Eitem Rhaglen

Adroddiad Perfformiad (Llesiant) Blynyddol 2022/23

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Adroddiad Perfformiad a Llesiant blynyddol ar gyfer 2022/23 i’r Pwyllgor ei ystyried.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer. Mae’r adroddiad yn dangos y cynnydd a wnaed yn erbyn ffrydiau gwaith y Cynllun Trosiannol, sef cynllun gwaith manwl ar gyfer 2022/23, a dengys fod 54% o’r blaenoriaethau wedi’u cwblhau, mae 29% yn parhau i fynd rhagddynt yn 2023/24 ac mae 13% yn hwyr ond, gyda mesurau lliniaru, maent yn debygol o gael eu hadfer ac mae 4% wedi cael eu dileu. Mae ymateb y Cyngor i’r argyfwng costau byw yn cael ei gofnodi, yn ogystal â’r cymorth amrywiol a ddarparwyd gan ddefnyddio arian grant Llywodraeth Cymru i gynorthwyo preswylwyr lleol sy’n wynebu anawsterau oherwydd yr argyfwng. Yn gyffredinol, mae’r Cyngor wedi arddangos cynnydd ac ymrwymiad da mewn sawl maes yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel y tystia’r adroddiad sy’n cyfeirio at gyflawniadau penodol mewn perthynas ag adfywio’r economi a gwreiddio newidiadau economaidd cadarnhaol; galluogi’r sector ymwelwyr a lletygarwch i elwa ar boblogrwydd cynyddol yr Ynys wrth warchod ei hasedau a’i chymunedau, a chynnal a moderneiddio gwasanaethau cymunedol holl bwysig ym maes gofal ac addysg. Roedd canlyniadau’r cerdyn sgorio ar gyfer y flwyddyn hefyd yn dangos fod y perfformiad yn dda, gyda 71% o’r dangosyddion yn wyrdd yn erbyn eu targedau ac roedd 20% arall o fewn 5% i’w targedau. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r ychydig o ddangosyddion sy’n tanberfformio, yn ogystal â chynnal a gwella perfformiad da. Rhaid diolch i holl staff y Cyngor am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn ac i drigolion a chymunedau’r Ynys am y gwytnwch y bu iddynt ei ddangos yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Wrth adlewyrchu ar gynnwys yr adroddiad a’r hyn a gyflawnwyd yn ystod 2022/23, trafododd y Pwyllgor y materion canlynol –

·      Y trefniadau i godi ymwybyddiaeth am lwyddiannau’r Cyngor h.y. i ble fyddai’r cyhoedd yn troi i ddysgu am yr hyn a gyflawnwyd gan y Cyngor yn ystod 2022/23.

·      Y mesurau a roddwyd ar waith a gafodd yr effaith gadarnhaol ar berfformiad ac a oes modd dysgu unrhyw wersi o’r broses honno y gellir eu rhannu gyda’r sefydliad cyfan.

·      A yw’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar allu’r Cyngor i wasanaethu pobl Môn.

·      O ystyried y wybodaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Perfformiad a Llesiant Blynyddol 2022/23, y meysydd perfformiad y mae angen rhoi blaenoriaeth iddynt yn 2023/24, yn seiliedig ar risgiau.

Ymatebodd y Swyddogion a’r Aelodau Portffolio fel a ganlyn –

·      Mae gwerthoedd y Cyngor a nodir yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 yn cynnwys hyrwyddo’r Cyngor a’r Ynys ac mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2022/23 yn darparu sail a chyfiawnhad dros wneud hynny. Mae rhannu negeseuon am yr hyn y mae’r Cyngor yn ei wneud ac yn ei gyflawni yn dechrau gydag Aelodau Etholedig gan eu bod hwy, trwy eu hymwneud a’u cymunedau a’r cyhoedd yn gyffredinol, yn gallu hyrwyddo’r Cyngor a’i waith. Rhoddir cyhoeddusrwydd i brosiectau mawr, megis adeiladu ysgolion newydd, pan wneir y penderfyniad. Os yw’r Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yna’r bwriad yw tynnu rhywfaint o’r penawdau a ffeithluniau o’r adroddiad a’u chyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol a’u rhannu mewn negeseuon mewnol ac, yn y dyfodol, y cynllun yw datblygu’r broses hon ymhellach fel bod negeseuon allweddol o adroddiadau’r Cyngor yn gallu cael eu cyfleu ar unwaith i gynulleidfa ehangach heb orfod treulio amser ar olygu ac adolygu testun a naratif i lunio gwybodaeth gryno y gellir ei rhannu. Serch hynny, mae’r adnoddau sydd ar gael a’r galwadau gwaith o ddydd i ddydd ar amser swyddogion yn cyfyngu ar yr uchelgais hon. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer at swyddfa’r wasg a chyfathrebu’r Cyngor sydd yn weithgar iawn o ran hyrwyddo gwasanaethau, digwyddiadau a chyflawniadau’r Cyngor er mai tîm bychan ydyw.

·      Bod gan bob Gwasanaeth yn y Cyngor ei gynllun gwasanaeth ei hun sy’n nodi blaenoriaethau’r gwasanaeth a sut y byddant yn cael eu cyflawni, yn ogystal ag amlinellu sut fydd y gwasanaeth yn cyfrannu at gyflawni’r amcanion corfforaethol. Mae Penaethiaid Gwasanaeth yn gyfrifol am reoli eu gwasanaeth eu hunain ac am berfformiad y gwasanaeth ac maent yn gweithio gyda chydweithwyr a thimau i sicrhau fod amcanion y gwasanaeth yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus a bod perfformiad gweithredol yn cael ei gynnal. Rhennir profiadau ac arfer dda oddi mewn i dimau a rhwng timau, yn ogystal â chyda’r Tîm Arweinyddiaeth, er mwyn medru dysgu gwersi a gwneud gwelliannau lle bo angen hynny.

·      Mae’r argyfwng costau byw wedi arwain at fwy o alw am Wasanaethau’r Cyngor, yn enwedig Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae staff, adnoddau ac amserlenni ar gyfer cynnal asesiadau o dan bwysau gan fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn mwy o atgyfeiriadau, gyda’r achosion yn fwy cymhleth ac mae problemau iechyd meddwl yn gysylltiedig â nifer ohonynt. Mae’r Cyngor wedi sefydlu grŵp ataliol strategol i ddadansoddi data a demograffeg ac asesu effaith yr argyfwng costau byw ar drigolion yr Ynys ac mae perthynas waith dda y Cyngor gyda sefydliadau trydydd sector ac asiantaethau partner yn helpu’r Cyngor i ddeall y sefyllfa yn y cymunedau ac ar lawr gwlad. Manteision bod yn awdurdod llai yw y gellir addasu’r ddarpariaeth yn gyflym i gwrdd ag anghenion sy’n newid a darparu atebion yn gyflym.

·      Bod Dogfen Gyflawni Flynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24 yn nodi’r gwaith y bydd y Cyngor yn ei wneud yn ystod y flwyddyn i gyflawni amcanion Cynllun y Cyngor 2023/28 ac mae’n darparu cynllun ar gyfer cyflawni targedau penodol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn. Yn ogystal, mae Adroddiad Hunanasesiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2022/23 yn darparu arfarniad o berfformiad cyffredinol y cyngor ar gyfer y flwyddyn, gan gynnwys yr hyn y gall ei wneud yn well o ran perfformiad, defnyddio adnoddau a rheoli risgiau, a sut y gall wneud hynny. Ar sail y dystiolaeth sy’n cael ei dwyn ynghyd o ffynonellau amrywiol, nodwyd meysydd penodol i’w gwella a byddant yn cael eu monitro trwy gydol 2023/24. Trydedd elfen y Fframwaith Gynllunio a Rheoli Perfformiad Corfforaethol yw’r cerdyn sgorio ac mae olrhain dangosyddion perfformiad penodol o gymorth i nodi meysydd sy’n tanberfformio, yn ogystal ag unrhyw dueddiadau sy’n dangos fod perfformiad yn dirywio, ac mae’n golygu y gellir rhoi mesurau lliniaru ar waith i fynd i’r afael â thanberfformiad mewn proses ailadroddol lle mae risgiau’n cael eu nodi cyn gweithredu arnynt a’u monitro.

Gofynnodd yr Aelodau fwy o gwestiynau am statws ambr gweithred allweddol (9) lle mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau lleol i’w grymuso a’u galluogi i fanteisio ar gyfleoedd a ddarperir gan gontractau’r Cyngor, ac mewn perthynas â hwyluso gwaith atgyweirio ar y Morglawdd yng Nghaergybi.

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn delio gyda nifer o flaenoriaethau sy’n gwrthdaro ar hyn o bryd, gan gynnwys cynllunio ar gyfer Porthladd Rhydd Caergybi a pharatoi bidiau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac mae’n golygu fod arbenigedd y tîm datblygu economaidd bychan yn cael ei ddefnyddio ar ffrydiau gwaith eraill. Fodd bynnag, nodwyd y pryder a gofynnir i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd egluro’r cynllun gweithredu a’r amserlen mewn perthynas â gweithred allweddol (9). Serch hynny, mae nifer o brosiectau a oedd yn cael eu cynllunio'r llynedd bellach yn barod i’w rhoi ar waith a buont yn destun gweithgareddau ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth. Y gobaith yw y gellir adrodd ar y prosiectau hyn pan gyflwynir Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod prosesau caffael yn cael eu hadolygu a’u diweddaru gyda’r bwriad o gryfhau caffael lleol.

O ran y Morglawdd, cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r cynlluniau i adnewyddu’r Morglawdd ac mewn ymateb i gwestiwn am gynhyrchu deunyddiau ar gyfer y gwaith a ph’un a fyddai’r broses honno’n digwydd yn lleol, dywedodd nad yw’r Cyngor yn gallu ymyrryd ym mhroses gaffael Stena Line ond gallai wneud ymholiadau am y dull caffael a’r fethodoleg adeiladu. Gydag unrhyw brosiect mae’r Cyngor yn pwysleisio wrth y datblygwr pa mor bwysig yw defnyddio gweithwyr a chadwyni cyflenwi lleol ac mae sicrhau buddiannau lleol yn rhan o egwyddorion craidd y Cyngor a’i ymagwedd tuag at ddatblygiadau. Mewn ymateb i gais yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R. Llewelyn Jones, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n rhoi diweddariad ysgrifenedig iddo ynglŷn â sefyllfa’r Morglawdd.

Ar ôl ystyried y dogfennau a’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan y Swyddogion a’r Aelodau Portffolio, penderfynwyd argymell yr Adroddiad Perfformiad a Llesiant 2022/23 i’r Pwyllgor Gwaith fel adlewyrchiad teg a chyflawn o waith yr Awdurdod yn ystod y cyfnod.

Gweithredoedd: Y Prif Weithredwr i –

·                     Dderbyn eglurhad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ynglŷn â’r cynllun gweithredu a’r amserlen ar gyfer Gweithred Allweddol (9) o dan y ffrwd gwaith Adfywio’r economi a gwreiddio newid economaidd cadarnhaol, a

·                     Paratoi diweddariad ysgrifenedig ar gyfer yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R. Llewelyn Jones, ynglŷn â sefyllfa adnewyddu’r Morglawdd yng Nghaergybi.

 

Dogfennau ategol: