Eitem Rhaglen

Cynllun Trosiannol

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol, adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cynllun Trosiannol. Mae’r Cynllun yn nodi’r blaenoriaethau a dyheadau allweddol ar gyfer y cyfnod adfer yn syth wedi’r pandemig a bydd yn pontio’r cyfnod rhwng Cynllun cyfredol y Cyngor a’r Cynllun diwygiedig/newydd a fydd yn cael ei fabwysiadu gan y weinyddiaeth newydd wedi Mai, 2022. Bydd hefyd yn darparu’r paramedrau gweithredol er mwyn i Swyddogion allu cyflawni ffrydiau gwaith allweddol dros y 12 mis nesaf.  Cynghorwyd y Pwyllgor bod y Cynllun yn cydnabod bod y Cyngor yn mynd i mewn i gyfnod trosiannol a’i fod wedi’i ddylunio i helpu’r Cyngor gynllunio ar gyfer y normal nesaf gan barhau i fod yn ddigon hyblyg i addasu ac ymateb i gyfleoedd ac unrhyw anawsterau a all godi.  Dylid cydnabod wrth ddarparu fframwaith a llwybr ar gyfer symlyn ymlaen yn dilyn Covid-19, y gall nifer o faterion y tu hwnt i reolaeth y Cyngor effeithio ar ei allu i gyflawni amcanion y Cynllun ac y bydd yr elfen hon o ansicrwydd yn parhau. Fodd bynnag, mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth o’r farn ei bod hi’n amserol rhoi cynllun trosiannol ar waith er mwyn ailosod a/neu adnewyddu’r cyfnod cyn y pandemig a hefyd ystyried effaith y pandemig a’r newidiadau a ddaeth yn ei sgil mewn sawl maes, i sicrhau bod y Cyngor yn ddiweddar a chyfredol ac y gall ganolbwyntio ar faterion allweddol rhwng nawr a diwedd tymor y Cyngor presennol. Bydd y fframwaith yn dal i fod yn ei le hyd nes y penodir Cyngor newydd ym mis Mai, 2022 a chyn iddo allu mabwysiadu cynllun corfforaethol newydd. Mae’r Cynllun wedi’i enwi’n gynllun trosiannol yn hytrach na chynllun adfer ac mae’n seiliedig ar y dybiaeth na fydd cyllid sylweddol newydd ar gael i’r Cyngor ar gyfer ei weithgareddau adfer ac felly mae’n rhaid gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys cynlluniau cyllid grant a thrwy barhau i ddosbarthu cyllid grant i sefydliadau eraill.  Mae’r Cynllun wedi’i ddylunio i fod yn syml a hawdd i’w ddeall fel bod pawb yn glir ynglŷn â chyfarwyddyd ac arweiniad y Cynllun a’r hyn y mae’r Cyngor yn ceisio’i gyflawni drwy’r Cynllun, ac i sicrhau bod trigolion, aelodau etholedig, rheoleiddwyr, partneriaid a staff yn deall bwriad y Cyngor yn ystod cyfnod trosiannol anodd ac ansicr.  Mae’r Cynllun yn seiliedig ar 3 prif amcan yn ymwneud â’r economi, yr amgylchedd a gwasanaethau cymunedol allweddol ac o dan yr amcanion hyn mae nifer o dasgau uchelgeisiol a heriol  wedi’u nodi yn ychwanegol i ddyletswyddau statudol a busnes dydd i ddydd y Cyngor. Bydd unrhyw sylwadau ar gynnwys y Cynllun yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun a bydd yn cael ei addasu’n briodol cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ac yna i’r Cyngor Llawn.

Croesawyd y Cynllun gan y Pwyllgor fel Cynllun sydd yn rhoi gweledigaeth glir ar gyfer symud drwy’r broses rheoli argyfwng tuag at ailddechrau’r normalrwydd newydd. Bu i’r Arweinydd a’r Dirprwy Brif Weithredwr ymateb i’r pwyntiau a godwyd mewn perthynas â’r Cynllun fel a ganlyn –

·           Mewn perthynas â galluogi’r sector ymwelwyr a lletygarwch i fanteisio i’r eithaf ar boblogrwydd cynyddol yr Ynys ac amddiffyn ei asedau a’i chymunedau ar yr un pryd a’r angen i reoli twristiaeth er lles yr Ynys a’i heconomi ac atgyfnerthu adain dwristiaeth y Cyngor, rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor bod dod o hyd i ffyrdd o gefnogi twristiaeth wedi’i gydnabod fel prif ymrwymiad ynghyd â chryfhau capasiti adain dwristiaeth y Cyngor, er bod llenwi swyddi gwag yn her yn yr hinsawdd bresennol. Mae cyswllt rheolaidd rhwng y sector twristiaeth, sydd yn awyddus i weithio ochr yn ochr â’r Cyngor, i ddod o hyd i wahanol ffyrdd o gefnogi’r sector wrth symud ymlaen. 

·           Mewn perthynas â chynnal a moderneiddio gwasanaethau cymunedol critigol megis gofal ac addysg ledled yr Ynys, mae risg i’r ddarpariaeth cartrefi gofal preswyl pe byddai Llywodraeth Cymru’n penderfynu mabwysiadu’r un dull â’r dull sydd ar waith yn Lloegr sy’n mynnu bod rhaid i weithwyr cartrefi gofal fod wedi’u brechu’n llawn. Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu hyd yma nad yw’n bwriadu mabwysiadu’r un dull â Lloegr drwy fynnu bod staff cartrefi gofal wedi cael dau frechlyn ar y sail nad yw’n hanfodol gosod yr un mandad yng Nghymru gan fod nifer uchel o staff iechyd a chartrefi gofal yng Nghymru wedi eu brechu’n llawn. 

·           Mewn perthynas ag amserlenni, os ydi’r Cynllun Trosiannol yn cymryd lle’r Cynllun Corfforaethol a’i gyfnod o 12 mis bydd yn ymrwymo’r Cyngor newydd i’r amcanion sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun. Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor  na fyddai’r Cynllun Trosiannol yn disodli’r Cynllun Corfforaethol a’i fod wedi’i gynllunio fel cynllun pontio oherwydd yr amgylchiadau anarferol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu yn dilyn 18 mis o ddelio â’r pandemig ac wrth symud tuag at ryw fath o normalrwydd yn ymwneud â’i holl fusnes.  Er bod yr amserlen o 12 mis yn darparu fframwaith i’r Cyngor weithio a chynllunio, wedi Mai 2022 fe all y weinyddiaeth newydd ddewis parhau ag o neu beidio. Mae’r cynllun yn rhoi eglurder  ynglŷn â blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y 12 mis nesaf hyd nes y caiff Cynllun Corfforaethol newydd ei fabwysiadu. 

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r Cynllun Trosiannol ac argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cael ei fabwysiadu. (Bu i’r Cynghorydd A.M. Jones atal ei bleidlais).

 

 

Dogfennau ategol: