Eitem Rhaglen

Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad (Gofal Cymdeithasol)

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi cyflwyno dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddatblygu asesiad ar y cyd o ddigonolrwydd a chynaliadwyedd y Farchnad Gofal Cymdeithasol. Mae’r adroddiad yn caniatáu i’r awdurdod ddeall y farchnad Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru gan olygu fod yr awdurdod yn gallu comisiynu a chefnogi darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn effeithiol. Serch hynny, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau fod yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad hefyd yn cynnwys asesiad o’r farchnad ar gyfer gofal a chymorth yn ardal pob awdurdod lleol yn ogystal ag yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ei chyfanrwydd. Bydd yr adroddiad yn llywio’r broses o wneud penderfyniadau rhanbarthol a lleol ynghylch comisiynu gofal a chymorth, gan fwydo i’r cynllun strategol ar gyfer ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a bydd yn helpu i lunio strategaethau comisiynu lleol a rhanbarthol. Nododd fod cysylltiad cryf rhwng yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad a’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth lle mae’r asesiad o anghenion y boblogaeth yn nodi’r angen a’r galw ar hyn o bryd am ofal a chymorth, a’r angen a’r galw a ragwelir, ynghyd ag ystod a lefel y gwasanaethau fydd eu hangen i ddiwallu’r galw hwnnw. Defnyddir yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad i gynllunio cynllun cyflawni lleol a rhanbarthol a datblygiadau yn y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd fod galw am y Gwasanaeth Gofal Cartref wedi codi 33% yn ystod y blynyddoedd diwethaf a rhagwelir y bydd y galw’n cynyddu. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y darparwyr sy’n darparu gwasanaeth Gofal Cartref ac mae’n bryder fod recriwtio yn gostwng yn y Sector Gofal, yn enwedig yn y ddarpariaeth Gofal Cartref, ac mae oedran cyfartalog Gofalwyr Cartref dros 50 oed. Cyfeiriodd at Ofal Preswyl a phryderon ynghylch twf yn y boblogaeth sy’n heneiddio sydd angen y gwasanaethau hyn ac unigolion sydd angen gofal arbenigol yn benodol; mae angen mwy o ddarpariaeth, yn arbennig Gwasanaethau Dementia.

 

Yn ogystal, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod galw am ofal arbenigol yn y Gwasanaethau Plant hefyd ac mae’r awdurdod lleol wedi sefydlu’r Ddarpariaeth Cartrefi Clyd ar yr Ynys. Mae’r Gwasanaethau Maethu a Mabwysiadu wedi gweld cynnydd mewn Gofalwyr Maeth ac mae 80% o blant mewn gofal yn cael eu lleoli ar yr Ynys ac mae hyn yn cymharu’n ffafriol ag ardaloedd eraill.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·           Gofynnwyd sut mae’r awdurdod wedi denu Gofalwyr Maeth ac a ydynt yn cael eu cyflenwi gan gwmnïau preifat. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y pecyn a gynigir i Ofalwyr Maeth wedi gwella a bod yr awdurdod wedi llwyddo i ddenu 6 gofalwr maeth newydd bob blwyddyn yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Ychwanegodd fod darpar Ofalwyr Maeth wedi dangos diddordeb wrth ymweld â stondin Cyngor Môn yn Sioe Môn yn ddiweddar. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol at y cyfleusterau Cartrefi Clyd ar Ynys Môn sy’n caniatáu i blant mewn gofal dderbyn gofal yn eu cymunedau eu hunain.

·           Gofynnwyd cwestiynau am gydweithio rhanbarthol a sut mae’r awdurdod yn sicrhau fod anghenion lleol yn derbyn sylw. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod cydweithio rhanbarthol yn digwydd mewn perthynas â phrosiectau penodol ac y gall fod yn fanteisiol i awdurdodau lleol rannu gwybodaeth ymysg ei gilydd. Ychwanegodd nad yw pobl am deithio’n bell i weithio oherwydd yr argyfwng costau byw a chostau tanwydd ac ni fydd cydweithio rhanbarthol yn helpu gyda’r broblem hon. Mae’r Awdurdod yn hysbysebu am Staff Gofal ar gerbydau’r Cyngor er mwyn ceisio denu diddordeb darpar ymgeiswyr am swyddi gwag yn yr awdurdod lleol. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion - Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn credu fod angen cydweithio rhwng y 6 awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru ac na ddylai un awdurdod lleol benderfynu peidio cydweithio gyda’r 5 awdurdod lleol arall. Ychwanegodd fod cydweithio rhwng awdurdodau lleol yn ychwanegu gwerth ond mae’n rhaid i Ynys Môn sicrhau fod y gwasanaethau gorau posib yn cael eu darparu i breswylwyr. Nododd ei fod wedi ymweld â chartrefi gofal preswyl yr Awdurdod Lleol yn ddiweddar ac mae safon y ddarpariaeth a’r gofal y mae preswylwyr yn ei dderbyn o’r radd flaenaf. Cyfeiriodd y Pwyllgor at y penderfyniad gan Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd i wyro oddi wrth y model rhanbarthol ar gyfer cartrefi gofal a gofynnwyd a fydd hyn yn creu problemau yn y dyfodol. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ei fod yn cydnabod fod manteision i weithio ar lefel ranbarthol mewn perthynas â gwahanol wasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ond mae angen cydbwyso rhai agweddau ac mae’r Awdurdod hwn yn dymuno targedu gwasanaethau arbenigol lle mae diffyg yn y ddarpariaeth. Dywedodd y Prif Weithredwr fod ymrwymiad i barhau i gydweithio o fewn fframwaith ond cydnabyddir fod problemau lleol yn bodoli oherwydd lleoliad daearyddol yr Awdurdod ac am fod anghenion gwasanaeth preswylwyr yn wahanol.

·           Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at nifer o fylchau yn farchnad Gofal. Gofynnwyd sut mae’r Awdurdod yn bwriadu blaenoriaethu’r gwaith sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â’r bylchau hynny. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod yr Awdurdod yn paratoi rhaglen waith ar hyn o bryd mewn ymateb i’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad (Gofal Cymdeithasol) a’r angen i roi sylw i Wasanaethau Dementia, cymorth i Ofalwyr Anffurfiol, Anableddau Dysgu a Recriwtio staff yn y cyfleusterau Gofal. Nododd fod anghenion gofal preswylwyr wedi newid dros y blynyddoedd a bod poblogaeth yr Ynys yn heneiddio.

·           Gofynnwyd cwestiynau am broblemau recriwtio a chadw staff yn y Sector Gofal a nodwyd bod staff presennol yn dweud eu bod yn cael eu tanbrisio a’u gorweithio a bod cyflogau presennol yn is na’r cyflogau ar gyfer swyddi eraill. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod angen ateb cenedlaethol i fynd i’r afael â recriwtio a chadw staff yn y Sector Gofal. Dywedodd y dylid rhoi sylw i  gydnabyddiaeth ariannol a thelerau ac amodau gan fod y gwaith a wneir gan staff gofal cartref yn aml yn fwy cymhleth gan fod disgwyl iddynt gynorthwyo gydag amrywiaeth ehangach o anghenion gofal. Gofynnwyd cwestiynau pellach am recriwtio staff dwyieithog i wneud y gwaith, ac yn arbennig mewn cartrefi gofal. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod staff y Sector Gofal yn cael eu hannog i ddysgu Cymraeg. Dywedodd ei bod yn bwysig fod pobl sydd â Dementia yn gallu cyfathrebu gyda staff yn eu mamiaith.

·           Gofynnwyd a yw’r Awdurdod yn ymgysylltu ag ysgolion, y coleg lleol a Phrifysgol Bangor i ddenu staff i weithio yn y Sector Gofal ac i ddenu therapyddion arbenigol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwasanaeth yn annog pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau lleol i ystyried gweithio yn y Sector Gofal. Nododd fod yr Awdurdod yn cynnig cyfleoedd mewnol i staff yn y Gwasanaethau Cymdeithasol hyfforddi i fod yn Weithwyr Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad (Gofal Cymdeithasol) rhanbarthol a lleol.

 

GWEITHRED : Fel y nodir uchod.

 

 

Dogfennau ategol: