Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Panel Sgriwtini Cyllid

Derbyn adroddiad ar lafar.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, adroddiad llafar ar y materion a drafodwyd yng nghyfarfod y Panel Sgriwtini Cyllid ar 9 Medi 2021, fel a ganlyn –

·         Y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22 – diweddariad Chwarter 1

 

Ar ôl derbyn cyflwyniad llafar gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ynghylch y sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 1 2021/22, nododd y Panel y canlynol –

·         Ei bod yn gynamserol dod i gasgliad ynghylch perfformiad y cyllidebau gwasanaeth ar sail data Ch1 gan y gallai llawer newid yn ystod y misoedd nesaf. Mae elfennau sy’n debygol o greu arbedion yn ystod y flwyddyn yn cynnwys lleoliadau ysgol all-sirol; incwm gwastraff gwyrdd a’r contract prydau ysgol.

·         Pwysau ar gyllidebau yn y Gwasanaethau Oedolion a’r angen i gadw llygaid hefyd ar gyllidebau’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd, er eu bod yn tanwario ar hyn o bryd.

·         Pryder ynghylch cyflwr ffyrdd a phriffyrdd ac, oherwydd sefyllfa ariannol y Gwasanaeth Priffyrdd, yr angen i ystyried cwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y ffyrdd eleni.

·         Bod yr Awdurdod yn parhau i dderbyn iawndal gan Lywodraeth Cymru am incwm a gollir o dan nifer o benawdau, gan gynnwys ffioedd parcio a chanolfannau hamdden.

 

Wrth nodi bod tanwariant yn y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22 yn Chwarter 1, penderfynodd y Panel argymell i’r Pwyllgor Sgriwtini y dylid ystyried cwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y ffyrdd eleni oherwydd sefyllfa ariannol gadarnhaol y Gwasanaeth Priffyrdd.

 

·         Cyllideb Gyfalaf 2021/22 – diweddariad Chwarter 1

 

Ar ôl derbyn cyflwyniad llafar gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth / Swyddog Adran 151, nododd y Panel bod perfformiad y gyllideb gyfalaf yn Ch1 yn adlewyrchu’r patrwm blaenorol o danwariant, gyda llithriad yn fwyaf tebygol o dan y penawdau a ganlyn –

·         Rhaglen datblygu tai'r Cyngor

·         Rhaglenni moderneiddio tai cyngor o dan y cynllun Safon Ansawdd Tai Cymru

·         Addasiadau ar gyfer yr anabl mewn ysgolion

·         Y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion

·         Cynlluniau atal llifogydd

 

Wrth nodi’r tanwariant yn y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2021/22 yn Chwarter 1, nododd y Panel y tebygolrwydd hefyd y gallai’r gyllideb gyfalaf weithredu ar amserlen wahanol yn y dyfodol er mwyn i’r gyllideb gael ei gosod yn gynt a chaniatáu i brosiectau gychwyn yn gynharach a thrwy hynny osgoi tanwariant erbyn diwedd y flwyddyn.

 

·         Adolygiad Ariannol Tymor Canolig

 

Ar ôl derbyn cyflwyniad llafar gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, codwyd y pwyntiau a ganlyn gan y Panel –

·         Y gallai nifer o ffactorau effeithio ar Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, gan gynnwys y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, chwyddiant a chodiadau cyflog, gan ychwanegu at gostau’r Cyngor.

·         Bod arbedion yn cael eu rhagweld o dan benawdau’n ymwneud â lleoliadau addysg all-sirol; incwm gwastraff gwyrdd, incwm prydau ysgol a’r rhai hynny sy’n deillio o weithio’n wahanol.

·         Yr heriau sylweddol wrth geisio rhagweld pwysau ar gostau yn y sector gofal.

·         Yr her hefyd o geisio rhagweld y ddarpariaeth ariannol angenrheidiol ar gyfer y tair blynedd nesaf.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, nododd y Panel y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â chwblhau'r Adolygiad Ariannol Tymor Canolig.

 

·           Premiwm y Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi – Ymgynghoriad ar Lefel y Premiwm

 

Ar ôl derbyn cyflwyniad llafar cynhwysfawr gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn amlinellu prif negeseuon yr ymgynghoriad diweddar ynghylch lefel y Premiwm ar ail gartrefi, nododd y Panel y canlynol –

 

·    Y derbyniwyd cyfanswm o 1,397 o ymatebion i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd dros gyfnod o 6 wythnos – 1,069 gan drigolion Ynys Môn a 261 gan berchnogion ail gartrefi.

·    Bod cyfanswm o 1,256 o ymatebwyr wedi datgan côd post ar Ynys Môn.

·    Bod Llywodraeth Cymru’n trefnu ymgynghoriad cenedlaethol ar her ail gartrefi.

·    Bod nifer o ymatebion yn cydnabod bod yr heriau yn sylweddol ac nad oedd modd ymateb iddynt drwy godi Premiwm y Dreth Gyngor yn unig. Gan fod risg uchel y bydd nifer o berchnogion ail gartrefi’n ceisio trosglwyddo eu heiddo i drethi busnes, mae angen eglurder ynghylch oblygiadau ariannol codi’r Premiwm o ran y posibilrwydd y byddai’r Cyngor yn colli incwm o’r Dreth Gyngor.

·    Roedd cydnabyddiaeth fodd bynnag na fyddai unrhyw golled ariannol i’r Cyngor oherwydd bod eiddo yn trosglwyddo i drethi busnes yn golled hirdymor oherwydd y ffordd y mae’r Llywodraeth yn cyfrifo Asesiad o Wariant Safonol pob awdurdod lleol trwy fformiwla cyllido sy’n rhoi ystyriaeth i’r incwm a gesglir o’r Dreth Gyngor.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, nododd y Panel y byddai unrhyw gynnig i newid lefel y Premiwm ar Ail Gartrefi yn destun craffu fel rhan o broses gosod cyllideb 2022/23 ac argymhellir i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y dylai’r Panel ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar her ail gartrefi, gan gynnwys rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gau’r bwlch presennol, lle gellir trosglwyddo ail gartrefi o’r system Dreth Gyngor i drethi busnes.

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid ar y materion a drafodwyd yng nghyfarfod diwethaf y Panel, nodi’r pwyntiau a ddygwyd i sylw’r Pwyllgor a diolch i’r Cynghorydd Dafydd Roberts am yr adborth.