Eitem Rhaglen

Monitro’r Gyllideb Refeniw - Chwarter 4, 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyngor hyd yma a'r alldro disgwyliedig ar gyfer 2020/21 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor ar gyfer 2020/21, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa'r Dreth Gyngor, yn danwariant o £4.204m oherwydd effaith pandemig Covid 19 ar ddarparu gwasanaethau arferol a'r cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i helpu cynghorau i ddelio â'r pandemig. Mae'r canlyniad hwn yn cyd-fynd yn bennaf â sefyllfa cynghorau eraill Gogledd Cymru sydd, am yr un rhesymau, yn bennaf oherwydd cyllid hwyr gan Lywodraeth Cymru, wedi nodi tanwariant ar ddiwedd Chwarter 4.  Mae'r tanwariant yn golygu bod balansau cyffredinol y Cyngor yn £11.6m ac er bod hon yn sefyllfa iach iawn i fod ynddi, byddai'n annoeth ei defnyddio fel cyfle i wario fel y mynnwn; bydd y broses adolygu gwasanaethau yn dechrau cyn bo hir a bydd gofynion a dyheadau pob gwasanaeth yn cael eu hystyried yn ogystal â'r opsiynau ariannol. Mae'r rhagolygon o ran pa mor hir y bydd pandemig y Coronafeirws yn para a beth fydd ei effaith ar gyllidebau'r Cyngor yn parhau i fod yn ansicr yn ogystal â pharhad a lefel cymorth ariannol Llywodraeth Cymru, felly mae angen cadw digon o arian wrth gefn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 nad yw blwyddyn ariannol 2020/21 wedi bod yn flwyddyn arferol gan fod Covid 19 wedi cael effaith sylweddol ar gyllid y Cyngor. Mae'r gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru - £6m i dalu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â Covid a £2.6m ar gyfer colli incwmi'w groesawu'n fawr, heb y cymorth hwn byddai sefyllfa ariannol y Cyngor wedi bod yn llawer gwaeth - tua £4m o orwariant. Balansau cyffredinol y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn yw £11.6m sy'n cyfateb i 8% o'i wariant refeniw net sy'n fwy na'r lefel isaf o 5% wrth gefn y cytunwyd arni gan y Cyngor. Bydd sut y gellir defnyddio'r balansau yn destun trafodaeth ond rhaid cofio bod ansicrwydd o hyd ynghylch effaith Covid 19 ar gyllidebau eleni yn ogystal â lefel y galw ar wasanaethau wrth i gyfyngiadau gael eu codi a allai arwain at wasanaethau’n gorwario a byddai'n rhaid talu am y gorwariant wedyn o'r balansau cyffredinol.

 

Gan gyfeirio at y gostyngiad yn incwm y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 tynnodd y Swyddog Adran 151 sylw at drosglwyddo eiddo domestig i eiddo hunanarlwyo ar y gofrestr Ardrethi Busnes fel ffactor sy'n cyfrannu'n sylweddol - newidiodd tua 200 o eiddo o'r fath o Dreth Gyngor ddomestig i ardrethi busnes yn ystod y flwyddyn. Gellir ôl-ddyddio'r trosglwyddiadau hyn nifer o flynyddoedd sy'n golygu bod y Cyngor nid yn unig yn colli Treth Gyngor y flwyddyn gyfredol ond rhaid iddo ad-dalu unrhyw daliadau yn ôl i'r dyddiad trosglwyddo perthnasol sy'n arwain at golli incwm sylweddol yn ystod y flwyddyn. Ar wahân i hynny, mae dyled Treth y Cyngor wedi codi o tua £2.3m i £4m; Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i dalu am y golled hon mewn incwm ac mae hyn yn cael ei gadw mewn cronfa wrth gefn sydd wedi'i chlustnodi i'w defnyddio yn ôl yr angen.

 

Mae cyfrifon drafft y Cyngor ar gyfer 2020/21 bellach wedi'u cyhoeddi ac maent yn destun archwiliad. Gallai canlyniad y broses archwilio arwain at wneud newidiadau i'r cyfrifon a allai yn eu tro arwain at addasu cyfanswm balans y gronfa gyffredinol.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y Panel, wrth graffu ar adroddiad cyllideb refeniw Chwarter 4, wedi mynegi pryder ynghylch erydu'r sylfaen drethi wrth i fwy o eiddo domestig newid o Dreth y Cyngor i Ardrethi Busnes. Bydd y Panel yn edrych maes o law ar yr ymateb i'r ymgynghoriad arfaethedig ar gynyddu premiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag.

 

Croesawodd Aelodau'r Pwyllgor Gwaith warged y gyllideb a'r hwb i falans cronfa gyffredinol y Cyngor ac roeddent yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gynghorau drwy gydol cyfnod y pandemig. Roeddent hefyd yn cydnabod yr angen i fod yn ofalus wrth ddefnyddio'r balansau oherwydd yr ansicrwydd o ran y galw am wasanaethau yn y dyfodol a lefelau ariannu yn y dyfodol. Er ei fod yn cydnabod bod defnyddio'r balansau i ariannu cyfleusterau/darpariaeth/eitemau newydd yn ddewis sy’n apelio, tynnodd y Pwyllgor Gwaith sylw at y ffaith bod y Cyngor yn wynebu nifer o ymrwymiadau buddsoddi o ran ei asedau presennol a bod dulliau eraill o ariannu gwariant cyfalaf ar gael ac y dylid eu harchwilio hefyd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ymhellach fod cadw lefel iach o falansau yn bwysig o ystyried bod llawer o ansicrwydd yn y dyfodol, yn enwedig effaith barhaus Covid 19 ar ffrydiau incwm y Cyngor wrth i ganolfannau hamdden barhau i weithredu islaw capasiti a llai o bobl yng nghanol trefi wrth iddynt barhau i weithio a siopa o'r cartref sy’n arwain at lai o incwm parcio. Nid yw cymorth Llywodraeth Cymru yn ddiderfyn ac ni fydd yn parhau am byth a bydd yn rhaid i'r Cyngor ystyried effaith hirdymor y pandemig ar rai o'i gyllidebau a chynllunio'n unol â hynny. Bydd cael lefel dda o gronfeydd wrth gefn i syrthio'n ôl arnynt yn caniatáu i'r Cyngor wneud yr addasiadau hynny a bydd yn lliniaru unrhyw orwario pe bai hynny'n angenrheidiol. Hefyd, mae ansicrwydd ychwanegol ynghylch setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol y flwyddyn nesaf a thu hwnt ac nid oes unrhyw arwydd o'i gynlluniau ariannol ar gyfer llywodraeth leol yn y blynyddoedd i ddod a fyddai'n helpu gydag unrhyw benderfyniadau y gallai'r Cyngor eu gwneud o ran rhyddhau balansau.

 

Yng ngoleuni'r drafodaeth a'r angen am sicrwydd tymor hir ynghylch arian gan Lywodraeth Cymru, cynigiodd y Cadeirydd ac fe'i cefnogwyd, y dylid anfon llythyr ar ran y Pwyllgor Gwaith at Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru i ofyn am arweiniad ynghylch cynlluniau ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol am y tair blynedd nesaf fel bod cynghorau'n gallu cynllunio'n strategol yn well.

 

Penderfynwyd

 

·        Nodi'r sefyllfa a ddisgrifir yn Atodiadau A a B yr adroddiad o ran perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2020/21.

·        Nodi'r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2020/21 y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

·        Nodi sefyllfa'r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.

·        Nodi'r sefyllfa mewn perthynas â'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2020/21 yn Atodiad D yr adroddiad

·        Nodi monitro costau asiantaethau ac ymgynghori ar gyfer 2020/21 yn Atodiadau DD, E ac F yr adroddiad.

·        Bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor Gwaith at Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru i ofyn am arweiniad ynghylch cynlluniau ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol am y 3 blynedd nesaf er mwyn cynorthwyo cynghorau i gynllunio’n fwy strategol am y tymor canol.

Dogfennau ategol: