Eitem Rhaglen

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT)

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai gan gynnwys Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2021 i 2051, i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyriaeth a’i gymeradwyaeth.

 

Rhagflaenodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau ei gyflwyniad i’r Cynllun Busnes CRT drwy ddiolch i staff y Gwasanaeth Tai am yr adroddiad a’r Cynllun ac am eu parodrwydd i newid y ffordd yr oeddent yn gweithio mor sylweddol yn ystod cyfnod y pandemig er budd unigolion bregus yr Ynys a thenantiaid y Gwasanaeth Tai. Mae’r Cynllun Busnes yn rhoi trosolwg o sut mae’r Gwasnaeth Tai wedi addasu ei wasanaethau er mwyn parhau i gefnogi ei denantiaid a phreswylwyr fel rhan o’r weledigaeth ac uchelgais adferiad Covid-19 ac mae’r canlynol ymysg y pwyntiau amlycaf -

 

           Disgwylir cwblhau 58 o dai cyngor newydd yn ystod y flwyddyn, o fewn 5 datblygiad sef Rhosybol, Llanfachraeth, Amlwch a Chaergybi ble mae dau ddatblygiad. 

           Y caffaeliad o 15 o dai ychwanegol sydd wedi ei gynllunio drwy brynu cyn eiddo’r cyngor yn ôl a’u gwerthwyd drwy’r Hawl i Brynu.

           Y gwaith gwella ac uwchraddio mewn 53 eiddo yn ystâd Min y Môr yn Aberffraw ac ystadau Awel y Môr a Trem y Môr yn Rhosneigr.

           Datblygiad arloesol a’i gefnogir gan grant y RhaglenÔl-osod er mwyn OptimeiddioLlywodraeth Cymru a fydd yn golygu y bydd pympiau gwres ffynhonnell aer hybrid yn cael eu treialu mewn 19 cartref ym Mhont y Brenin, Llangoed, fel rhan o gynllun peilot Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer. Bydd y rhain ymysg y cartrefi cyntaf yng Nghymru i gael Bydd y rhain ymhlith y cartrefi cyntaf yng Nghymru i gael eu gosod gyda'r system gwresogi hybrid newydd.

 

Adroddodd Bennaeth y Gwasanaeth Tai fod y Cynllun Busnes yn rhoi sylfaen gadarn o ran symud ymlaen a chyflawni blaenoriaethau'r Gwasanaeth, a’i raglen datblygu tai cyngor. Mae stoc tai'r Cyngor ar hyn o bryd yn 3,852 uned (proffil stoc yn 3.1 o’r Cynllun) ac erbyn diwedd y Cynllun Busnes bydd cyfanswm y stoc wedi cyrraedd 5000 o unedau yn seiliedig ar gynllun datblygu sy’n ceisio datblygu 45 o unedau tai cyngor newydd yn flynyddol.  Mae’r CRT hefyd yn edrych i gyflawni'r drydedd raglen tai gofal ychwanegol ar yr Ynys a fydd yn ddatblygiad 40 uned yn ardal Aethwy; disgwylir i’r gwaith ar y datblygiad hwn gychwyn yn 2022/23. Cynghorodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai, gan fod Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar foddhad tenantiaid, mi oedd y Gwasanaeth Tai yn falch o weld canlyniad yr Arolwg Boddhad Tenantiaid ai gyhoeddwyd wythnos diwethaf gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn ystyried barn yr holl denantiaid Cymdeithas Tai ynghyd â thenantiaid yr 11 cyngor yng Nghymru sydd wedi cadw eu stoc tai; rhoddodd yr arolwg Gyngor Ynys Môn yn gyntaf o’r cynghorau o ran ansawdd y tai, ac yn ail am gynnal a chadw, am wrando ar denantiaid, ac am foddhad cyffredinol tenantiaid. Yn ogystal, yn ôl data Dangosydd Perfformiad a gafodd eu rhyddhau yn ddiweddar, mae Gwasanaeth Tai Ynys Môn gyntaf yng Nghymru am gasglu incwm rhent.

 

Ynghyd â chroesawu’r Cynllun Busnes CRT fel sail gweledigaeth y Gwasanaeth am yr ugain mlynedd nesaf yn seiliedig arCartrefi o Ansawdd: cymunedau cynaliadwy’, fe ganmolodd y Pwyllgor Gwaith y Gwasanaeth Tai am y gwaith mae’r gwasanaeth wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf fel gwasanaeth arloesol gyda ffocws ar y cwsmeriaid sydd wedi ymrwymo i ddarparu tai fforddiadwy ac o ansawdd ar draws Ynys Môn, ac mi nododd yr Aelodau eu bod yn edrych ymlaen at wireddiad y Cynllun. Mi wnaeth aelodau’r Pwyllgor Gwaith hefyd gydnabod yr amryw o ffyrdd mae’r Gwasanaeth Tai a’i staff wedi cyfrannu dros y flwyddyn ddiwethaf at yr ymateb i’r argyfwng pandemig ac yn benodol am arwain ar yr ymateb cymunedol Covid-19.

 

Penderfynwyd -

 

           Cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2021-2051 ac yn arbennig cyllideb y CRT ar gyfer 2021-2022 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

           Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer Tai am 2021-2022 fel y’i nodir yn y Gyllideb Gyfalaf.

Dogfennau ategol: