Eitem Rhaglen

Partneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar gynnydd y Bartneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (ADY ac Ch).

 

Adroddodd yr Uwch-reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (Gwynedd a Môn) fod y Gwasanaeth ADY ac Ch integredig wedi bod ar waith er mis Medi 2017. O ran cyd-destun Deddfwriaethol, bydd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd a Deddfwriaeth Tribiwnlys Cymru (2018) yn dod i rym yn raddol o fis Medi 2021. Cadarnhawyd y Cod terfynol yn y Senedd y 23ain o Fawrth, 2021.

 

Mae tair rhan i’r adroddiad:-

 

Rhan 1 – Arfarniad Allanol y Gwasanaeth

 

Yn ystod mis Ionawr / Chwefror 2021, comisiynwyd Mrs Caroline Rees, Arolygydd Allanol Estyn, i gynnal adolygiad o Strategaeth ADY ac Ch Môn a Gwynedd. Cynhaliwyd yr adolygiad dros gyfnod o bedair wythnos. Fel rhan o'r adolygiad, cyfarfu Mrs Rees â nifer o aelodau o dîm a rhanddeiliaid ysgolion a'r awdurdod lleol. Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr yn amlinellu camau gweithredu. Cafodd crynodeb o'r adroddiad ei gynnwys yn yr adroddiad i'r Pwyllgor ynghyd â meysydd pwysig ar gyfer datblygu rhagor ar y Gwasanaeth.

 

Rhan 2 – Cymorth yn ystod cyfnod COVID (Mawrth 2020)

 

Mae'r cyfnodau clo er mis Mawrth 2020 wedi creu heriau sylweddol i blant a phobl ifanc, ac i'r holl weithlu addysg. Mae'r Gwasanaeth ADY ac Ch wedi adolygu'r model cyflenwi mewn cyfnod byr iawn i ymateb i hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r ddyletswydd statudol i roi gwasanaeth yn unol â’r Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig (2002) wedi parhau, ac mae'r gwaith trosglwyddo ar gyfer y Ddeddfwriaeth newydd hefyd wedi parhau. Bu cydweithredu cyson, hefyd, rhwng y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, Gwasanaethau Plant ac Asiantaethau Iechyd i sicrhau y cydlynir â'r gwaith hwn.

 

Yn ystod tymor yr hydref, cynhaliodd Estyn Arolygiad Thematig o ymateb Awdurdodau Cymru i’r pandemig yng nghyd-destun Dysgwyr Bregus. Canmolwyd y Gwasanaeth ADY ac Ch am y meysydd cyflenwi a chyflwynwyd yr adroddiad i'r awdurdod lleol.

 

Rhan 3 – Crynhoi

 

Yng nghyd-destun Cynlluniau Gwella Tîm unigol dros y flwyddyn ddiwethaf, yr Adroddiad Gwerthuso Allanol ac Arolygiad Thematig Estyn, daeth i’r amlwg fod cynnydd y Gwasanaeth, gyda’r isod, yn gryfderau ac yn flaenoriaethau / meysydd datblygu allweddol:-

 

Cryfderau –

 

  • Mae system Offer Datblygu Unigol electronig wedi'i datblygu, a chaiff bellach  ei defnyddio gan bob ysgol, yn dilyn cyfnod peilot llwyddiannus. Mae'r system yn hwyluso gwaith ysgolion a'r gwasanaeth yn sylweddol;
  • Mae'r Prosiect Meithrin Ysgolion yn parhau i gael ei weithredu ac mae canlyniadau cadarnhaol i’w gweld mewn addysg gynradd ac uwchradd;
  • Mae View 2 yr Adolygiad Strategol, sy'n ymwneud â Thrawsnewid Deddfwriaethol, yn gwneud cynnydd da ac mae’n parhau i sicrhau bod Ynys Môn yn barod ar gyfer y ddeddfwriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd ym mis Medi 2020;
  • Mae Strategaeth Hyfforddi'r Gwasanaeth wedi'i gosod a hyfforddiant wedi'i gyflwyno. Mae hyn bellach yn rhan annatod o rôl pob tîm;
  • Mae defnyddio TOM (Mesurau Canlyniadau Therapi) yn cael ei ymestyn ymhellach fel bod modd adrodd yn ehangach ar gynnydd plant, gan fod gofyn defnyddio dulliau cyfannol er mwyn dangos cynnydd plant a phobl ifanc sydd ag ADY;
  • Mae trefniadau ar waith i fonitro gwaith darparu ADY a defnyddio adnoddau fel rhan o waith rhesymoli’r defnydd a wneir o Gyllid ADY. Mae hyn hefyd yn rhan o waith parhaus View 2;
  • Mae nifer y tribiwnlysoedd yn parhau i fod yn isel iawn, gyda thribiwnlysoedd sy'n ymwneud â darpariaeth yn ysgolion Ynys Môn yn isel iawn o gymharu â'r raddfa genedlaethol o ran yr Awdurdod (h.y. mae’n cadarnhau y caiff darpariaeth addas ei chyflwyno);
  • Mae dangosyddion capasiti ysgolion yn parhau i bwysleisio bod ysgolion Ynys Môn yn hynod gynhwysol - dengys lefel y gwaharddiadau, nifer y disgyblion mewn darpariaeth amgen, nifer yr addysg ddewisol yn y cartref a phresenoldeb ddarlun cynhwysol iawn o gymharu â graddfeydd cenedlaethol.

 

Amlygodd yr Uwch-reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (Gwynedd a Môn) flaenoriaethau’r cyfnod nesaf fel a ganlyn:-

 

  • Parhau i gyfrannu at gynllun adfer Covid;
  • Gweithredu'r Ddeddfwriaeth ADY o fis Medi 2021 ymlaen, fydd yn canolbwyntio ar: -

 

·        Ansawdd Cynlluniau Datblygu Unigol, a sicrhau bod y plentyn yn ganolog i'r   broses;

·    Cysondeb yn y ddarpariaeth ysgol, a rôl y Cydlynydd ADY;

·    Cryfhau a symleiddio llwybrau darpariaeth 0-3 a 16-25;

·        Cynlluniau cyflenwi ar gyfer y grwpiau eraill sy'n newid o ran cyfrifoldeb yr   Awdurdod (e.e. dysgwyr sy'n cael eu haddysgu gartref, dysgwyr mewn sefydliadau annibynnol);

 

  • Parhau i addasu a datblygu Darpariaeth Cynhwysiant Eilaidd ar gyfer Medi 2021;

 

  • Bydd y Gwasanaethau hefyd yn parhau i flaenoriaethu'r Strategaeth Hyfforddi Ysgolion a Staff a dulliau o olrhain cynnydd ac effeithiolrwydd ymyriadau yn y Cynlluniau Datblygu ar-lein.

 

Adroddodd y Deiliad Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid fod y gwasanaeth ADY ac Ch wedi cael ei herio a'i adolygu a bod y ddarpariaeth ADY ac Ch, ar y cyfan, yn gadarn.

 

 

 

 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwneud y prif bwyntiau a ganlyn:

 

  • Er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at gryfderau yn y gwasanaeth ADY, roedd angen gwaith ym mhersbectif Cynhwysiant y gwasanaeth. Cytunodd yr Uwch-reolwr ADY ac Ch bod angen gwaith pellach ym mhersbectif Cynhwysiant y gwasanaeth ac angen datblygu darpariaeth ar gyfer ymddygiad ym mlwyddyn 9 a cham allweddol 4, gan gynnwys model gwell ar gyfer Pecyn 25;
  • Nodwyd yn yr adroddiad bod angen datblygu mwy ar gyfathrebu ag ysgolion, er bod modd gweld bod yno gyswllt ag ysgolion / teuluoedd plant sydd â Chynlluniau Datblygu Unigol / Datganiad. Ymatebodd yr Uwch-reolwr ADY ac Ch trwy ddweud y câi cyswllt wythnosol ei gynnal trwy gydol y pandemig, gydag aelod o staff o'r gwasanaeth yn cysylltu â'r ysgolion i adolygu'r ddarpariaeth i blant, yn enwedig y rhai sydd â Chynlluniau Datblygu Unigol / Datganiad. Roedd Paneli Cymedroli wedi parhau ac roedd gwybodaeth am y plentyn / bobl ifanc a’u gofynion yn cael eu bwydo trwy'r system Datblygu Unigol electronig sydd bellach yn cael ei defnyddio gan bob ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr Uwch-reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant bellach yn rhan o Uwch-dîm Arweinyddiaeth yr Adran Addysg, ynghyd â chynrychiolwyr ar y fforymau cynradd a strategol. Roedd cynrychiolwyr o'r gwasanaeth ADY ac Ch hefyd yn rhan o gyfarfodydd y Dalgylch gydag ysgolion;
  • Codwyd cwestiynau ynghylch effaith y pandemig ar y gwasanaeth gan y nodwyd yn yr adroddiad bod yr adolygiad o'r gwasanaeth ADY ac Ch wedi’i gynnal ar ddechrau'r pandemig. Ymatebodd yr Uwch-reolwr bod y gwasanaeth ADY ac Ch yn blaenoriaethu cefnogi'r plant / pobl ifanc gyda’u lles a’u llesiant a rhoi cefnogaeth i deuluoedd os oedd ei angen, gan fod addysg yn cael ei rhoi mewn gwahanol ffyrdd. Nododd fod y gwasanaeth a roddir i'r plant / pobl ifanc bellach yn gwbl weithredol ers tymor yr hydref. Cyflawnir swyddogaethau gweithredol y gwasanaeth yn rhithwir er mwyn cynnal Paneli Cymedroli a chyfarfodydd ag ysgolion. Roedd y staff ADY ac Ch bellach yn gweithio yn yr ysgolion yn hytrach na gweithio’n rhithwir ond bod gwahanol heriau i'r plant / pobl ifanc oherwydd effaith y pandemig ar addysg. O’r herwydd, roedd yn bwysig rhoi cefnogaeth i ddisgyblion a sicrhau eu bod yn cael yn ôl i’r drefn arferol o fynd i’r ysgol;
  • Codwyd cwestiynau pellach ynghylch a fyddai’r newidiadau a orfodwyd ar y gwasanaeth ADY ac Ch oherwydd y pandemig yn parhau. Ymatebodd yr Uwch-reolwr mai'r arfer gorau a sefydlwyd oedd bod cydlynydd un cyswllt o'r gwasanaeth ADY ac Ch yn delio ag unrhyw ymholiadau gan ysgolion ac y cynhelir trafodaethau yn wythnosol mewn perthynas ag unrhyw bryderon. Wedi hynny, gallai’r Cydlynydd drosglwyddo unrhyw broblemau ac unrhyw gymorth ychwanegol i'r gwasanaeth ADY ac Ch.
  • Codwyd cwestiynau ynghylch sut y gellid cryfhau gwaith y Gwasanaeth ADY ac Ch ymhellach. Ymatebodd yr Uwch-reolwr bod y bartneriaeth rhwng Gwynedd a Môn wedi blaenoriaethu agwedd y gwasanaeth oedd yn darparu cynhwysiant ac y byddai’r gwaith yn cael ei wneud gyda'r Gwasanaeth Plant. Rhagwelid y byddai’n cryfhau'r gwasanaeth i blant a phobl ifanc. Yn unol â'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, câi’r gwasanaeth arbenigol ei gryfhau gyda chyfleoedd i bobl hyfforddi fel Seicolegydd Addysg ar gyfer athrawon â nam ar eu clyw a'u golwg; byddai’n fodd i recriwtio staff lleol a dwyieithog yn yr ardaloedd hyn, ynghyd ag arbenigwr iaith arwyddo a lleferydd;
  • Codwyd cwestiynau gan fod y Gwasanaeth ADY ac Ch yn gallu monitro plant sy'n dysgu gartref. Ymatebodd yr Uwch-reolwr gan ddweud y gwelwyd cynnydd ym mis Medi 2020 pan ddatgofrestrodd rhieni eu plant o wasanaeth addysg yr awdurdod lleol oherwydd y pandemig. Byddai’n rhaid i rieni oedd yn dadgofrestru eu plant gymryd cyfrifoldeb am addysg eu plant. Nododd y byddai canllawiau statudol yn dod i rym ym mis Medi 2022 i fonitro addysg disgyblion a addysgwyd gartref. Cynhaliwyd cynhadledd rithwir i rieni disgyblion a addysgir gartref. Roedd nifer fawr yn y gynhadledd a châi cynhadledd rithwir arall ei chynnal cyn diwedd y tymor ysgol hwn;

·      Cyfeiriwyd at y ffaith ei bod yn dal i gymryd amser maith i nodi anghenion ychwanegol ac anghenion niwroddatblygiadol plentyn. Codwyd cwestiynau ynghylch y cyfnod aros cyfredol i blentyn gael diagnosis o anghenion dysgu ac anghenion niwroddatblygiadol a chael gweld seicolegydd addysg. Ymatebodd yr Uwch-reolwr bod Tîm y Seicolegydd yn gweithio'n agos gyda'r ysgolion ac nad oedd ganddynt restr aros i weld plant. Y bwrdd iechyd lleol oedd yn delio â'r anghenion niwroddatblygiadol ac roedd trafodaeth wedi bod ar i blant gael eu gweld yn gynharach. Nododd fod gwell cyfathrebu rhwng y tîm ADY ac Ch a'r adran niwroddatblygiadol o ran canfod a nodi anghenion y plentyn. Gofynnodd yr aelodau am i enghreifftiau o astudiaethau achos gael eu rhoi i'r Pwyllgor hwn pan gyflwynid adroddiad diweddaru ar y gwasanaeth ADY ac Ch.

·      Dywedwyd nad oedd y gwasanaeth hwn wedi gweld achosion o her gyfreithiol ar Ynys Môn yn ystod y pandemig. Mynegodd yr aelodau nad oedd gan fwyafrif y rhieni'r profiad o herio gwasanaeth o'r fath. Ymatebodd yr Uwch-reolwr bod modd rhoi cefnogaeth trwy SNAP Cymru i asesu plant yn statudol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi'r cynnydd hyd yma gyda gwaith y Bartneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant;

·           Nodi ymateb y Bartneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant i’r argymhellion a nodwyd gan yr Ymgynghorydd Allanol fel rhan o’r arfarniad diweddar.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

 

Dogfennau ategol: