Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1 – HHP/2021/315 – 37 Penlon, Porthaethwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3mZiUAJ/hhp2021315?language=cy

 

11.2 – FPL/2021/227 – Plas Newydd, Llanddeusant

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O2uqhUAB/fpl2021227?language=cy

 

Cofnodion:

11.1 HHP/2021/315 – Cais llawn ar gyfer addasiadau ac estyniadau ynghyd â dymchwel y garej bresennol yn 37 Penlon, Porthaethwy

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn “berson perthnasol” yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofyniad o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Robin Williams y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.

Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio bod y datblygiad arfaethedig, ym marn y Swyddog, yn cydymffurfio â nodau ac amcanion polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC); mae graddfa’r estyniad arfaethedig yn gymedrol ac mae digon o dir ar gyfer y cynllun arfaethedig heb or-ddatblygu’r safle. Mae’r dyluniad a’r deunyddiau arfaethedig yn dderbyniol hefyd ac maent o ansawdd uchel. Nid ystyrir y byddai’r estyniad arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar eiddo cyfagos. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig ac mae’r Cyngor Tref yn ei gefnogi; felly'r argymhelliad yw cymeradwyo’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE, bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad.

11.2 FPL/2021/227 – Cais llawn am storfa dail dan do a tho dros yr iard bresennol ym Mhlas Newydd, Llanddeusant

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i “swyddog perthnasol” yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio - Amgylchedd Adeiledig a Naturiol y bydd y cynnig a ddisgrifir yn gwella’r system rheoli tail bresennol ar y fferm ac yn caniatáu i’r ymgeisydd gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) 2021. Lleolir y cynnig ar gyrion dwyreiniol y pentref ac mae pellter o 150m rhwng yr eiddo agosaf a man agosaf yr estyniad i adeilad sy’n bodoli’n barod. Nid ystyrir y bydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar gymeriad ac edrychiad yr ardal nac ar fwynderau meddianwyr preswyl gerllaw; nid ystyrir ‘chwaith y bydd y cynnig yn cael effaith weledol annerbyniol ar y dirwedd leol gan fod y cynnig yn cynnwys creu bwnd a gwaith tirlunio tu ôl i’r sied. Nid oes unrhyw wrthwynebiad lleol i’r datblygiad arfaethedig; nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi codi unrhyw wrthwynebiad ar yr amod nad yw’r cynnig yn golygu y bydd lefelau stoc yn cynyddu. Eglurodd y Swyddog, er mai’r bwriad gwreiddiol oedd cynyddu lefelau stoc dros gyfnod o amser, mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau erbyn hyn nad oedd bwriad pendant i wneud hynny. O’r herwydd, mae’r cynnig yn dderbyniol o ran dyluniad a chydymffurfiaeth â’r meini prawf a gynhwysir yn y polisïau perthnasol. Argymhellir cymeradwyo’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: