Eitem Rhaglen

Effaith Covid ar Wasanaethau Digartrefedd

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth (Tai) oedd yn amlinellu sut yr ymatebodd y Gwasanaeth i ddigartrefedd yn ystod y pandemig i'r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r materion yr ymdriniwyd â nhw o ran nifer yr aelwydydd/unigolion a oedd yn datgan eu bod yn ddigartref yn ystod y cyfnod hwn; yr heriau i ganfod a darparu llety brys; y problemau iechyd meddwl a chorfforol a brofir gan lawer o'r rhai sy'n ceisio cymorth a phwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth wrth ymateb i'r argyfwng.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) fod y papur yn cyflwyno trosolwg o'r heriau y mae'r Gwasanaeth Tai yn eu hwynebu wrth ymateb yn gyflym i'r pandemig drwy ddarparu llety diogel i amddiffyn pobl ddigartref a lleihau’r siawns o drosglwyddo'r feirws yn y gymuned. Fel gyda llawer o wasanaethau eraill, bu'n rhaid darparu'r Gwasanaeth Digartrefedd mewn ffordd wahanol gyda'r holl weithgarwch yn cael ei gynnal dros y ffôn neu ar lwyfannau digidol gyda chymorth yn cael ei ddarparu o bell a thrwy ddarparwyr cymorth y gwasanaeth. Mae'r cyfnod wedi darparu cyfleoedd newydd i ymgysylltu ag unigolion y mae'r gwasanaeth wedi bod yn ceisio eu cefnogi yn ogystal â gyda phrif bartneriaid gyda phob sefydliad yn cyd-dynnu i sicrhau digon o gapasiti. Roedd darparu digon o unedau i ddiwallu'r angen yn her oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y bobl oedd yn ceisio cymorth; mae'r llif cynyddol o bobl sy'n ceisio cymorth wedi parhau ers hynny gyda'r gwasanaeth eisoes wedi delio â 100 o geisiadau o'r fath. Un o'r heriau mwyaf yw gallu symud y rhai sy'n cael eu cartrefu mewn llety brys i dai parhaol; mae prinder cyfleoedd i symud ymlaen yn ogystal â rhenti uchel yn golygu bod yr Awdurdod yn cefnogi unigolion am gyfnodau hirach. Mae'r Tîm hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dod atynt yn dioddef o broblemau cymhleth gan gynnwys problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a thrais domestig. Mae pobl eraill wedi dod atynt mewn cyflwr bregus iawn gyda darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer bwyd, pecynnau cychwyn tenantiaeth, dodrefn sylfaenol a phecynnau i gynorthwyo os oes angen hunanynysu oherwydd Covid.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) ymhellach

 

           Bod pandemig Covid 19 wedi gwaethygu'r sefyllfa o ran digartrefedd gan fod cyfnodau cyfyngiadau symud estynedig wedi cael effaith ar berthnasoedd teuluol ac wedi cyfrannu at chwalu teuluoedd; maent wedi arwain at fwy o achosion o gam-drin domestig ac wedi arwain at fwy o bobl ifanc yn ceisio cymorth. Er bod y rhain yn faterion y mae'r Gwasanaeth Tai wedi arfer delio â nhw, mae argyfwng Covid 19 wedi cyfrannu at gynnydd yng ngraddfa'r heriau a wynebir.

           Bod canfyddiad bod cysgu ar y stryd yn rhywbeth sy'n effeithio ar drefi a dinasoedd mawr yn hytrach nag ardaloedd gwledig a hefyd camargraff y gall yr Awdurdod Lleol ddatrys y broblem a gorfodi unigolion oddi ar y stryd; mae'r Awdurdod yn ceisio perswadio unigolion sy'n cysgu ar y stryd i symud o'r strydoedd i lety a gwasanaethau eraill a all hefyd ddarparu cymorth. Mae’n parhau i geisio gweithio gyda phobl sy'n cysgu ar y stryd sy'n gwrthod cyngor a chymorth.

           Nad yw problemau pobl ddigartref yn cael eu datrys yn syth gan y cynnig o lety a bydd angen cymorth parhaus ar lawer i setlo i mewn i'w tenantiaeth a'i chynnal. Felly, mae ymgysylltu â sefydliadau a all gynnig cymorth ychwanegol yn allweddol i gynnal tenantiaeth yn llwyddiannus.

           Bod Cynllun Gwaith Cydweithredol y Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol sydd wedi'i atodi i'r adroddiad yn dangos yr ardaloedd hynny lle mae awdurdodau lleol Gogledd Cymru wedi bod yn cydweithio i fynd i'r afael â materion digartrefedd. Mae pob Awdurdod Lleol hefyd yn cytuno ar eu camau gweithredu lleol eu hunain i fynd i'r afael â materion yn eu hardal eu hunain.

           Bod adolygiad o gydweithio yn ystod y pandemig yn cael ei gynnal i gael adborth yn enwedig gan ddarparwyr cymorth yr Awdurdod sydd wedi cadarnhau eu gwerthfawrogiad o hygyrchedd swyddogion Cymorth Tai yn ystod y cyfnod hwn. Bu cydweithio agos a chynhyrchiol hefyd gyda'r Heddlu a gyda'r Gwasanaeth Prawf. Bydd y Gwasanaeth yn edrych ar bobl ag anghenion cymhleth nad yw dod o hyd i lety ond yn rhan o'r ateb iddynt a lle mae cydweithio ag asiantaethau partner eraill yn hanfodol.

           Er nad yw'r data sydd ar gael ar hyn o bryd yn cadarnhau cysylltiad rhwng prinder tenantiaethau preifat a chynnydd yn nifer yr ail gartrefi, mae arwydd bod rhenti'r sector preifat yn ogystal â disgwyliadau landlordiaid mewn perthynas â thenantiaethau wedi cynyddu gan ei gwneud yn anos i unigolion sy'n cael budd-daliadau gael mynediad i lety. Mae'r Gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda landlordiaid preifat i wneud llety'n hygyrch ac mae'n debygol y bydd y cynnydd mewn prynu tai i’w weld mewn amser trwy ostyngiad yn nifer yr eiddo sydd ar gael i'w rhentu; hefyd mae’n bosibl y bydd landlordiaid preifat yn penderfynu gwerthu eu heiddo mewn marchnad eiddo ffafriol.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad ar yr ymateb i Covid a digartrefedd a nodi'r wybodaeth.

 

DIM CAMAU PELLACH

Dogfennau ategol: