol ar gwblhau cytundeb cyfreithiol ar gyfer darparu dwy uned fforddiadwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes ar y sail bod y Swyddogion yn fodlon â'r trefniadau draenio, sef y materion a oedd yn peri'r prif bryder yn lleol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd ar gwblhau cytundeb cyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu dwy uned fforddiadwy.

Dogfennau ategol: