Eitem Rhaglen

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru : Adroddiad Cynnydd Chwarter 1 - 2021/2022

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod adroddiad perfformiad Chwarter 1 yn rhoi trosolwg o gynnydd ar raglenni a phrosiectau’r Cynllun Twf. Fodd bynnag, nododd, er nad yw'n amlwg yn yr adroddiad, bod cryn dipyn o waith wedi'i wneud yn y cefndir o ran gweithdrefnau a threfniadau llywodraethu i sicrhau llwyddiant y Cynllun Twf. Yn ystod y chwarter hwn, ystyriwyd a chymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol cyntaf gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac ers hynny mae'r broses sicrwydd ar gyfer y prosiect wedi'i chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Prosiect Ynni Llanw Morlais, sy’n cael ei redeg gan Menter Môn, yn symud i’r cam nesaf ac yn cyflwyno Achos Busnes Llawn er ystyriaeth unwaith bydd y broses cydsynio wedi ei chwblhau. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y prosesau sydd wedi eu rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gadarn er mwyn sicrhau fod y prosiectau o fewn y Cynllun Twf yn cael eu craffu gan fod y ddwy Lywodraeth wedi rhoi adnoddau ariannol sylweddol. Roedd hi'n falch mai'r prosiect cyntaf i gael ei gymeradwyo oedd prosiect ar yr Ynys - Prosiect Ynni Llanw Morlais.

 

Ailadroddodd y Dirprwy Brif Weithredwr sylwadau'r Prif Weithredwr o ran y Prosiect Ynni Llanw Morlais. Dywedodd ymhellach fod y ddau Achos Busnes Amlinellol pellach - Hwb Economi Gwledig Glynllifon ai arweinir gan Grŵp Llandrillo Menai  a’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol ai arweinir gan Brifysgol Bangor, wedi dechrau’r broses gymeradwyo. Mae’r ddau brosiect wedi cwblhau eu Hadolygiadau Gateway annibynnol ac y bydd y rhain yn cael eu hadrodd yn ffurfiol o fewn adroddiad cynnydd Chwarter 2 y Pwyllgor hwn. Mae’r rhan fwyaf o’r rhaglenni yn adrodd fel Amber ar hyn o bryd yn dilyn adolygu’r amserlenni datblygu achosion busnes gan arwain at oedi o gymharu â’r amserlen a’i hamlinellwyd yn yr Achos Busnes Portffolio. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y prosesau'n cymryd mwy o amser na'r hyn a amcangyfrifwyd yn wreiddiol oherwydd cymhlethdod o ran caniatâd cynllunio, ystyriaeth ariannol, llywodraethu a’r broses gaffael. Dywedodd ymhellach fod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi penodi partner cyfathrebu strategol newydd - Ateb Cymru - i gefnogi cyfathrebu a gweithgareddau marchnata tra bod Hatch Regeneris wedi eu penodi i ddarparu ymgynghoriaeth achos busnes cyffredinol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio. Mae Wavehill hefyd wedi eu comisiynu i gefnogi’r datblygiad o achos economaidd ar gyfer y Prosiect Ynni Lleol Smart a Real Wireless i ddarparu astudiaeth gwmpasu i gefnogi’r proseict Coridor Cysylltu o fewn y Rhaglen Ddigidol. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ymhellach mai'r flaenoriaeth yw gweld cymaint o'r prosiectau yn y Cynllun Twf yn cael eu gweithredu a gwaith cyfalaf ar waith cyn gynted â phosibl.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Datblygiad Economaidd a Phrosiectau Mawr bod angen cryn dipyn o waith i symud y Cynllun Twf yn ei flaen ac roedd yn falch bod Prosiect Ynni Llanw Morlais bellach wedi symud ymlaen i'r cam nesaf. Dywedodd ymhellach fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, busnesau preifat ynghyd â’r Bwrdd Uchelgais yn chwarae rhan wrth symud y prosiectau o fewn y Cynllun Twf yn eu blaen. Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y prif bwyntiau canlynol:-

 

·         Cyfeirwyd at y ffaith bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi penodi pedwar ymgynghorydd i gefnogi gwaith y Bwrdd. Codwyd cwestiynau ynghylch a fydd y Bwrdd yn penodi ymgynghorwyr pellach maes o law. Ymatebodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod angen penodi arbenigedd mewn gwahanol agweddau ar y prosiectau i sicrhau bod prosiectau yn ychwanegu gwerth ac yn cefnogi'r tîm rhanbarthol;

·         Nodwyd fod yr amserlen ar gyfer datblygu rhai o'r Achosion Busnes wedi llithro hyd at chwe mis mewn rhai achosion. Nodwyd fod y Swyddfa Rheoli Portffolio wedi rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod Achosion Busnes yn cwrdd â’r safon ofynnol. Codwyd cwestiynau ynghylch pam na roddwyd y broses hon ar waith ar ddechrau'r broses Cynllun Twf. Ymatebodd y Prif Weithredwr fod gwersi wedi'u dysgu yn ystod y prosiect cyntaf sydd wedi'i symud ymlaen i'r cam nesaf. Mae'r Adolygiadau Gateway wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl mewn perthynas â'r Achos Busnes Amlinellol ond mae'r amserlenni newydd ac yn fwy realistig i allu gwireddu'r prosiectau yn y Cynllun Twf. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y prosesau llywodraethu a osodwyd gan Lywodraethu’r DU a Chymru yn brosesau llym i gydymffurfio â’r cyllid mawr ai roddwyd tuag at y prosiectau o fewn y Cynllun Twf;

·         Soniwyd y nodir yn yr adroddiad fod rhai prosiectau yn adrodd yn Goch ar hyn o bryd oherwydd naill ai risgiau i gwmpas y prosiect neu oedi sylweddol i amserlenni prosiectau.  Codwyd pryderon efallai na fydd cyllid tuag at y prosiectau yn y Cynllun Twf yn cael ei wireddu a chyfeiriwyd yn benodol at Borth Caergybi (Rhaglen Tir ac Eiddo) bod cwmpas y prosiect yn cael ei adolygu oherwydd pryderon ynghylch cost y prosiect a'r achos masnachol. Ymatebodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod Porth Caergybi yn brosiect pwysig o fewn y Cynllun Twf a bod y ddwy lywodraeth mewn ymgynghoriad â Stena o ran y gwaith ail-adeiladu sydd ei angen i’r Morglawdd yng Nghaergybi a’r cynnydd mewn capasiti o fewn Porth Caergybi i gynyddu twf economaidd y Porth. Nododd y gellir gwneud trefniadau i ddiweddaru'r aelodau etholedig ar gyfer ardal Caergybi mewn perthynas â'r prosiect hwn maes o law;

·         Codwyd cwestiynau a oedd Llywodraeth y DU a Chymru yn cydweithredu o ran y Cynllun Twf gan fod costau fforddiadwyedd wedi cynyddu wrth i gostau adeiladu gynyddu'n sylweddol yn ddiweddar. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor, oherwydd yr adnoddau ariannol sylweddol a roddir gan y ddwy Lywodraeth tuag at y Cynllun Twf, eu bod yn rhan o'r Cynllun a bod Swyddogion o'r ddwy Lywodraeth yn bresennol yn ystod cyfarfodydd â Swyddogion y Bwrdd Rhanbarthol;

·         Cyfeiriwyd at y Ffibr Llawn mewn Safleoedd Allweddol a Champysau Cysylltiedig (Rhaglen Ddigidol) sydd yn nodi fod yr amserlen datblygu achos busnes wedi ei gwthio’n ôl i alluogi capasiti’r rhaglen i ffocysu ar ddau brosiect Swyddfa Rheoli Portffolio cychwynnol. Codwyd cwestiynau o ran a oes gan Dîm Rhanbarthol y capasiti i reoli'r holl brosiectau. Ymatebodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Cynllun Twf yn brosiect 10 mlynedd a bod y broses recriwtio o fewn y Timau Rhanbarthol yn cynyddu gyda Swyddogion profiadol wedi'u penodi i symud y prosiectau yn eu blaenau o fewn y Cynllun Twf.

                                                                               

Penderfynwyd:-

 

·           Nodi'r holl gynnydd a wnaed yn ystod Chwarter 1 - 2021/22;

·         Y dylid anfon llythyr i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn mynegi pryderon o ran y gwytnwch ariannol i ganiatáu i'r prosiectau yn y Cynllun Twf gael eu gwireddu.

 

GWEITHRED  : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: