Eitem Rhaglen

Trefniadau Diogelu Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â throsolwg o waith y Bwrdd Diogelu Corfforaethol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai cyfrifoldeb holl wasanaethau'r Cyngor yw Diogelu Corfforaethol.  Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r Cynllun Gweithredu Diogelu, sefydlwyd Bwrdd Diogelu Corfforaethol Gweithredol gyda phencampwyr diogelu yn dod o’r holl wasanaethau'r Cyngor.  Dywedodd hefyd mai adroddiad yw hwn i roi sicrwydd i'r Aelodau Etholedig o effeithiolrwydd trefniadau diogelu'r Cyngor. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Awdurdod wedi sefydlu Byrddau Diogelu Corfforaethol Strategol a Gweithredol sydd ag agenda cadarn ar waith sy'n cynnwys data pwysig sy'n cael ei rannu â'r Byrddau.  Roedd yn derbyn bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth helaeth a bod angen crynhoi'r wybodaeth yn yr adroddiad nesaf i'r Pwyllgor hwn.  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ymhellach fod trefniadau partneriaeth a llywodraethu eraill ar waith megis Byrddau Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Plant ac Oedolion, ar gyfer ymdrin â materion diogelu arbenigol.  Mae gan y Cyngor ddyletswydd i gyfrannu at weithredu’r Byrddau hyn ar lefel ranbarthol.  Mae Bwrdd Herio (CONTEST) Rhanbarthol a'r Dirprwy Brif Weithredwr, Mr Dylan Williams yw cynrychiolydd yr Awdurdod hwn.  Partneriaeth Diogelu Cymunedol Gwynedd a Môn sy'n gyfrifol am oruchwylio rhaglenni Atal (PREVENT) o fewn gwasanaethau'r bartneriaeth.  Y Bwrdd Rhanbarthol ar gyfer Bregusrwydd a Cham-fanteisio sy’n goruchwylio materion Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac mae'r Rheolwr Gwasanaeth Diogelu ac Ansawdd yn cynrychioli'r Awdurdod hwn ar y bwrdd hwn.  

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau canlynol:-

 

·      Codwyd cwestiynau ynghylch a yw'r sefydliadau partner yn cytuno ynghylch y blaenoriaethau gyda'r trefniadau diogelu ac a ydynt yn rhannu gwybodaeth.  Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol at Gam-drin Domestig a nododd fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau partner ar draws Gogledd Cymru; mae hyn yn caniatáu i wersi gael eu dysgu os bydd meysydd penodol yn gweld cynnydd yn ffigurau Cam-drin Domestig ac i fynd i'r afael â'r mater a rhoi gwasanaethau yn eu lle i ddelio â'r mater.  Gwerthusir ar sail amlasiantaethol a chynhelir trafodaethau hefyd o fewn y Bwrdd Bregusrwydd a Cham-fanteisio o ran Cam-drin Domestig.  Nododd fod gan yr Awdurdod hwn wasanaeth 'un drws ffrynt' mewn perthynas ag atgyfeiriadau cam-drin domestig sy'n ymdrin ag achosion cam-drin domestig lefel isel hyd at lefel uchel; ymdrinnir ag achosion mewn ymyriad cynnar i atal problemau posibl rhag cyrraedd lefel uchel o gam-drin a hefyd o ran rhoi plant mewn gofal os bydd y sefyllfa'n gwaethygu. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd fod gan yr Awdurdod hwn weithwyr sy'n delio'n benodol â theuluoedd lle mae cam-drin domestig yn digwydd a bod perthynas waith dda hefyd gyda Gorwel sy'n rhoi cymorth i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig neu gymorth i bobl sydd mewn perygl o golli eu cartrefi ac atal digartrefedd;

·      Codwyd cwestiynau ynghylch a oes angen blaenoriaethu unrhyw wasanaeth o fewn y Cynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwersi wedi'u dysgu o ran y pandemig a bod angen canolbwyntio a blaenoriaethu'r gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan y galw yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig.  Dywedodd y gallai blaenoriaethau o fewn y Cynllun Gweithredu blaenorol fod wedi bod yn rhy uchelgeisiol gan y bydd angen adolygu trefniadau diogelu'n barhaus er mwyn mynd i'r afael â ffactorau a fydd yn codi wrth i anghenion pobl newid;

·      Codwyd cwestiynau ynghylch a yw pob gwasanaeth yn blaenoriaethu hyfforddiant staff.  Cyfeiriwyd at y data yn yr adroddiad mewn perthynas â'r gwasanaeth addysg gyda 52% yn cael hyfforddiant ar seiberddiogelwch.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, pan fydd staff yn gallu dychwelyd i Swyddfeydd y Cyngor, y gobaith yw y gellir cynnull y sesiwn hyfforddi mewn grŵp a all ganolbwyntio ar ddiogelu.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Gwasanaeth Addysg yn gweithio'n agos gyda'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol o ran diogelu ond bod gan ysgolion strwythur ar waith hefyd o ran diogelu.  Nododd fod diogelu yn flaenoriaeth o fewn ymweliadau Estyn ag ysgolion i sicrhau bod strwythurau diogelu ar waith i amddiffyn y plant a'r bobl ifanc;

·      Cyfeiriwyd at arolygiad AGC o'r Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd ym mis Mehefin 2021. Derbyniwyd sylwadau ynglŷn â'r materion recriwtio Cenedlaethol ac yn benodol o fewn y Gwasanaethau i Oedolion ar Ynys Môn. Codwyd cwestiynau ynghylch a yw problemau recriwtio’n parhau ac a yw'n ffactor risg i'r gwasanaeth.  Dywedodd y Cadeirydd fod problemau recriwtio o fewn y Sector Gofal wedi bod yn broblem ers nifer o flynyddoedd a holodd a oedd cyflog y swyddi hyn yn ffactor wrth geisio denu pobl ifanc i wneud cais am swyddi o'r fath.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol nad yw cyflog ar gyfer swyddi o'r fath bob amser yn broblem wrth recriwtio ar gyfer staff.  Nododd ei bod yn gofyn am weithwyr cymorth gofalgar sy'n gallu rhoi cymorth a gofal personol i bobl sy'n agored i niwed a all fod yn heriol ar adegau.  Dywedodd hefyd fod rhoi amodau gwaith da hefyd yn ffactor pwysig wrth recriwtio staff gofal; mae'r Awdurdod wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Menai i gynnig profiad gwaith o fewn Cartrefi Gofal;

·      Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r dirywiad yn yr asesiadau risg yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu ac Ansawdd fod hyn yn ymwneud ag ymarfer hunan-sicrwydd nid â dirywiad mewn cynnal asesiadau risg er mwyn sicrhau gweithlu diogel.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu ac Ansawdd y dylai pob gwasanaeth gael proses ar gyfer cynnal asesiadau risg os oedd problem neu bryder mewn perthynas ag aelod o staff.  Mae angen i wasanaethau hefyd fod â phrosesau ar waith i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr Awdurdod Lleol. Fodd bynnag, mae'r Cynllun Gweithredu hefyd yn cynnwys dau weithgaredd sicrwydd y flwyddyn i'w cynnal gan bob gwasanaeth a'u hadrodd ar sail gorfforaethol.  Roedd y cynllun presennol yn cynnwys gweithgaredd sicrwydd i asesu risg  gweithwyr mewn rhai sefyllfaoedd.  Y sicrwydd hwn na chafodd ei gwblhau o fewn yr amserlen arfaethedig.  

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r trefniadau sydd yn eu lle, yn ogystal â'r meysydd y mae'r Bwrdd Diogelu Corfforaethol Strategol yn canolbwyntio arnynt i sicrhau bod yr Awdurdod yn cyflawni'r dyletswyddau statudol yn y maes hwn.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: