Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol:Adolygiad Cynnydd Bargen Twf Gogledd Cymru - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Archwilio Allanol ar ganlyniad ei adolygiad o'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) ar ei daith i gefnogi datblygiad economi'r rhanbarth a chyflawni Bargen Twf Gogledd Cymru i'r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar sut mae BUEGC yn gwneud cynnydd o ran cyflawni'r rhaglen ynni carbon isel ac wrth wneud hynny archwiliodd drefniadau llywodraethu; y cymorth a ddarperir gan swyddfa rheoli'r rhaglen; effaith Covid 19 ar ddarpariaeth a gynlluniwyd a dysgu a rennir ar gyfer yr uchelgais yn gyffredinol.

 

Dywedodd Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru fod yr adolygiad wedi canfod bod gan BUEGC drefniadau llywodraethu clir wedi’u sefydlu ers tro gyda chefnogaeth Swyddfa Rheoli Portffolio sy'n datblygu, y gallai ffactorau allanol effeithio ar yr uchelgeisiau arfaethedig a bod BUEGC yn addasu i ddarparu ar gyfer y rhain. Daethpwyd i'r casgliad hwn oherwydd –

 

·         Mae partneriaid wedi cytuno ar uchelgeisiau ar gyfer economi Gogledd Cymru ac wedi sefydlu fframwaith llywodraethu clir, er nad yw pob elfen yn weithredol;

·         Mae'r BUEGC wedi sefydlu Swyddfa Rheoli Portffolio ag adnoddau da i gefnogi'r gwaith o gyflawni ei uchelgeisiau; lle mae'n canfod bylchau mewn sgiliau, gwybodaeth neu gapasiti, mae'n gwneud iawn am y diffygion hynny mewn modd dyfeisgar; ac

·         Mae llwyddiant y Fargen Twf yn dibynnu ar lawer o ffactorau allanol a allai newid uchelgeisiau a gynlluniwyd; mae'r BUEGC yn addasu i oresgyn yr heriau a'r risgiau hyn sy'n dod i'r amlwg.

 

Mae'r adroddiad yn cynnwys chwe chynnig ar gyfer ffyrdd y gallai'r cynghorau drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wella'r modd y cyflawnir eu nodau cyffredinol ac mae'r rhain wedi'u nodi yn Arddangosyn 1 ar dudalen 5 yr adroddiad.

 

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fod y sefyllfa'n datblygu’n gyflym a bod nifer o'r cynigion eisoes wedi cael ymateb; disgwylir y bydd cynnydd pellach wedi'i wneud pan adroddir yn ôl tua diwedd y flwyddyn. Mae'r sefyllfa economaidd wedi newid yn sgil effaith Brexit a Covid-19 ac mae'n parhau i fod yn gyfnewidiol. Fodd bynnag, nid yw canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad yn cynnwys unrhyw beth annisgwyl ac mae nifer o'r argymhellion yn ymwneud â meysydd lle mae darnau o waith eisoes wedi dechrau. Hwn oedd yr adolygiad cyntaf o Fargen Twf Gogledd Cymru a'r trefniadau ategol a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru, ac ar ôl pwyso a mesur, mae wedi bod yn broses adeiladol ac mae'r farn a'r cynigion dilynol ar gyfer gwella wedi bod yn gadarnhaol i'r Tîm.

 

Wrth ystyried cynnwys adroddiad Archwilio Allanol, cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol –

 

·         Gofynnodd y Pwyllgor am eglurder ynghylch a oes unrhyw un o brosiectau Bargen Twf Gogledd Cymru wedi dechrau; a yw cynnydd mewn prisiau yn debygol o achosi problem ac a ragwelir unrhyw broblemau wrth fynd drwy’r broses gynllunio.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Portffolio, er nad oes unrhyw brosiect wedi dechrau eto, fod tri Achos Busnes Amlinellol wedi'u cyflwyno i BUEGC ac wedi cael eu cymeradwyo i symud ymlaen i’r cam nesaf - datblygu Achos Busnes Terfynol, sy'n cynnwys y broses gaffael. Ni ragwelir y bydd y gwaith adeiladu gwirioneddol yn dechrau tan ddiwedd y flwyddyn galendr neu'n gynnar yn y flwyddyn nesaf. Dywedodd y Cyfarwyddwr Portffolio fod argaeledd adnoddau, sgiliau a deunyddiau yn risg sylweddol ac mae hyn wedi cael ei gydnabod gan Fargeinion Twf ledled y DU. Mae'r rheini a risgiau eraill yn cael eu cydnabod a'u rheoli. Erbyn i'r prosiectau ddechrau ar y cyfnod caffael a'r gwariant, y gobaith yw y bydd amodau economaidd wedi setlo; fodd bynnag, mae'r Tîm yn gweithio yn erbyn cyfres o dybiaethau gan fod y sefyllfa economaidd wedi bod yn gyfnewidiol. Mae manteision i weithio ar Fargen Twf lle mae llawer o gytundebau eraill o'r fath ledled y DU gan y gellir dysgu gwersi a gellir rhannu arfer gorau. Er mwyn sicrhau y gall y prosiectau symud ymlaen, mae angen ymyrryd yn y farchnad gan y gallai hyn fod yn risg na ellir ei lliniaru. Mae angen osgoi sefyllfa lle mae prosiectau'n cael eu dad-gwmpasu gan fod budd i Ogledd Cymru drwy'r Fargen Twf wedi’i bennu a dyna'r canlyniad arfaethedig ar gyfer y buddsoddiadau a wnaed. Bydd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn gweithio gyda noddwyr prosiectau ac awdurdodau cynllunio lleol i nodi unrhyw risgiau cynllunio yn gynnar yn y broses er mwyn asesu a yw'r risgiau a nodwyd yn her ai peidio ac i weithio drwy bob risg. Mae'r awydd i weld prosiectau'r Fargen Dwf yn cael eu gwireddu yn gryf gan fod y prosiectau wedi'u cynllunio i sicrhau twf a swyddi i'r rhanbarth.

 

·         O ystyried costau cynyddol a nifer o ffactorau allanol eraill y tu hwnt i reolaeth BUEGC, a fydd modd cyflawni prosiectau o dan y Fargen Dwf yn unol â dyheadau neu a fyddant yn cael eu glastwreiddio ac yn methu â sicrhau gwerth am arian.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Portffolio fod Cofrestr Risg Portffolio bellach wedi'i pharatoi a'i gweithredu a bod proses adrodd wedi'i sefydlu lle mae'r Gofrestr Risg yn cael ei hadrodd i BUEGC bob chwarter. Mae Cofrestrau Risg Rhaglenni hefyd wedi'u datblygu ar gyfer pob un o'r pum rhaglen. Cyflwynir gwybodaeth am brosiectau risg uwch er mwyn ymdrin â risgiau'n dryloyw a thrwy hynny sicrhau bod penderfyniadau priodol yn cael eu gwneud ar yr adeg briodol i gael gwerth o'r buddsoddiad. Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhaodd fod grŵp cenedlaethol o Swyddfeydd Portffolio o Geisiadau Bargeinion Twf yng Nghymru, Iwerddon a'r Alban yn rhannu arfer da. O ran y tirlun ariannu, eglurodd mai'r her nesaf fydd datblygu strategaeth i gyflwyno cyllid y sector preifat gan fod y cyfraniadau i Fargen Twf Gogledd Cymru gan Lywodraeth San Steffan a Chymru wedi'u gwneud ar sail sicrhau buddsoddiad gan y sector preifat hefyd.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio am ei phresenoldeb a'i chyfraniad i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor.

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad Archwilio Allanol ar ei adolygiad o gynnydd Bargen Twf Gogledd Cymru a nodi ei gynnwys.

 

Dogfennau ategol: