Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (Rhan 9): 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer 2021-22.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod rhaid i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol baratoi, cyhoeddi a chyflwyno ei Adroddiad Blynyddol i Lywodraeth Cymru yn unol â Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad â'u partneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion ag anghenion am ofal a chymorth, gofalwyr a phlant. Mae hefyd yn gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i gydweithredu, a darparu gwybodaeth i’r awdurdodau lleol at ddibenion eu swyddogaethau

gwasanaethau cymdeithasol. 

 

Adroddodd Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol (Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru) mai rôl y bartneriaeth yw dod â sefydliadau partner ynghyd h.y. Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, y trydydd sector a phartneriaid eraill er mwyn integreiddio gwasanaethau.  Mae’r Tîm Rhanbarthol yn rheoli a chefnogi’r sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael er mwyn galluogi i bartneriaid gyflawni’r gwaith. Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cyfarfod yn fisol, ac mae’n gosod cyfarwyddyd clir i sefydliadau partner mewn perthynas â chylch gwaith y Bartneriaeth ar gyfer gwaith sy’n ddisgwyliedig o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Nid oes gan y Bwrdd unrhyw ffrydiau ariannu pwrpasol ac mae ei weithgareddau’n cael eu hariannu drwy gymysgedd o gyllid yr awdurdod lleol wedi’i gyfuno a chyllid cyfalaf a refeniw gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid. Amlygodd waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dros y deuddeg mis diwethaf a oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Aeth ymlaen i ddweud bod argyfwng ym maes recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol ar hyn o bryd ac mae’r Bwrdd Partneriaeth yn cefnogi pecyn recriwtio cenedlaethol drwy ei sefydliadau partner.   Dywedodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol bod Is-grŵp Plant wedi cael ei sefydlu i amlygu gwaith y Gwasanaethau Plant ledled y rhanbarth sydd hefyd wedi’i amlygu yn yr adroddiad. Aeth ymlaen i ddweud bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn mynd i gyfnod newydd gyda’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol 5 mlynedd yn ysgogi newid a thrawsnewid ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â Chronfa Gyfalaf Tai â Gofal 4

blynedd a Chronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso 3 blynedd. 

 

Fe wnaeth y Pwyllgor ystyried yr adroddiad a chodi’r prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Holwyd ynglŷn â’r prif flaenoriaethau y bydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn canolbwyntio arnynt o 2022/2023 ymlaen.  Dywedodd y Pennaeth Cydweithredu bod y Bwrdd Partneriaeth wedi bod yn canolbwyntio ar waith yn ymwneud â’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ynghyd â’r ddwy gronfa gyfalaf arall a dderbyniwyd ac ar sefydlu rhaglen waith mewn ymgynghoriad â’r sefydliadau partner.  Mae’r asesiad anghenion y boblogaeth hefyd wedi cael ei adolygu ynghyd â’r adroddiad sefydlogrwydd y farchnad.  O’r flwyddyn nesaf ymlaen bydd y Bwrdd Partneriaeth yn mynd i’r afael ag egwyddorion y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ac yn adeiladu ar y rhaglen a roddwyd ar waith gan y Bwrdd ynghyd â’r Cynllun Ardal;

·           Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag i ba raddau y mae’r Bwrdd wedi cyflawni ei flaenoriaethau allweddol yn ystod 2021/2022, dywedodd y Pennaeth Cydweithredu bod y Bwrdd Partneriaeth wedi cyflawni’r blaenoriaethau a oedd wedi cael eu nodi yn y Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid. Ymgymerwyd â gwaith mewn perthynas â’r Asesiad o Anghenion Poblogaeth a’r Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad a chwblhawyd y ddwy flaenoriaeth ar amser. Roedd yr Aelodau’n dymuno cael eglurhad ynglŷn â’r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol o ran y newidiadau cyfyngedig a’r llai o gynnydd a wnaed na’r hyn a ragwelwyd.  Ymatebodd y Pennaeth Cydweithredu bod y dull a ddilynwyd o ran y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol yn wahanol i’r disgwyl a bod rhai arfau a dogfennau dadansoddol wedi cael eu cynhyrchu sydd angen eu dilysu’n a’u gwneud ar gael er mwyn cyflawni gwaith datblygu pellach. Rhaid sicrhau gwell cyswllt rhwng gwahanol elfennau’r rhaglen, gyda dull mwy rhanbarthol yn hytrach nag ardal ar gyfer cyflwyno modelau sydd wedi bod yn effeithiol;

·           Cyfeiriwyd at yr argyfwng cenedlaethol mewn perthynas â recriwtio a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol a holwyd ynglŷn â’r sefyllfa ar Ynys Môn. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod recriwtio a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol yn broblem genedlaethol a bod anawsterau wrth hysbysebu  llenwi swyddi yn y sector gofal;

·           Cyfeiriodd y Pwyllgor at y rhaglen FEDRA’ i a’r arolwg o ddefnyddwyr gwasanaeth ynghyd â’r crynodeb o’r rhaglen a oedd wedi’i gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol.  Holwyd ynglŷn ag effeithiolrwydd y rhaglen FEDRA’ i gan nad ydi’r ystadegau yn yr adroddiad yn gadarnhaol iawn. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod y rhaglen FEDRA’ i yn ddarpariaeth newydd a bod ymgysylltu â rhai defnyddwyr gwasanaetha yn gallu bod yn heriol. Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn rhagweld y bydd cyfle i ddatblygu’r rhaglen ymhellach maes o law.  

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Cadarnhau’r gwaith y mae angen i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei wneud;

·           Nodi cynnydd yn 2021-22 ar y meysydd gwaith sy’n cael eu datblygu’n rhanbarthol drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: