Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol:Cyngor Sir Ynys Môn - Crynodeb Archwilio Blynyddol 2022

Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor er gwybodaeth adroddiad Archwilio Cymru, oedd yn crynhoi’r gwaith a gwblhawyd gan Archwilio Cymru ers y Crynodeb Archwilio Blynyddol diwethaf yn 2021,. Roedd y crynodeb yn rhan o ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru oedd yn cwmpasu gwelliant parhaus; archwilio cyfrifon; gwerth am arian a'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

 

Rhoddodd Yvonne Thomas, Rheolwr Archwilio Ariannol Archwilio Cymru drosolwg o’r gwaith archwilio ariannol a wnaed yn ystod y cyfnod, gan gadarnhau bod yr Archwilydd Cyffredinol, 31 Ionawr, 2023, wedi rhoi barn wir a theg ddiamod ar ddatganiadau ariannol y Cyngor. Roedd yr Archwilydd Cyffredinol, hefyd, yn gyfrifol am ardystio nifer o hawliadau grant. Roedd gwaith archwilio’r ffurflenni Pensiwn Athrawon a Threthi Annomestig bellach wedi’i gwblhau. Ardystiwyd Cymhorthdal Budd-daliadau Tai 2019-20 ar 22 Rhagfyr, 2022, a, bellach, roedd cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar archwilio Cymhorthdal Budd-daliadau Tai 2020-21.

 

Cyfeiriodd Alan Hughes, Arweinydd Perfformiad Archwilio Cymru at waith a wnaed i adolygu trefniadau gwerth am arian y Cyngor oedd yn canolbwyntio ar agweddau yn ymwneud â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chynlluniau lleihau carbon. Yn ystod 2021-22, cynhaliwyd gwaith i archwilio sut roedd cynghorau’n cryfhau eu gallu i drawsnewid, addasu a chynnal y modd y darperid gwasanaethau, gan ganolbwyntio, yma ar Ynys Môn, ar reolaeth strategol y Cyngor o’i asedau a’i weithlu trwy’r adolygiad ‘Llamu Ymlaen’. Adolygwyd, hefyd, gynnydd y Cyngor wrth brosesu’r hawliad Cymhorthdal Budd-daliadau Tai’n gywir a’i ardystio’n amserol. Roedd canfyddiadau'r gwaith adolygu ac ymateb y Cyngor iddynt, ac eithrio Llythyr Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, wedi'u hadrodd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a byddai diweddariad ar yr eitem oedd yn disgwyl sylw’n cael ei roi maes o law. Yn ogystal â gwaith lleol ym mhob cyngor, cynhelid astudiaethau ar draws y sector llywodraeth leol er mwyn gwneud argymhellion i wella gwerth am arian ac roedd disgwyl i gynghorau ystyried yr argymhellion hynny a’u rhoi ar waith, lle y bo’n berthnasol. Roedd yr astudiaethau a gyhoeddwyd ers yr adroddiad gwella blynyddol diwethaf wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Wrth ystyried adroddiad cryno’r archwiliad, cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn yn benodol mewn perthynas â’r datganiad o ffeithiau allweddol -

 

  • Eglurhad o'r ail ffaith allweddol lle dywedwyd yr ystyriwyd bod 2.3% o 44 ardal Cyngor Sir Ynys Môn yn cael ei ystyried o fewn 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
  • Effaith bosibl poblogaeth sy'n lleihau - rhagwelwyd y byddai poblogaeth yr Ynys yn gostwng 1% rhwng 2020 a 2040 - ar gynllunio a darparu gwasanaethau.
  • Cydnabod bod cynnydd a ragwelwyd o 23% yn nifer y bobl 65 oed a throsodd yn debygol o achosi her i ddarparu gwasanaethau awdurdodau lleol

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gan Awdurdod Lleol Ynys Môn 44 “ardal”, y cyfeirid atynt, hefyd, yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA). Roedd un o’r 44 LSOA yn Ynys Môn o fewn 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, oedd yn cyfateb i 2.3%. Cadarnhawyd bod y ffigyrau yn seiliedig ar y wybodaeth orau oedd ar gael, bod niferoedd y boblogaeth yn amrywio a nifer o ffactorau a digwyddiadau gan gynnwys ffyniant economaidd, oedd yn eu tro yn effeithio ar fudo, yn dylanwadu arnynt.

 

 

 

 

 

Penderfynwyd nodi Crynodeb Archwilio Blynyddol 2022.

 

Dogfennau ategol: