Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 VAR/2021/48 – Brynteg, Llansadwrn

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKdzkUAD/var202148?language=cy

 

10.2 VAR/2021/51 – Bodafon, Llangristiolus

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKoJXUA1/var202151?language=cy

 

10.3 VAR/2021/22 - Cleifiog Fawr, Ffordd Gorad,  Y Fali

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I22WYUAZ/var202122?language=cy

 

 

Cofnodion:

10.1  VAR/2021/48 - Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (06) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2020/76 (Codi annedd) er mwyn diwygio'r dyluniad ar dir ger Brynteg, Llansadwrn

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod y cais yn cael ei gyflwyno o dan Adran 73A i ddiwygio amod (06) o ganiatâd cynllunio VAR/2020/76 i ddiwygio dyluniad yr annedd ym Mrynteg, Llansadwrn.  Mae’r cais yn groes i Bolisi TAI 6 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, fodd bynnag mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod y safle'n elwa o ganiatâd cynllunio blaenorol y gellir ei weithredu.

 

Cynigodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

10.2  VAR/2021/51 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (13) (cynlluniau wedi eu cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif 36C328B (codi annedd a garej) er mwyn diwygio cynlluniau'r garej ar dir ger Bodafon, Llangristiolus

       

         Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod y cais yn cael ei gyflwyno o dan Adran 73A i amrywio amod (06) o ganiatâd cynllunio 36C328B i ddiwygio dyluniad y garej arfaethedig, i’w gynyddu rhyw fymryn i gynnwys ail lawr ar gyfer swyddfa a stiwdio/campfa.  Nododd bod y caniatâd cynllunio blaenorol wedi’i weithredu’n gyfreithiol a chan bod sefyllfa ‘wrth gefn’ yn bodoli o hyd ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol ac yn gwella’r cynlluniau a gafodd eu cymeradwyo’n flaenorol. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Eric W Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes. 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

 

10.3  VAR/2021/22 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (strwythurau amddiffyn rhag llifogydd) o ganiatâd cynllunio rhif 49C289K/VAR yn Cleifiog Fawr, Lôn Gorad, Y Fali

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod y cais yn cael ei gyflwyno o dan Adran 73 i ddileu amod (02) (strwythurau amddiffyn rhag llifogydd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod NO49C289K/VAR.  Nododd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r Asesiad Canlyniad Llifogydd atodol sy’n ddiwygiad o’r adroddiad a gwblhawyd yn 2016.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â gostwng lefel y llawr gorffenedig 3.82m uwchlaw datwm ordnans.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith bod llifogydd yn digwydd gerllaw’r ardal gan fod y tir yn is na lefel y môr.  Ymatebodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad mewn perthynas â’r cais a’u bod yn fodlon fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor.

 

Cynigodd y Cynghorydd John Griffith bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: