Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2020/21

Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o'r Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2020/21.

 

Yn gyntaf roedd Arweinydd y Cyngor yn dymuno mynegi’i diolch i staff y Cyngor am eu hymrwymiad a’u gwaith caled i ddiogelu cymunedau lleol ar yr Ynys yn ystod y pandemig covid-19.

 

Amlygodd Arweinydd y Cyngor y cynnydd a gyflawnwyd fel a ganlyn:-

 

·      Ymateb i’r pandemig Covid-19:-

 

·      Mae Medrwn Môn a Menter Môn wedi cefnogi’r Cyngor i ddarparu cefnogaeth i gymunedau lleol gyda thros 900 o wirfoddolwyr yn cymryd o’u hamser i gefnogi’r cynlluniau tro da niferus sydd ar waith;

·      Gweithiodd yr Awdurdod yn agos gyda Banciau Bwyd yr Ynys sydd wedi cynnig gwasanaeth drwy gydol yr argyfwng;

·      Dros gyfnod y Nadolig daeth yr asiantaethau at ei gilydd i gynnig hamperi bwyd, anrhegion a chinio Nadolig i drigolion mewn angen;

·      Mae gweithwyr y cyngor wedi addasu i weithio o’r cartref ac ar ddechrau’r pandemig sefydlwyd llinell ffôn 7 diwrnod o’r wythnos i gefnogi’r bobl fwyaf bregus yn y gymuned;  

·      Sefydlwyd tîm olrhain yn Ynys Môn fel ardal beilot yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru. Roedd y gwaith hwn yn hanfodol i ddiogelu cymunedau ar yr Ynys yn ystod yr achosion cyntaf mewn ffatri yn Llangefni;

·      Rhoddwyd system talu grantiau busnesau, cinio ysgol, hunan-ynysu, a thâl gweithwyr gofal yn ei le.

 

·      Gwaith Arferol:-

 

·      Gosodwyd cyllideb eleni gyda’r ail godiad treth Cyngor isaf yng Nghymru;

·      Buddsoddwyd mewn cynllun hyfforddeion, ariannu cynlluniau newid hinsawdd ac arian ychwanegol tuag at dwristiaeth;

·      Fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru agorwyd canolfannau gofal plant yn Ysgol Esceifiog ac Ysgol Tywyn;

·      Mae datblygu tai wedi parhau gyda 21 o gartrefi cymdeithasol newydd wedi’u gosod. Hefyd, prynwyd 18 o gyn dai Cyngor yn ôl i  stoc dai’r Awdurdod. Mae 49 o dai wrthi’n cael eu hadeiladu nawr ar yr ynys ac mae cynlluniau ar waith i droi adeiladau yn ôl i fod yn aelwydydd;

·      Mae’r Awdurdod wedi gweithio drwy  fabwysiadu strategaeth gorfforaethol mewn perthynas â newid hinsawdd. Gwelwyd buddsoddiad trwy osod boeleri a phaneli solar newydd mewn ysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

 

·      Gwaith Rhanbarthol a Chenedlaethol

 

·      Dywedodd yr Arweinydd ei bod wedi sicrhau llais cryf i Ynys Môn yn ystod trafodaethau cenedlaethol. Mae Arweinyddion o bob cwr o Gymru wedi cyfarfod bron yn wythnosol ers cychwn yr argyfwng er mwyn rhannu pryderon a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru. Yn ychwanegol i hyn maent wedi cyfarfod gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru a'r Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod pryderon lleol yn cael eu hadnabod a bod ymateb amserol gan y Llywodraeth;

·      Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae Arweinwyr y chwe Chyngor yng Ngogledd Cymru wedi cwrdd â Chadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cyngor holi’r Arweinydd ynglŷn â chynnwys yr Adroddiad Blynyddol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Rogers at y pandemig a nododd ei fod wedi cael effaith arswydus ar bobl, yn enwedig pobl ifanc. Aeth ymlaen i ddweud bod problemau wedi bod â’r system ffôn sydd yn galluogi’r cyhoedd i gysylltu â Swyddfeydd y Cyngor. Ymatebodd y Deilydd Portffolio Busnes Corfforaethol ei fod yn gwerthfawrogi bod problemau wedi bod gyda’r system ffôn yn ystod y pandemig, fodd bynnag mae gwaith ar y gweill i ddelio â’r mater hwn. Roedd y Cynghorydd A M Jones yn dymuno cael gwybod beth oedd yr ‘amserlen’ arfaethedig ar gyfer diweddaru’r system ffôn gan fod nifer o gwynion wedi’u derbyn gan y cyhoedd ynglŷn â’r mater hwn cyn y pandemig. Dywedodd yr Arweinydd bod yr Awdurdod yn delio â system ffôn y Cyngor a bod trefniadau ar waith ar hyn o bryd i wella’r system.  Dywedodd nad oedd yn sicr ar hyn o bryd, oherwydd y pandemig, tan pryd y byddai staff yn parhau i weithio o’r cartref a’i bod yn bwysig bod y system ffôn yn gallu addasu fel y gellir ateb galwadau yn Swyddfeydd y Cyngor a chan staff sydd yn gweithio o’r cartref.  

 

Roedd y Cynghorydd A M Jones yn dymuno gwybod pryd y byddai’r Cyngor yn ailymgynnull yn Swyddfeydd y Cyngor i barhau â’r broses ddemocrataidd.  Holodd pryd y byddai  ‘Cyswllt Môn’ yn ail-agor i’r cyhoedd. Ymatebodd yr Arweinydd bod dychwelyd i barhau â’r broses ddemocrataidd wrthi’n cael sylw a bod staff hefyd yn dymuno dychwelyd i weithio yn Swyddfeydd y Cyngor. Nododd bod cyfarfodydd ZOOM a TEAMS wedi bod yn llwyddiannus a bod cynnal cyfarfodydd â rhai Aelodau Etholedig ar-lein ac Aelodau Etholedig eraill yn Siambr y Cyngor hefyd yn bosibilrwydd. Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud bod y dasg o ail-agor cyfleusterau  ‘Cyswllt Môn’ yn cael sylw ar hyn o bryd ond bod rhaid deall na  fydd yr un cyfleusterau ar gael oherwydd y sefyllfa bresennol yn sgil y pandemig.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ategol: