Eitem Rhaglen

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: craffu cynnydd ar wireddu'r Cynllun Llesiant / Asesiad Llesiant Drafft Ynys M?n

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr adroddiad yn amlygu’r cynnydd ar gwblhau’r Cynllun Llesiant, yr Asesiadau Llesiant a diweddariad ar waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn. Roedd yn dymuno croesawu Mrs Sandra Thomas, Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn i annerch y Pwyllgor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rhaglen y bydd yr Asesiadau yn tynnu ynghyd ystod o wybodaeth am gymunedau Ynys Môn a Gwynedd. Ymgymerwyd ag ymchwil, data ac ymgysylltu â thrigolion lleol i ganfod beth yw gofynion cymunedau lleol a pha agweddau sydd angen eu gwella. Mae hefyd yn gyfle i ystyried yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cymunedau. Dywedodd ymhellach fod yr amserlen ar gyfer cwblhau’r Asesiadau Llesiant wedi’i nodi yn Nhabl 1 o’r adroddiad ac y cynhelir cyfnod ymgynghori 12 wythnos tan 15 Mawrth, 2022.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Codwyd cwestiynau, yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, o ran beth fydd y broses a'r amserlen ar gyfer cwblhau’r asesiad llesiant terfynol ar gyfer y Sir. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen y bydd yr Asesiadau Llesiant yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd Mai 2022 ac y gwneir addasiadau pan ddaw gwybodaeth ychwanegol i law. Wedi hynny, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini i'w ystyried cyn ei gynnwys yn y Cynllun Llesiant yn 2023;

·           Gofynnwyd i ba raddau y mae'r wybodaeth a gasglwyd hyd yma am y 6 ardal yn adlewyrchiad teg o gyflwr llesiant Ynys Môn. Cyfeiriwyd at Gynghrair Seiriol a'r gwaith a wnaed yn yr ardal dros y ddwy flynedd diwethaf. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen bod angen gwella'r data ar draws y Cymunedau; gobeithir hefyd fewnbynnu’r data o ran y gwaith a wnaed yn y cymunedau lleol yn ystod y pandemig i’r Cynllun Llesiant;

·           Codwyd cwestiynau ynglŷn â chynnydd y rhaglen ‘siapio lle’ o fewn cymunedau lleol. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod y ‘rhaglen siapio lle’ yn ddibynnol ar yr ymrwymiad a bydd anghenion cymunedau lleol yn wahanol ym mhob ardal. Nododd fod egwyddor ‘siapio lle’ wedi gweithio’n dda gyda Medrwn Môn ac yn enwedig dros ddwy flynedd ddiwethaf y pandemig. Dywedodd y Prif Weithredwr fod nifer o ardaloedd wedi sefydlu’r cynllun ‘Tro Da’ yn ystod y pandemig. Bydd y Rheolwr Gweithredol o fewn Adran y Prif Weithredwr yn arwain ar y rhaglen ‘siapio lle’. Mynegodd yr aelodau bod angen adolygu ardaloedd wardiau'r cymunedau ac yn enwedig yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod angen dysgu gwersi ynglŷn â sut mae’r pandemig wedi effeithio ar y cymunedau lleol ac mae angen gwneud y data a’r mapio, yn y lle cyntaf, er mwyn caniatáu i’r gwirfoddolwyr o fewn y cymunedau ddod ynghyd ac i adnabod y blaenoriaethau fydd yn siapio'r rhaglen waith. Dywedodd ymhellach fod cael canolbwynt/canolfannau cymunedol sefydledig mewn trefi a chymunedau yn fanteisiol i wirfoddolwyr allu cefnogi eu cymunedau lleol.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Derbyn yr amserlen arfaethedig ar gyfer creu'r Cynllun Llesiant newydd sydd i'w gyhoeddi ym Mai 2023;

·           Derbyn Asesiadau Llesiant Drafft Ynys Môn.

 

GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: