Eitem Rhaglen

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Drafft 2020/21

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol, yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020/21. Mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn ddogfen statudol sydd yn dadansoddi perfformiad y Cyngor dros y flwyddyn ariannol flaenorol yn erbyn y blaenoriaethau gwella a amlinellwyd gan y Cyngor yn ei amcanion llesiant sydd yn rhan o Gynllun y Cyngor, a rhaid ei gyhoeddi cyn 31 Hydref  bob blwyddyn. Mae’r Cyngor am sicrhau y gall pobl Ynys Môn ffynnu a chyflawni eu potensial tymor hir; ceisio cefnogi oedolion a theuluoedd bregus a’u cadw’n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosibl ac ymdrechu i weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau ar yr Ynys i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi’n effeithiol â newid a datblygiadau ac amddiffyn yr amgylchedd naturiol ar yr un pryd.

Adroddodd yr Aelod Portffolio Busnes y Cyngor bod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn edrych ar yr allbynnau a’r canlyniadau yn erbyn yr hyn y dywedodd y Cyngor y byddai’n ei gyflawni o dan ei dri amcan llesiant penodol yn ystod blwyddyn eithriadol a heriol lle bu’n rhaid i’r Cyngor newid ac addasu ei wasanaethau i ddelio â’r disgwyliadau rheoliadol esblygol yn gysylltiedig â lliniaru effaith y pandemig byd eang.  Mae’r adroddiad yn amlygu llwyddiannau’r Cyngor yn ogystal â nodi meysydd sydd angen eu gwella ymhellach sydd yr un mor bwysig o safbwynt sicrhau cynnydd a chyflawni targedau. Prif nod y Cyngor yn ystod y cyfnod hwn oedd cadw trigolion, ymwelwyr a gweithlu’r Cyngor yn ddiogel wrth barhau i gynnal gwasanaethau rheng flaen allweddol. Wrth neud hynny llwyddodd y Cyngor i fynd uwch law a thu hwnt i’r hyn a oedd yn angenrheidiol ac mae’r adroddiad yn nodi enghreifftiau o’r mentrau/gwasanaethau niferus a roddwyd ar waith un ai mewn ymateb uniongyrchol i’r pandemig neu wrth symud prosiectau arfaethedig yn eu blaen.  Gorffennodd yr Aelod Portffolio ei gyflwyniad trwy gydnabod bod y 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd i bobl a chymunedau Ynys Môn yn ogystal â staff y Cyngor a bod heriau pellach i ddod yn ystod misoedd y gaeaf.  Diolchodd i bawb a oedd wedi cefnogi’r Cyngor drwy’r cyfnod heriol hwn

Bu i’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid  gydnabod bod y cyfnod y mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn ymdrin ag o wedi bod yn un o’r cyfnodau mwyaf anghyffredin a digynsail yn hanes y Cyngor. Er bod staff wedi ac yn parhau i wynebu pwysau sylweddol mewn rhai gwasanaethau, mae’r cyflawniadau a adlewyrchir arnynt yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn dyst i ymdrechion staff ar adeg pan gafodd nifer eu hailgyfeirio neu eu trosglwyddo i weithio ar faterion yn ymwneud â’r pandemig.

Cynghorodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod rhaid mabwysiadu’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol fel adlewyrchiad teg o berfformiad yn ystod y flwyddyn cyn 31 Hydref, 2021 ac mai dyma fydd y tro olaf i’r gofyniad statudol hwn fod yn gymwys.  Gobeithir bod yr adroddiad Perfformiad Blynyddol yn adlewyrchiad cywir o berfformiad y Cyngor yn ystod y flwyddyn ac y cydnabyddir, er bod nifer o feysydd gwaith newydd wedi dod i’r amlwg o ganlyniad i’r pandemig y bu’n rhaid i’r Cyngor ymateb iddo, bod yr adroddiad yn dangos effaith yr ymateb ar berfformiad y Cyngor yn erbyn ei ddangosyddion perfformiad hanesyddol a mwy traddodiadol.

Wrth gydnabod ymdrech aruthrol staff  y Cyngor o’r brig wrth lawr wrth ddelio gyda’r pandemig, bu i’r Pwyllgor gydnabod y pwyntiau canlynol ar yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer  2020/21 –

·         Er ei fod yn cydnabod bod y Cyngor wedi cynorthwyo dros 2,000 o fusnesau ar yr Ynys i sicrhau cymorth ariannol o ganlyniad i’r pandemig drwy ddyrannu grantiau gwerth oddeutu £40m erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2020/21, cyfeiriodd y Pwyllgor at yr adroddiadau yn y wasg yn genedlaethol ynglŷn â busnesau a oedd wedi mynd i’r wal ac roedd y Pwyllgor yn dymuno gwybod a oedd data ar gael ynglyn â nifer y busnesau ar Ynys Môn a oedd wedi mynd i’r wal o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig gan ei bod hi’n bwysig bod gan y Pwyllgor ddarlun diweddar o’r sefyllfa economaidd ar yr Ynys.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd a’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio ac Economaidd) er nad oedd yr ystadegau hynny ganddo wrth law y byddai’n ymdrechu i gael gafael ar yr wybodaeth ac yn ei rannu ag aelodau’r Pwyllgor yn dilyn hynny.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n gwerthfawrogi pe gellid cael gafael ar yr wybodaeth yn ystod y saith niwrnod nesaf cyn i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.

 

·         Yn dilyn yr ymholiad uchod, cyfeiriodd y Pwyllgor at yr anawsterau recriwtio/staffio sy’n wynebu rhai sefydliadau a busnesau o ganlyniad i’r pandemig ac sydd hefyd yn berthnasol i’r Cyngor Sir mewn rhai meysydd yn gysylltiedig â gofal cymdeithasol. Roedd y Pwyllgor yn dymuno gwybod sut oedd y Cyngor yn bwriadu recriwtio i swyddi allweddol yng nghyd-destun yr heriau cyflogi presennol.

 

Wrth gydnabod bod nifer o awdurdodau lleol a sefydliadu eraill yn wynebu heriau recriwtio ar hyn o bryd a chadarnhau bod swyddi gwag yn y Cyngor, cynghorodd y Prif Weithredwr bod proses recriwtio’r Cyngor yn cynnwys hysbysebu swyddi gwag a chyrraedd darpar ymgeiswyr drwy bob math o wahanol gyfryngau yn cynnwys sianeli cyfryngau cymdeithasol.  Mewn perthynas â recriwtio i swyddi gofal mae’r Cyngor ynghyd â chynghorau eraill yng Ngogledd Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i geisio dod o hyd i ffyrdd o recriwtio’r bobl orau i swyddi yn y sector gofal yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yn cynnwys llacio’r rheoliadau a diwygio canllawiau lle bo modd. 

 

Cynghorodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid nad yw nifer y swyddi gwag yn y Cyngor ar hyn o bryd yn anarferol a bod recriwtio yn broblem dros Gymru ar gyfer y sector cyhoeddus a phreifat. Y peth mwyaf heriol yw gwneud y swyddi hyn y  ddeniadol i amrywiaeth o ymgeiswyr addas ac mae hyn yn arbennig o wir yn achos rhai gwasanaethau gan fod cynghorau’n cystadlu yn yr un meysydd gwasanaeth ar gyfer yr un bobl. Mae graddfeydd cyflog Cyngor Ynys Môn yn gystadleuol gan fod y Cyngor wedi ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn rhan o ymgyrch recriwtio wedi’i thargedu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae Diwrnod Recriwtio galw heibio wedi i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf ac os yn llwyddiannus caiff ei ymestyn i feysydd eraill.  Mae gwaith felly ar y gweill i gryfhau recriwtio ac ategir hyn drwy wybodaeth a gedwir yn lleol ledled y Cyngor i adnabod ymgeiswyr addas ar gyfer y swyddi sydd ar gael.

 

·         Mewn perthynas ag effaith y pandemig ar allu’r Cyngor i gyflawni yn erbyn ei amcanion llesiant strategol, cyfeiriwyd at y cyfraddau Covid 19 presennol a oedd yn uwch na 92.8 achos fesul 100k o’r boblogaeth dros gyfnod o 7 diwrnod ar adeg ysgrifennu’r adroddiad. Roedd y Pwyllgor yn dymuno gwybod pa gamau a oedd yn cael eu cymryd mewn ymateb i’r cynnydd mewn achosion o Covid 19 i sicrhau’r cyhoedd bod y sefyllfa dan reolaeth o gofio’r ymateb cyflym a gafwyd yn dilyn y brigiadau o achosion yn ffatri prosesu cig Two Sisters yn Llangefni ac yna yn nhref Caergybi yn 2020. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor, sicrwydd i’r Pwyllgor bod y fframwaith a strwythurau a roddwyd ar waith i ymateb i’r pandemig Coronafeirws yn dal i fod yn eu lle; mae’r Tîm Rheoli Ymateb Brys (EMRT) a oedd yn cwrdd yn wythnosol ar ddechrau’r pandemig ac a fu’n cyfarfod pob pythefnos wrth i achosion leihau wedi dechrau cwrdd yn wythnosol unwaith eto wrth i achosion gynyddu; mae’r Tîm yn dal i fonitro’r sefyllfa’n agos ac yn ymateb yn briodol. Yn yr un modd mae’r grŵp atal aml asiantaeth yn dal i gyfarfod a rhannu gwybodaeth; o fewn y Cyngor mae’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn monitro cydymffurfiaeth â’r rheolau cyfredol yn y sector busnes, mae’r Gwasanaeth Dysgu wedi bod yn cefnogi ysgolion ers iddynt ail-agor ac mae’r Gwasanaethau Oedolion yn cwrdd yn rheolaidd â’r Bwrdd Iechyd a’r sector gofal preifat. Yr her nawr yw cydbwyso busnes fel arfer â’r gwaith o reoli’r sefyllfa Covid. 

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod y data yn cael ei archwilio’n ddyddiol i adnabod unrhyw glystyrau sy’n datblygu ac fe all y sefyllfa newid yn gyflym iawn. Mae gwybodaeth a negeseuon yn dal i gael eu rhannu’n eang mewn ymgais i gael pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu hymddygiad er mwyn cyfyngu lledaeniad y firws. Mae’r Cyngor yn dal i weithio gyda’i bartneriaid i weld beth y gellir ei wneud i warchod y cyhoedd.

 

Cynghorodd  y Dirprwy Brif Weithredwr bod y sefyllfa wedi newid o ran sut y mae effaith Covid 19 yn cael ei fesur. Erbyn hyn mae dros 53,000 o unigolion ar yr Ynys wedi cael eu brechiad cyntaf, neu’r ddwy, ac yn y rhanbarth mae 4,000 o bobl wedi derbyn brechiad atgyfnerthu; ac o ganlyniad er bod y gyfradd achosion yn uchel mae nifer y bobl sydd angen triniaeth yn yr ysbyty o ganlyniad i Covid 19 yn gymharol isel ac yn parhau i fod yn gyson. Mae’r gyfradd yn yr ysbyty felly’n fatrics allweddol ar gyfer monitro effaith y firws ac nid yw’r gyfradd hon wedi newid.   Rhaid cofio hefyd bod llacio’r rheoliadau wedi hwyluso lledaeniad y firws.  Mae canran uchel o achosion o’r firws mewn ysgolion ar hyn o bryd er eu bod yn dal i fod ar agor. Gobeithir y bydd yr Ynys yn troi cornel cyn bo hir ac y bydd y gyfradd yn dechrau gostwng, a’r pwynt pwysig yw oherwydd y rhaglen frechu nid yw derbyniadau i’r ysbyty oherwydd Covid 19 wedi cynyddu er y gyfradd uchel o achosion. Yn ogystal â hyn, yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Gynllun Rheoli Coronafeirws ar gyfer Gymru ar gyfer misoedd yr hydref a’r gaeaf sydd yn nodi’r mesurau ar gyfer y cyfnod hwn yn genedlaethol a’r modd y maent yn gysylltiedig â’r ymateb rhanbarthol a lleol ledled Cymru <https://gov.wales/sites/default/files/publications/2021-10/coronavirus-control-plan-autumn-and-winter-2021-update.pdf>. I sicrhau bod pobl yn cadw’n ddiogel dros y misoedd nesaf, rhaid i bobl fanteisio ar y cynnig o frechlyn a pharchu’r cyngor iechyd presennol gyda phwyslais ar gymryd cyfrifoldeb personol dros eu hiechyd.

 

·         Cyfeiriodd y Pwyllgor at y sefyllfa mewn perthynas â phobl ifanc sydd ddim mewn Addysg, Gwaith neu Gyflogaeth (NEET) lle’r oedd y dangosydd perfformiad yn Goch oherwydd bod y Cyngor yn y chwartel isaf ar gyfer y categori hwn am y flwyddyn. Wrth nodi bod hyn o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwn i’w reolaeth, gan na chafodd y Cyngor  wybod am sawl un o’r unigolion hyn tan fis Tachwedd ar adeg yr arolwg ciplun, roedd y Pwyllgor yn dymuno cael eglurder ynglŷn â sut y digwyddodd hyn a pha un ai a oedd yn berthnasol i awdurdodau eraill yn ogystal

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod y diffyg gwybodaeth oherwydd problemau yn ymwneud ag adrodd am ddata a’r amserlen adrodd; mae’r mater wedi’i godi gyda Gyrfa Cymru gan y Prif Swyddog Ieuenctid ac mae trefniadau addas wedi cael eu rhoi ar waith; mae’r mater a oedd yn fater gweithdrefnol yn y bôn wedi effeithio ar gynghorau eraill hefyd.  Yn ogystal, cafwyd trafodaeth ynglŷn â beth mae’r data yn ei gynrychioli a pha un ai a ydi’n cwrdd â’r anghenion fel ac y mae ar hyn o bryd. Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynglŷn â nifer y bobl ifanc a gafodd eu heffeithio gan yr oedi wrth hysbysu’r Cyngor am bobl ifanc nad oedd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, dywedodd y Swyddog er nad oedd y data ganddo wrth law y byddai’n anfon yr wybodaeth ymlaen at aelodau’r Pwyllgor wedi’r cyfarfod. Gofynnodd y Cadeirydd bod hynny’n digwydd o fewn y saith niwrnod nesaf.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor, ei bod hi fel Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Phobl Ifanc a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyfarfod i drafod y mater pan ddaeth i’r amlwg fel rhan o broses o adrodd ar Gerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3 2020/21 a bod y mater wedi’i ddilyn i fyny wedi hynny. Er bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda Gyrfa Cymru i sicrhau y bydd data’n cael ei adrodd yn brydlon yn y dyfodol, dylid nodi bod y Cyngor wedi gweithredu ar yr wybodaeth ar unwaith ar ôl ei dderbyn ac wedi cysylltu â’r bobl ifanc dan sylw.  Cafwyd diweddariad ar y canlyniadau i’r bobl ifanc yma o ran symud ymlaen, neu beidio,  i gyflogaeth, addysg bellach neu brentisiaethau gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ym mis Mehefin, 2021. 

 

Penderfynwyd argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylid cyhoeddi fersiwn terfynol o’r Adroddiad Perfformiad ar gyfer 2020/21 erbyn y dyddiad statudol 31 Hydref a bod Swyddogion, mewn cydweithrediad â’r Deilydd Portffolio  Busnes Corfforaethol, yn cwblhau’r adroddiad fel y gellir ei gyhoeddi fel rhan o bapurau’r Cyngor Llawn erbyn y cyfarfod ar 26 Hydref, 2021.

CAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL –

Y Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio ac Economaidd) a’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i anfon yr wybodaeth ganlynol ymlaen at aelodau’r Pwyllgor o fewn y saith niwrnod nesaf:

·         Nifer y busnesau ar Ynys Môn sydd wedi mynd i’r wal oherwydd y pandemig.

·         Nifer y bobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio o ganlyniad i’r oedi a fu o ran hysbysu’r Cyngor ynglŷn â phobl ifanc nad oedd mewn Addysg, Hyfforddiant neu Gyflogaeth (NEET).

 

 

Dogfennau ategol: