Eitem Rhaglen

Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 4 2020/21

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2020/21 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol yr adroddiad sy'n portreadu’r sefyllfa ar ddiwedd i flwyddyn nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen, wrth reoli’r pandemig Covid-19, a pharhau i gyflawni ei rwymedigaethau o ran dyletswyddau. Yn ystod Chwarter 4 parhaodd Cymru i fod dan gyfyngiadau symud cenedlaethol a gwelodd Ynys Môn ei nifer uchaf o achosion cadarnhaol o Covid 19 yn ogystal ag ymlediad ar Ynys Cybi a gafodd ei reoli'n gyflym ac yn llwyddiannus. Er gwaethaf yr effaith y mae pandemig Covid 19 a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig wedi'i chael ac yn parhau i'w chael ar wasanaethau'r Cyngor, mae 87% o'r DP Iechyd Corfforaethol yn parhau i berfformio'n dda yn erbyn targedau. Mae'r perfformiad o ran rheoli absenoldeb staff wedi rhagori ar y targed ac mae'n un o'r ychydig feysydd lle mae effaith Covid-9 wedi arwain at welliannau. Er bod yr holl ddangosyddion o dan yr is-bennawd gwasanaethau digidol wedi gweld perfformiadau sydd wedi rhagori ar ganlyniadau blynyddol blaenorol yn ystod y pandemig roedd nifer y taliadau ar-lein a wnaed ar gyfer y tâl newydd am gasglu gwastraff gwyrdd yn siomedig ac yn ei dro arweiniodd at bwysau sylweddol ar system ffôn y Cyngor yn ystod cyfnodau ym mis Mawrth, 2021. Byddwn yn dysgu gwersi yn sgil y profiad. Bydd Cyswllt Môn, derbynfa’r Cyngor, yn ailagor i'r cyhoedd ar sail apwyntiad yn unig o 28 Mehefin 2021. Mae sefyllfa ariannol y Cyngor yn gadarn ar ôl dod â'r flwyddyn i ben gyda sefyllfa o danwariant, yn bennaf oherwydd y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i dalu am gostau'n gysylltiedig â pandemig ac incwm a gollwyd.

 

Gorffennodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol ei gyflwyniad i'r adroddiad drwy dalu teyrnged i holl staff y Cyngor sydd, yn ogystal â helpu'r Cyngor i ymateb i'r pandemig, wedi cynnal lefelau perfformiad ym musnes y Cyngor o ddydd i ddydd wrth orfod addasu'n gyflym i amgylchedd gwaith sydd wedi newid mewn blwyddyn eithriadol o heriol. Cynigiodd y dylid cofnodi gwerthfawrogiad y Pwyllgor Gwaith yn ffurfiol.

Cytunodd Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid fod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn anodd ond bod staff wedi ymateb i'r heriau a ddaeth yn ei sgil; bydd y Cyngor yn defnyddio ei brofiadau o ddelio â'r pandemig a'r heriau y mae wedi'u hwynebu yn ystod y flwyddyn i symud ymlaen i'r normal newydd.

 

Adroddodd Rheolwr Sgriwtini ar brif bwyntiau trafod cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 7 Mehefin 2021 a fu’n craffu ar adroddiad cerdyn sgorio Chwarter 4 2020/21. Cydnabu'r Pwyllgor Sgriwtini fod y Cyngor wedi perfformio'n dda o dan yr amgylchiadau a bod hynny i’w briodoli i ymdrechion staff ac arweiniad ac arweinyddiaeth Uwch Reolwyr; nododd y Pwyllgor, lle'r oedd perfformiad wedi bod yn is na'r targed, mai'r rheswm am hyn yn bennaf oedd effaith Covid 19 a bod mesurau lliniaru ar waith i sicrhau gwelliant. Trafodwyd y system gyfathrebu â'r Cyngor, yn benodol capasiti'r system ffôn yn ogystal â hwyluso mynediad cyhoeddus i'r canolfannau ailgylchu gyda chadarnhad y byddai ymweliadau heb eu harchebu ymlaen llaw yn cael eu treialu yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mhenhesgyn. Nodwyd perfformiad ariannol y Cyngor ac er i'r tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn ar y gyllideb refeniw gael ei groesawu, roedd y Pwyllgor yn ymwybodol y gallai cyllideb y Cyngor ddod o dan bwysau yn y dyfodol os bydd y galw am wasanaethau'n cynyddu o ganlyniad i'r pandemig ac os bydd setliadau ariannol yn is na'r disgwyl.   

 

Mynegodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith eu diolch a'u gwerthfawrogiad i staff o fewn eu meysydd portffolio penodol a ledled y Cyngor cyfan gan gydnabod na fyddai'r Cyngor wedi gallu delio â'r pandemig a chynnal perfformiad gwasanaethau'r Cyngor heb eu gwaith caled a'u hymrwymiad.

 

Penderfynwyd -

 

·        Derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 4, 2020/21, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.

·        Cofnodi diolchiadau a gwerthfawrogiad y Pwyllgor Gwaith o ymdrechion a gwaith caled holl weithlu’r Cyngor dros y flwyddyn 2020/21 wrth gynnal perfformiad tra’n ymateb i bandemig Covid 19.

 

Dogfennau ategol: