Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

Cofnodion:

10.1    VAR/2020/57 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (06) (Manylion Draenio), amod (09)(Newidiadau Strwythurol) ac amod (10) (Datblygiad i'w wneud yn gwbl unol â'r cynlluniau / dogfennau a dderbyniwyd) o ganiatâd cynllunio rhif 28C202C: Cais llawn i newid defnydd stabl i annedd, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod tanc carthion er mwyn cyflwyno gwybodaeth draenio ar ôl cychwyn gwaith a newidiadau i'r cynlluniau oedd eisoes wedi eu caniatáu yn Newydd Bach, Llanfaelog, Croes

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais yw hwn i newid amodau caniatâd a roddwyd eisoes i drosi stabl yn annedd er mwyn caniatáu cyflwyno manylion draenio ar ôl i'r gwaith ddechrau, newidiadau strwythurol pellach a diwygiadau i'r estyniad. Mae gwaith ailadeiladu ychwanegol wedi'i wneud o amgylch rhai o'r agoriadau ffenestri na chawsant eu nodi o'r blaen fel rhai i'w hailadeiladu yn yr arolwg strwythurol gwreiddiol; diweddarwyd yr arolwg strwythurol i adlewyrchu'r adeilad fel y mae ar hyn o bryd. Mae'r estyniad sydd wedi'i adeiladu hefyd yn wahanol i'r un a gymeradwywyd fel y mae'r adroddiad yn ei nodi. Fodd bynnag, ystyrir bod y newidiadau yn dderbyniol ac na fyddent yn cael dim mwy o effaith ar eiddo preswyl cyfagos na'r cynllun a gymeradwywyd. Er bod y cais yn groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu ar y Cyd Lleol, y sefyllfa wrth gefn yw bod gwaith wedi cychwyn dan y caniatâd a roddwyd eisoes a bod hynny felly wedi  diogelu'r caniatâd ac, o gofio bod y diwygiadau i'r cynllun yn dderbyniol, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Kenneth Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.

 

10.2    VAR/2021/8 – Cais o dan Adran 73a i ddiwygio amod (16) (Cynlluniau wedi’u cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif 45C133B (codi 3 annedd ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau) er mwyn diwygio'r cynlluniau ar dir ger Bryn Felin, Niwbwrch. 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu'n groes i'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y  mae swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei  gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais yw hwn i amrywio'r amodau cynllunio er mwyn diwygio'r cynlluniau ar gyfer plot 3 i droi'r garej ar y llawr gwaelod yn ystafell wely a gosod 2 ffenestr ychwanegol i astudfa ar y llawr gwaelod ac ystafell wely ar y llawr cyntaf. Mae'r rhan fwyaf o safle'r cais y tu allan i ffin anheddiad Niwbwrch ac o'r herwydd mae'r cynnig yn groes i ddarpariaethau Polisi PCYFF 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Fodd bynnag, oherwydd y sefyllfa wrth gefn yn sgil y caniatâd cynllunio a roddwyd eisoes ac sydd  wrthi'n cael ei weithredu, ac oherwydd yr ystyrir bod y newidiadau a gynigir i'r cynllun yn rhai bychan ac yn dderbyniol, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd ar dderbyn y wybodaeth sy’n weddill fel y disgrifir yn yr adroddiad ac ymatebion gan yr ymgyngoreion sydd eto i ymateb.

 

10.3    VAR/2021/11 – VAR/2021/11 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 36C320A a MAO/2018/3 (Codi annedd) er mwyn newid y dyluniad diwygiedig yn Uchaf, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, ers mabwysiadu'r Cynllun  Datblygu Lleol ar y Cyd, fod Llangristiolus wedi'i nodi fel Pentref Lleol o dan ddarpariaethau Polisi TAI 4. Nid yw safle'r cais o fewn ffin ddatblygu Llangristiolus ac felly mae'n cael ei gategoreiddio fel un sydd yn y cefn gwlad agored. Fodd bynnag, mae gwaith wedi cychwyn dan y caniatâd blaenorol sydd wedi diogelu'r caniatâd a rhoddwyd tystysgrif defnydd cyfreithlon. Mae dyluniad diwygiedig arfaethedig yr annedd o ansawdd uwch na'r cynllun a gymeradwywyd yn wreiddiol ac oherwydd ei fod yr un fath â ffurf y datblygiadau yn yr ardal gyfagos bydd yn cyd-fynd yn well â nhw.  Ar sail y sefyllfa wrth gefn a'r manylion dylunio gwell, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Kenneth Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: