Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac Adroddiad Chwarter 4 Cynllun Twf

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd– adroddiad gan Gyfarwyddwr Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ynghylch yr uchod.  

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd fod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn gyfle i adfywio economi Gogledd Cymru yn dilyn y pandemig a Brexit.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod yn dymuno gweld y Bid Twf ar gyfer Gogledd Cymru yn llwyddo a bod y prosiectau yn cael eu cyflawni i gymryd mantais o’r cyllid sydd ar gael. Dywedodd fod gan yr Ynys brosiectau arloesol fel rhan o fidiau twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Rhoddodd Gyfarwyddwr Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gyflwyniad byr i’r Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

Y Portffolio Bid Twf

 

·           Amcanion Gwariant dros y 15 mlynedd nesâd - creu rhwng 3,400 a 4,200 net o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru.

·           GVA - i gefnogi cynnydd ychwanegol net GVA o rhwng £2 biliwn a £2.4 biliwn ar gyfer economi Gogledd Cymru drwy’r Bid Twf erbyn 2036.

·           Buddsoddiad – cyflawni cyfanswm buddsoddiad o hyd at £1.1 biliwn yn Economi Gogledd Cymru drwy’r Bid Twf erbyn 2036. 

 

Bwriad y Bid Twf yw adeiladu economi cynaliadwy a llewyrchus yng Ngogledd Cymru gyda’r prif amcan o gael twf cynaliadwy cynhwysol sydd yn rhan o’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Y Rhaglenni

 

  • Rhaglen Ddigidol – Cyflawni newid amlwg yn y cysylltedd digidol sydd ei angen i sicrhau y gall Gogledd Cymru fodloni galw’r defnyddwyr, cynnal

cyflymdra â gweddill y DU, datgloi potensial sectorau a safleoedd â blaenoriaeth am dwf a thanategu ecosystem arloesi ffyniannus. Creu hyd at 380 o swyddi erbyn 2036.                                       

                                         Cyfanswm Buddsoddiad £41.7m

 

  • Rhaglen Tir ac Eiddo – Mynd i’r afael â’r diffyg tir ac eiddo addas ar gyfer twf busnes a dod â safleoedd ymlaen ar gyfer datblygiadau tai. Cyflawni

gwelliannau sy’n symbylu buddsoddiad mewn safleoedd ac eiddo ym mhorthladd Caergybi a’r ardal ehangach. Creu 2,280 o swyddi erbyn 2036.                                          Cyfanswm Buddsoddiad £355.4m

 

 

  • Rhaglen Ynni Carbon Isel - Datgloi buddion economaidd prosiectau ynni carbon isel trawsffurfiol a sefydlu Gogledd Cymru fel un o leoliadau arweiniol y DU ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel, arloesedd a buddsoddi yn y gadwyn gyflenwi. Creu 980 swydd erbyn 2036. 

                                                                 Cyfanswm Buddsoddiad £668.5m

 

 

  • Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel – Cyfnerthu lleoliad Gogledd Cymru fel clwstwr gweithgynhyrchu gwerth uchel pwerus ac arloesol, sy’n adeiladu ar arbenigedd presennol ac arbenigedd byd-eang i greu sail economaidd gwerth uwch, mwy amrywiol sy’n cefnogi trosglwyddo i ynni carbon isel. Creu 180 swydd erbyn 2036.

                                                                 Cyfanswm Buddsoddiad £39.5m

 

  • Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth  – Adeiladu economi sylfaen mwy cynaliadwy, bywiog a gwydn o fewn y rhanbarth, gan wneud y gorau o gyfleoedd am gyflogaeth a ffyniant drwy ein hamgylchedd a’n tirwedd. Creu 380 o swyddi erbyn 2036.

                                                      Cyfanswm Buddsoddiad £41.3m

 

Fe wnaeth Mr Hedd Williams adrodd ar yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i’r Pwyllgor. Nododd mai ffocws y chwarter hwn oedd symud i’r cyfnod cyflawni gyda’r gwaith a gychwynnodd yn Ionawr 2021 gydag adolygiad sylfaenol o’r holl brosiectau i ail-gadarnhau amserlenni ar gyfer datblygu a darparu achosion busnes. Yn ystod Chwarter 4 cynhaliwyd nifer o weithdai, yn unol â’r canllaw Achos Busnes Gwell, i gefnogi’r datblygiad o’r achosion busnes prosiect. Mi wnaeth y ddau brosiect cyntaf gwblhau'r Adolygiadau Porth a nawr yn gweithio i roi sylw i’r argymhellion a wnaed cyn cyflwyno achosion busnes diwygiedig er ystyriaeth. Y ddau brosiect yw prosiect Morlais, dan arweiniad Menter Môn a’r prosiect Peirianneg Menter a Chanolfan Opteg dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Nododd fod dau brosiect yn adrodd fel ‘Coch’ ar hyn o bryd sef Safle Strategol Bodelwyddan oherwydd caniatâd cynllunio amlinellol yn dod i ben a Phorth Caergybi oherwydd costau yn codi ac angen i adolygu sgôp y prosiect. Mae nifer o brosiectau yn adrodd fel ‘Amber’ oherwydd prosesau datblygu busnes, sicrwydd a chymeradwyo yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl. Wedi arwyddo’r Llythyr Dyfarnu Grant ac wedi cyflwyno’r ddogfennaeth ofynnol, mae’r rhandaliad cyntaf o £16 miliwn wedi ei dderbyn gan y Llywodraethau ym mis Mawrth, 2021. Bydd yr arian hwn yn galluogi cyflawni prosiectau i ddechrau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, pan ddisgwylir ystyried a gwneud penderfyniad ar y gyfran gyntaf o achosion busnes prosiect.

 

Rhoddodd Mr Williams drosolwg o’r Adroddiad Blynyddol i’r Pwyllgor. Roedd yr Adroddiad Blynyddol ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ac fe godwyd y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Codwyd cwestiynau os oes risg o brosiectau mawr ddim yn cael eu gwireddu o fewn y Bwrdd Uchelgais Economaidd oherwydd y tensiwn sydd wedi ei adrodd rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU yn ddiweddar oherwydd penderfyniadau ynghylch nifer o faterion. Cyfeiriwyd at Gaergybi, am fod gan Lywodraeth y DU syniadau penodol o ‘borthladd rhydd’ tra bod Llywodraeth Cymru yn anghytuno. Dywedodd y Cyfarwyddwr Portffolio ei bod yn bwysig rheoli unrhyw risg sy’n codi fel rhan o’r strwythur rheoli rhaglen. Nododd ei bod yn gweithio’n agos gyda Swyddogion o Lywodraethau Cymru a’r DU ac fel partneriaeth bydd yn galluogi economi Gogledd Cymru i ffynnu. Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd ac mae costau adnoddau a chostau adeiladu wedi cael eu codi o ran y prosiectau sydd wedi eu cyflwyno er mwyn cymryd mantais o’r Bid Twf.  Pwysleisiodd fod y ddwy Lywodraeth eisiau gweld y prosiectau’n llwyddo o fewn y Bid Twf.

·           Cyfeirwyd at y dadlau o ran y fargen masnach o ran amaethyddiaeth ag Awstralia yn ddiweddar a’r effaith y gallai ei gael ar amaethyddiaeth yng Ngogledd Cymru. Codwyd cwestiynau ynghylch a yw'r Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi ystyried y mater hwn. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Portffolio bod y Bwrdd yn edrych ar arloesi ym myd amaeth o ran datgarboneiddio ac nad yw penderfyniadau'r Byrddau wedi newid oherwydd Brexit. Mae'r Bwrdd yn parhau i ystyried bod angen cefnogi busnesau gwyrdd;

·           Codwyd cwestiynau ynghylch os oes ymgynghoriad wedi ei gynnal â'r Undebau Llafur o ran creu 3,400 i 4,000 o swyddi newydd o fewn y datblygiadau prosiect sydd ynghlwm â'r Bid Twf. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Portffolio nad oedd yn ymwybodol y bu cyfarfodydd nac ymgysylltu â'r Undebau Llafur ond y byddai angen iddi drafod y mater ymhellach o fewn y Bwrdd Uchelgais.

·           Codwyd cwestiynau ynglŷn â manylion prosiectau Porth Caergybi. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Portffolio fod gan y prosiect ystod o gynlluniau e.e. Morglawdd Caergybi (buddsoddiad ar y cyd â Stena ar gyfer gwelliannau angenrheidiol i’r Morglawdd); buddsoddiad ym Mhorthladd Caergybi mewn perthynas â thir ac eiddo sydd â photensial datblygu a'r gallu i greu cyflogaeth i gefnogi economi Gogledd Cymru. Codwyd cwestiynau pellach ynghylch perchnogaeth Morglawdd Caergybi. Ymatebodd y Dirprwy Brif Weithredwr y deellir mai Stena sy'n gyfrifol am Forglawdd Caergybi ond nododd Llywodraeth y DU a Chymru bwysigrwydd y Morglawdd i Borthladd Caergybi er mwyn sicrhau ffyniant Tref Caergybi.

·           Codwyd cwestiynau ynghylch sut y mae cyllid preifat yn mynd i gael ei ddiogelu o fewn y Fargen Twf. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Portffolio bod gallu i ddenu buddsoddiad preifat o fewn y prosiect ond byddai angen sicrwydd arnynt fod y prosiect yn hyfyw iddynt fuddsoddi yn y prosiectau hyn. Nododd fod angen ymgysylltu ymhellach â'r sector preifat i ddeall y cyfleoedd y maent yn edrych i fuddsoddi ynddynt megis sectorau twf, sectorau gweithgynhyrchu lefel uwch a sectorau ynni carbon isel.

·           Codwyd cwestiynau ynghylch yr heriau neu'r cyfleoedd ychwanegol a ragwelir wrth geisio cyflawni'r prosiectau o ganlyniad i'r pandemig, a sut mae'r Bwrdd yn bwriadu rhoi sylw i'r rhain. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Portffolio ei bod yn amlwg bod y pandemig wedi effeithio'n fawr ar yr economi. Nododd fod y Bwrdd Uchelgais wedi ystyried a yw'r buddsoddiad yn y Bid Twf yn dal yn briodol ar gyfer economi Gogledd Cymru ac mae’r pandemig wedi dangos yr angen am gysylltedd digidol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Portffolio ymhellach fod angen cyllid refeniw ar gyfer sgiliau cyflogadwyedd ac i greu ymwybyddiaeth o gyfleoedd cyflogaeth ac i arwain pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau tuag at y prosiectau hyn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer 2020/21 a’r Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 ac i nodi’r cynnydd.

 

Gweithred : Fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: