Eitem Rhaglen

Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus 2000

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) a Chyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ynghylch effaith Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 (PSVAR) ar werthu seddi gwag ar gludiant ysgol a choleg i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried. Mae'r adroddiad yn nodi sut y mae'r Awdurdod yn bwriadu mynd i'r afael ag effaith y rheoliadau ar ei ddarpariaeth cludiant o'r cartref i'r ysgol.

 

Dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, FRAgs, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod PSVAR, o 1 Ionawr 2020, yn berthnasol i bob bws gyda dros 22 sedd ac yn ei gwneud yn ofynnol i gerbydau fod yn hygyrch i bobl anabl. Cynigiodd yr Adran Drafnidiaeth dystysgrif eithrio i eithrio cerbydau o'r rheoliadau hynny tan 1 Ionawr, 2022; mae gan yr Awdurdod dystysgrif eithrio ar gyfer ei fysiau ysgol sy'n gwerthu dros 20% o'r seddi sydd ar gael tan ddiwedd mis Gorffennaf a thystysgrif eithrio tan ddiwedd 2021 ar gyfer y gweddill. Ar gyfartaledd amcangyfrifir bod yr incwm a gynhyrchir drwy docynnau bws tua £66,000 y flwyddyn (yn seiliedig ar y blynyddoedd rhwng 2014/15 a 2019/20). Mae ymholiadau a wnaed gyda rhai o'r gweithredwyr bysiau ysgol ar Ynys Môn yn dangos y byddai'n costio rhwng £5,000 a £7,000 y flwyddyn fesul contract i fodloni'r rheoliadau; byddai'n rhaid trosglwyddo'r gost hon i'r Awdurdod ar gyfer pob contract a ddyfynnir. Yn seiliedig ar y ffigurau hyn, byddai tendro'r 54 contract presennol ar Ynys Môn yn creu cost flynyddol ychwanegol o rhwng £270,000 a £378,000. Fodd bynnag, byddai peidio â chodi ffi yn golygu y gellir ymestyn y trefniadau presennol gyda gweithredwyr bysiau tan fis Hydref 2022 pan fyddai angen ail-dendro beth bynnag oherwydd hyd y contractau presennol. Gan na fyddai taliad yn newid dwylo, ni fyddai'r rheoliadau'n berthnasol.

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith y gallai peidio â chodi ffi olygu y byddai myfyrwyr ychwanegol o bosibl yn dymuno defnyddio'r ddarpariaeth. Mae'r adroddiad yn rhoi crynodeb o nifer y seddi ar fysiau a nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion uwchradd ar Ynys Môn. Mae'r Awdurdod yn bwriadu rheoleiddio'r sefyllfa drwy sicrhau bod pob disgybl cymwys yn cael tocyn bws y byddai'n gorfod ei ddangos er mwyn teithio. I'r perwyl hwn mae'r Awdurdod yn ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno system tocynnau bws.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) mai'r meddylfryd i ddechrau ledled Cymru a Lloegr oedd na fyddai contractau bysiau ysgol caeedig yn dod o fewn cwmpas y PSVAR ond yn ystod haf 2019 cadarnhaodd yr Adran Drafnidiaeth y byddai'r rheoliadau'n gymwys i unrhyw wasanaeth lle telir am deithio, boed hynny'n uniongyrchol i'r gyrrwr neu drwy'r Awdurdod Lleol – mae gan yr Awdurdod dystysgrif eithrio tan fis Ionawr, 2022. Ar gyfer disgyblion ag anghenion arbennig, mae'r Awdurdod ar hyn o bryd yn darparu cludiant mewn tacsi o gartref y disgybl i fuarth y sefydliad addysgol y mae'r disgybl yn ei fynychu rhag effeithio ar ei allu i gael mynediad at addysg. Bydd y cynnig yn weithredol am flwyddyn ac ar ôl hynny caiff ei adolygu; rhagwelir y bydd sefyllfa drafnidiaeth wedi sefydlogi erbyn hynny, bydd prisiau'n fwy cystadleuol a bydd y farchnad mewn gwell sefyllfa i wneud y ddarpariaeth briodol.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr opsiynau wedi cael eu hystyried gan is-grŵp ac ystyrid mai'r trefniant arfaethedig oedd yr opsiwn gorau o dan yr amgylchiadau. Byddai cyflwyno system tocynnau bws yn sicrhau manteision o ran caniatáu i'r Awdurdod wybod yn union pa ddisgyblion sy'n defnyddio'r gwasanaeth o safbwynt iechyd a diogelwch.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, ar ôl pwyso a mesur yr opsiynau o safbwynt ariannol, mai'r cynnig fel y'i cyflwynwyd yw'r ffordd fwyaf ymarferol o ymdrin ag effaith y rheoliadau ar gludiant o'r cartref i'r ysgol tan fis Hydref 2022.

 

Penderfynwyd –

 

·        Nad yw’r Awdurdod yn codi ffi teithio ar ddisgyblion anstatudol a myfyrwyr Addysg Bellach Môn am y flwyddyn academaidd 2021/22.

·        Fod yr Awdurdod yn cyfyngu’r hawl dim ond i’r pellter statudol ar gyfer 2021/22.

·        Fod y Cyngor yn buddsoddi mewn system electroneg er mwyn rheoli pa ddysgwyr sydd yn gymwys ar gyfer teithio ar fws ysgol fel yn rhan FF yr adroddiad; mae’r Pwyllgor Gwaith yn cytuno i ariannu’r cerdiau mewn egwyddor ac yna i gynllun gael ei ddatblygu yn ystod blwyddyn ysgol 2021/22.

Dogfennau ategol: